
Band eang
a llawer mwy
Shwmae. Oi. Hello.
Ni yw prif ddarparwr rhwydwaith amgen Cymru, yn gosod rhwydwaith digidol Gigabit i wneud pethau’n well i fusnesau ar draws y genedl. Mae’n stwff y genhedlaeth nesaf, sy’n rhoi gwasanaethau tra chyflym a dibynadwy iawn i fusnesau a chymunedau, o dîm talentog sydd wedi lleoli rownd y gornel.
Mae’n rhaid i dimau uchelgeisiol gael TG sy’n gweithio’n galed drostyn nhw, er mwyn iddyn nhw allu bwrw ati ’da’u gwaith. Dyna sut mae Ogi Pro yn helpu. Ryn ni ’ma i wneud pethau’n well i fusnesau drwy Gymru
Wyt ti’n barod i roi tro ar Pro?

Y cysylltiad perffaith
Band eang ffeibr llawn i fusnesau Cymru.









I fusnesau sy’n anorchfygol
Byddwn ni’n dy helpu i gael trefn ar dy ddesg TG. Ac nid rhyngrwyd rhyfeddol o gyflym yn unig gei di, ond popeth mae ei angen arnat ti i wneud dy waith o ddydd i ddydd gyda hyder llwyr. Mae hynny’n golygu cysylltiad, diogelwch, wifi, teleffoni, gofod storio yn y cwmwl, a chymorth TG.

Partner technoleg i fusnesau doeth
“Roedd ein gwaith yn arfer bod ar fyrddau, corlannau, papur a phren mesur yn unig – ac erbyn hyn ryn ni’n gweld trawsnewidiad mawr i’r cwmwl a gweithio hybrid. Dyna mae staff a chleientiaid yn ei ddisgwyl – ac mae Ogi yn ein helpu i gyflawni hynny. Maen nhw – yn llythrennol – yn ein helpu ni i gyrraedd y gwaith, ble bynnag mae angen i hynny fod!”
~ Toby Adam, Gaunt Francis Architects
Ryn ni ’ma i helpu
Ryn ni’n barod i helpu dy fusnes ym mhob ffordd dan haul: o gynhyrchion i dy gadw’n ddiogel ac yn barod at y dyfodol, i’r holl wasanaethau a’r cymorth TG y bydd eu hangen arnat ti. A’r cyfan yn dod gennyn ni fan hyn yng Nghymru.
Mae tîm cyfeillgar ein Desg Wasanaeth i Fusnesau yng Nghaerdydd yn arbenigwyr heb eu hail, a’u busnes nhw yw dod i nabod dy fusnes di.