Datganiad am Gaethwasiaeth Fodern a Masnachu Pobl

[Ionawr 2022] Mae’r datganiad hwn yn cael ei wneud ar ran Spectrum Fibre Limited a’i Grŵp, sy’n masnachu dan enw Ogi. 

Ryn ni’n gwmni band eang ffeibr llawn sydd hefyd yn cynnig gwasanaethau rheoli i fusnesau. Ryn ni wedi ein lleoli yng Nghaerdydd, de Cymru. 

Mae Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015 yn cynnwys camau sy’n ymwneud â “chaethwasiaeth, caethwasanaeth neu lafur gorfodol” a “masnachu pobl” (“Caethwasiaeth Fodern”). 

Ein strwythur a’n cadwyn gyflenwi

Mae ein darparwyr yn y gadwyn gyflenwi yn cynnwys busnesau sy’n helpu i adeiladu ein rhwydwaith yn ogystal â gwasanaethau cynghori a gwasanaethau proffesiynol arbenigol sy’n cefnogi ein gweithwyr a’u hamgylchedd gweithio.

Ein polisïau

Mae gan Ogi nifer o bolisïau sy’n ceisio lleihau cymaint ag y bo modd y risg o gaethwasiaeth fodern yn ein cadwyn gyflenwi. Yn eu plith mae:

  • Llawlyfr y Cwmni sy’n ceisio meithrin amgylchedd yn y gweithle sy’n deg, yn agored ac yn dangos parch, ynghyd â hyrwyddo a gwarchod hawliau ac urddas ein holl weithwyr.
  • Ein Polisi Prynu sy’n cyflwyno ein gofynion mewnol ar gyfer prynu nwyddau a gwasanaethau.
  • Ein Polisi Chwythu’r Chwiban sy’n annog gweithwyr i roi gwybod am unrhyw bryderon gan gynnwys pryderon yn gysylltiedig â chaethwasiaeth fodern/masnachu pobl, llafur plant a llafur gorfodol.

Dydyn ni ddim yn goddef llafur gorfodol na chaethwasiaeth fodern o unrhyw fath yn ein busnes, nac yn ein cadwyn gyflenwi.

Ryn ni’n cydnabod bod caethwasiaeth fodern yn bodoli mewn economïau datblygedig a datblygol ac yn yr holl sectorau busnes. O ganlyniad, ryn ni’n ystyried ein rhwymedigaethau o dan y Ddeddf Caethwasiaeth Fodern yn gwbl o ddifrif, a hynny fel rhan o’n dull ehangach o weithio ym maes hawliau dynol. Mae ein hymrwymiadau ym maes hawliau dynol wedi’u llywio gan yr egwyddorion a geir yn Natganiad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig am Hawliau Dynol ac ryn ni’n cefnogi Egwyddorion Canllaw y Cenhedloedd Unedig ar Fusnes a Hawliau Dynol.

Ryn ni hefyd yn sicrhau bod ein cyflenwyr yn ymwybodol o’n polisïau ac yn glynu wrth yr un safonau uchel. Mae angen i’n holl gyflenwyr ddatgan eu bod nhw’n cydymffurfio’n llwyr â Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015. Pan na fydd cyflenwyr yn gallu ateb ein disgwyliadau, byddwn ni’n gweithio i lenwi’r bylchau. Ryn ni’n gofyn am safonau ymddygiad moesegol uchel drwy’r holl fusnes, ac mae polisïau a gweithdrefnau’n bodoli i sicrhau bod gweithwyr, cyflenwyr a chontractwyr ar bob lefel yn deall y safonau hynny ac yn glynu wrthyn nhw bob amser.

Asesu a rheoli risg

Mae Ogi’n mynd ati’n rheolaidd i werthuso natur y risg ac i ba raddau y mae’n agored i’r risg y gallai caethwasiaeth fodern ddigwydd yn ei gadwyn gyflenwi.

Ryn ni’n sicrhau bod ein holl gyflenwyr yn cydymffurfio â’n Polisi Caethwasiaeth Fodern. Ryn ni’n gorfodi cod cydymffurfio llym a dydyn ni ddim yn goddef caethwasiaeth na masnachu pobl yn ein cadwyni cyflenwi. Er enghraifft, os byddwn ni’n canfod tystiolaeth o fethiant i gydymffurfio â’n polisi, byddwn ni’n mynd ati ar unwaith i geisio terfynu ein perthynas â’r cyflenwr dan sylw.

Bydd Ogi’n defnyddio amrywiaeth eang o gyflenwyr sy’n cyflenwi nwyddau i’w gwerthu, sy’n darparu gwasanaethau, ac sy’n gefnogi ein gwaith. Ryn ni’n cydnabod bod nifer o heriau yn ein hwynebu o ran sicrhau tryloywder llwyr ym mhob haen yn ein cadwyn gyflenwi. Ryn ni’n segmentu ein cyflenwyr uniongyrchol ar sail gwerth a risg ac yn dilyn prosesau diwydrwydd dyladwy yn unol â hynny.

Fel rhan o’n hymdrechion i fonitro a lleihau’r risg y gallai caethwasiaeth a masnachu pobl ddigwydd yn ein cadwyni cyflenwi, ryn ni wedi mabwysiadu’r gweithdrefnau diwydrwydd dyladwy canlynol. Ryn ni’n canfod cyflenwyr sydd â risg uchel bosibl ar draws ein cadwyn gyflenwi, a hynny ar sail y wlad y mae’r cyflenwr wedi’i leoli ynddi ynghyd â’r sectorau y mae’n gweithio ynddyn nhw.

Nod ein gweithdrefnau yw:
  • canfod ac asesu meysydd risg posibl yn ein busnes a’n cadwyni cyflenwi
  • monitro meysydd risg posibl yn ein busnes a’n cadwyni cyflenwi
  • lleihau’r risg y gallai caethwasiaeth a masnachu pobl ddigwydd yn ein busnes a’n cadwyni cyflenwi
  • cyflwyno camau digonol i warchod pobl sy’n chwythu’r chwiban.
Hyfforddiant

Ryn ni’n buddsoddi mewn addysgu ein gweithwyr i gydnabod risgiau caethwasiaeth fodern a masnachu pobl yn ein busnes a’n cadwyni cyflenwi. Drwy ein rhaglenni hyfforddiant, anogir gweithwyr i ganfod a rhoi gwybod am unrhyw achosion o dorri ein polisi gwrth-gaethwasiaeth a masnachu pobl. Bydd gweithwyr yn dysgu am fanteision camau llym i fynd i’r afael â chaethwasiaeth a masnachu pobl, ynghyd â goblygiadau methu â chael gwared ar gaethwasiaeth a masnachu pobl o’n busnes a’n cadwyni cyflenwi.

Effeithiolrwydd a chamau gweithredu yn y dyfodol

Bydd Ogi yn parhau i adolygu ein proses gaffael ac yn ymwneud â’n cyflenwyr yn hyn o byth. Ryn ni hefyd yn bwriadu adolygu a chyhoeddi ein polisi ym maes caffael. Ryn ni’n bwriadu adolygu a chryfhau ein polisïau ar gyfer cyflenwyr mewn perthynas â chaethwasiaeth fodern, gan ystyried sut y gallwn ni fynd ati mewn ffordd effeithiol i adolygu a gwerthuso’r datganiadau am dryloywder a gyhoeddir gan ein cyflenwyr. Mae gennyn ni weithdrefnau a chamau rheoli cadarn ar gyfer derbyn cyflenwyr a byddwn ni’n parhau i adolygu a datblygu’r rhain. Byddwn ni’n cyfathrebu’r Datganiad a’n Polisi Caethwasiaeth Fodern i’n gweithwyr ac yn rhoi hyfforddiant a chymorth lle bydd angen hyn i sicrhau eu bod nhw’n ymwybodol o’n rhwymedigaethau.

Ein bwriad yw rhoi sylw i’n partneriaid adeiladu ynghyd ag unrhyw is-gontractwyr mewn dull graddol, gan gyfathrebu ein hegwyddorion ym maes caethwasiaeth fodern a gofyn am wybodaeth am eu polisïau a’u prosesau ar gyfer mynd i’r afael â llafur gorfodol a masnachu pobl.

Mae’r datganiad hwn yn cael ei wneud yn unol ag adran 54(1) o Ddeddf Caethwasiaeth Fodern 2015. Hwn yw datganiad caethwasiaeth a masnachu pobl Spectrum Fibre Limited ar gyfer y flwyddyn ariannol sy’n gorffen ar 31 Rhagfyr 2022.