
Gwna dy fusnes yn anorchfygol
Mae gan fusnesau prysur fwy o bethau’n galw. O wasanaethau diogelwch unigryw o’r radd flaenaf, i dechnoleg llais a’r systemau storio mwya’ arloesol yn y cwmwl… ryn ni’n barod pan wyt ti.
Mae modd rhoi ein cysylltiad Ogi Pro yn dy leoliad drwy ein rhwydwaith ffeibr llawn newydd sbon, neu drwy rwydweithiau ein partneriaid. Felly os nad wyt ti yn un o ardaloedd Ogi, paid â gofidio – fe elli di gofrestru i gael gwasanaeth rheoli cyfrifon rhagorol Ogi o hyd.
Mae gennyn ni atebion i dy helpu i reoli dy ddata, i fanteisio i’r eitha’ ar dy rwydwaith, ac i bweru dy dimau i weithio’n fwy clyfar ac yn fwy diogel – waeth ble mae’r swyddfa heddiw.
Dere i ni gychwyn…










Band eang i fusnesau a llawer mwy
Ydy, mae Ogi Pro yma i roi gwibgysylltiad hynod o ddibynadwy i ti – ffeibr llawn i’r lleoliad neu wasanaethau llinell penodol. Ond dim ond dechrau pethau yw’r gwasanaeth cysylltu hwn. Fe allwn ni roi hwb i dy adran TG gyda chynhyrchion sydd ar flaen y gad yn y farchnad, ynghyd â rhannu ein harbenigedd drwy helpu dy fusnes i weddnewid pethau’n ddigidol.
Mae Ogi hefyd yn rhoi cyfle i gwsmeriaid busnes bweru eu perfformiad digidol gydag amryw o wasanaethau rheoli TG. Sgwrsia â’n tîn Datblygu Busnes i greu map digidol sy’n addas i ti, gan ddewis a dethol er mwyn cael dyfodol symlach, gwell ym myd TG.
Pweru busnesau
“Pan wnaethon ni holi aelodau posibl a chwsmeriaid i gychwyn, fe wnaethon ni ddeall bod angen inni gynnig coffi gwych, gofod gwych, ond hefyd, rhyngrwyd cyflym a dibynadwy. Wel fe wnaethon ni’r ddau gyntaf, ac fe roddodd Ogi’r cysylltiad inni.”
~ Cai Gwinnutt, Prif Swyddog Technoleg, Tramshed tech
Ryn ni ’ma i helpu
Ryn ni’n barod i helpu dy fusnes ym mhob ffordd dan haul: o gynhyrchion i dy gadw’n ddiogel ac yn barod at y dyfodol, i’r holl wasanaethau a’r cymorth TG y bydd eu hangen arnat ti. A’r cyfan yn dod gennyn ni fan hyn yng Nghymru.
Mae tîm cyfeillgar ein Desg Wasanaeth i Fusnesau yng Nghaerdydd yn arbenigwyr heb eu hail, a’u busnes nhw yw dod i nabod dy fusnes di. Bydd modd siarad ag unigolyn go iawn wastad, pryd bynnag y bydd galw, a gan ein bod ni’n gwmni lleol, bydd ein tîm yn gallu datrys pethau mewn dim o dro. A hynny wastad â gwên.