Yma yng Nghymru, pan ma rhywun yn gweiddi ‘Ogi’ mae’n amhosibl peidio gwenu ac ymateb. Mae’n gri sy’n uno ac yn ein galw ynghyd. A dyna’n union y mae Ogi ishe’i wneud yn ddigidol.
Mae Ogi wrthi’n pweru bywyd arlein mewn cymunedau ar hyd a lled Cymru. Ryn ni’n dod â rhwydwaith Gigabit-bosibl digidol i’r trefi a’r cartrefi sy’n gartref i ni gyd. Gan ddarparu gwibgysylltiadau cyflym, o ansawdd, am brisiau da – a gwasanaeth o Gymru – i gartrefi a busnesau lleol.
Dysga am sut mae Ogi wrthi’n cysylltu pobl at syniadau, at gyfleoedd ac at ein gilydd: er budd gwaith, bywyd a chwarae!