Mae ffeibr llawn yn fusnes i bawb.
Cyflymder aruthrol – dere i ni wefru perfformiad dy fusnes di drwy gysylltiad sy’n addas i’r genhedlaeth nesa’. Pa mor gyflym hoffet ti fynd?
Ryn ni yr un mor gyflym lan a lawr: yn cynnig cyflymder lawrlwytho ac uwchlwytho cymesur i fusnesau ar ein rhwydwaith, sy’n hollbwysig i ddyfodol llawn fideogynadledda.
Galwadau llais am ddim: Trosglwydda dy alwadau i’n gwibgysylltiad band eang. Wedi’i ddylunio’n benodol i ddisodli llinellau tir traddodiadol, mae’r gwasanaeth yn fforddiadwy ac yn rhwydd i’w ddefnyddio. Ac fe gei di gadw dy rifau presennol.
Fe gei di weithio ym mhobman: Cysylltu mwy, cymudo llai. Gyda gwibffordd ddigidol yn syth at stepen dy ddrws, does dim rhaid rhoi’r allweddi yn y car bellach – fe gei di gwrdd â phawb ym mhobman, gan leihau dy allyriadau carbon ar yr un pryd.