
Ryn ni’n paratoi i wibgysylltu ardal Torfaen
Shwmae Torfaen!
Ni yw Ogi – cwmni band eang gyda’i wreiddiau yng Nghymru – ac ryn ni yma i bweru cymunedau fel Griffithstown, New Inn, Pont-y-moel, Pen-y-garn, Pont-y-pŵl, Sebastopol, Trosnant a Wainfelin gyda’n gwibgysylltiad band eang ffeibr llawn. Ryn ni’n perthyn i’r genhedlaeth nesa, ac yn barod i dy helpu di i weithio, i dy ddiddanu, ac i dy gysylltu â dy gymuned. Felly os wyt ti’n ‘Gyfaill Cymdeithasol’ neu ‘Finjwr y Bocs’ – ma pecyn Ogi ar gael sy’n gwbl addas i ti.

Pa mor gyflym te?
Mae pecynnau tra gyfylym a thra ddibynadwy Ogi’n dechrau ar gyflymder o 150Mbps… a byddwn ni’n barod i’w lansio ym Griffithstown, New Inn, Pont-y-moel, Pen-y-garn, Pont-y-pŵl, Sebastopol, Trosnant a Wainfelin cyn bo hir.
Am fwy o wybodaeth, ac er mwyn i ni gadw mewn cysylltiad, cofrestra dy diddordeb gan ddefnyddio ein chwilotydd côd post defnyddiol.
Cymuned wrth wraidd popeth a wnawn
Ryn ni yma i bweru cartrefi a busnesau ar draws ardal Torfaen ac – yn union fel ti – ryn ni’n ishe cyfrannu at y gymuned, a chefnogi timau a grwpiau lleol mewn llefydd fel Griffithstown, New Inn, Pont-y-moel, Pen-y-garn, Pont-y-pŵl, Sebastopol, Trosnant a Wainfelin. Felly os wyt ti’n gwybod am ddigwyddiad neu gymedithas sy’n dod â phobl ynghyd, ac sy’n gwneud gwahaniaeth yn y gymuned, yna rho wybod i ni. Dysga fwy am y cyfleoedd sydd ar gael trwy ein cronfa gymunedol ‘Cefnogi’.

Gwir ffeibr, gwir fantais
Ryn ni’n dod â phŵer ffeibr yn syth at dy ddrws – gan osgoi’r hen gysylltiadau bach hen-ffasiwn, a gosod rhwydwaith newydd sbon ar gyfer yr holl ffrydio y byddi di am ei wneud, heddiw ac yn bell i’r dyfodol.
Mae adeiladu rhwydwaith ffeibr llawn yn golygu bod angen cynllunio, cloddio a tharfu rhywfaint, o dro i dro. Ond, paid â phoeni, os bydd angen i ni gloddio ar dy hewl di, dim ond ychydig wythnosau y dylai hynny ei gymryd. Ar ôl ei osod, bydd modd diweddaru’r rhwydwaith yn barhaus, felly fyddi di ddim yn gweld ein cloddwyr eto am gryn amser (oni bai bod angen i ni atgyweirio rhywbeth yn gyflym, wrth gwrs).
Llaw lan os hoffet fynd yn gynt!

Mae chwyldro’n ddim byd newydd…
Wyddost oedd Pont-y-pŵl yn ganolfan gwaith metel cynnar, gyda mwyndoddi haearn yn dyddio’n ôl i 1577, a dywedir mai mewnfudwyr o Bont-y-pŵl a adeiladodd yr efail gyntaf yn yr Unol Daleithiau ym 1652. Pont-y-pŵl oedd y dref gyntaf ym Mhrydain i gynhyrchu tunplat nôl ym 1720.
Mae’n anhygoel beth sy mas na ar y we, on dyw hi? *Ffynhonnell: Britanica.