Gwasanaeth llais

Mae’n bryd dechrau sgwrsio 'to, gyda’n cysylltiad llinell ffôn dros ffeibr.
Bounce Arrow

Beth yw gwasanaeth Llais Ogi?

Mae gwasanaeth Llais Ogi yn teimlo’n union fel gwasanaeth ffôn arferol, ond ei fod yn cael ei ddarparu dros y rhyngrwyd. Mwynha alwadau clir fel cloch ac opsiynau hyblyg am bris anhygoel, a hynny heb linellau ffôn traddodiadol. Dewisa dy becyn, rho dy ffôn presennol yn y plwg, a dalia ati i sgwrsio, gan gadw dy rhif presennol, hyd yn oed.

blue and mint Ogi full fibre phone

Llais Ogi pryd bynnag

Galwadau i linellau tir neu ffonau symudol unrhyw bryd am £10 y mis.

Cysylltu â ni
red and yellow Ogi full fibre phone

Llais Ogi gyda’r nos ac ar benwythnosau

Galwadau i linellau tir rhwng 7pm a 7am ac ar benwythnosau am £5 y mis.

Cysylltu â ni
pink and purple Ogi full fibre phone

Peiriant ateb, Llais Ogi

Cadwa drefn ar dy negeseuon am £2 y mis

Cysylltu â ni

Cadwa dy rhif

Os hoffet ti gadw dy rhif presennol, dim problem. Fe wnawn ni dy drosglwyddo i Ogi heb unrhyw gostau ychwanegol. Gall hyn gymryd ychydig ddiwrnodau, ac os bydd oedi, fe wnawn ni roi rhif dros dro i ti. Galli di hefyd ddewis cael rhif newydd, os byddai’n well gennyt ti hynny.

Man smiling, talking on the phone.

Nodyn pwysig...

Mae gofalu am ein cwsmeriaid yn bwysig i ni fan hyn yn Ogi. Gan fod ein gwasanaethau llais yn cael eu darparu dros y rhyngrwyd, cofia na fyddan nhw’n gweithio os bydd y trydan yn diffodd neu os na fydd y rhyngrwyd yn gweithio. Fydd dim modd gwneud galwadau 999, galwadau mewn argyfwng, nac unrhyw alwadau eraill yn yr amgylchiadau hyn. Dylet sicrhau bod gennyt ffordd arall, wrth gefn, o wneud galwad mewn argyfwng (ffôn symudol, er enghraifft), i gyd-fynd â dy wasanaeth Llais Ogi.