Ryn ni yma i gadw Cymru ar y brig

Shwmae. Oi. Helo.

Yma yng Nghymru, pan fydd rhywun yn gweiddi ‘Ogi!’ mae’n amhosib peidio â gwenu – neu ymateb.

Dyna pam gwnaethon ni ddewis Ogi yn enw: mae galw’r gair yn dod â ni at ein gilydd. A dyna’n union beth ryn ni’n ei wneud, yn ddigidol.

Band eang gwell i Gymru

Ryn ni’n adeiladu seilwaith rhyngrwyd ffeibr llawn newydd – yn lle’r hen rwydwaith copr sydd gyda ni mewn cynifer o gymunedau ar hyn o bryd. Bydd hyn yn rhoi mantais ar-lein go iawn i bobol, cymunedau a busnesau ledled Cymru.

Bydd y cysylltiad ffeibr llawn (FTTP fydd rhai yn ei alw, am ‘Fibre To The Premises’) yn cyrraedd reit lan at stepen dy ddrws.

Mae’n gysylltiad rhyngrwyd uniongyrchol atat ti. Gwibffordd ddigidol yn syth at dy ddrws ffrynt.

Ryn ni’n ar ein ffordd atat ti!

Y cymunedau cyntaf un i gael ein ffeibr llawn fydd trefi marchnad Hwlffordd a’r Fenni. Byddwn ni hefyd yn rhoi profiad ffeibr llawn i glwstwr o gymunedau yn Y Fro, gan gynnwys Y Rhws, Sain Tathan a Llanilltud Fawr.

Dere i weld pa gymunedau ryn ni ynddyn nhw’n barod – a ble ryn ni’n mynd nesa.

Dim tagfeydd o’n blaenau…

Mae Consesiwn Cefnffyrdd De Cymru yn golygu bod modd i Ogi adeiladu gwibffordd ddigidol rhwng trefi a phentrefi, canolfannau a chyfnewidfeydd data ledled y de. Bydd modd i wybodaeth ddigidol ddi-ben-draw wibio’n gynt na’r gwynt i mewn a mas o’r rhanbarth.

Byddwn ni’n dechrau tyrchu i’r pibelli yn y de-ddwyrain yn nes ’mlân eleni, a’r nod yw creu rhwydwaith a fydd yn hwb i bob math o bartneriaid lleol a chwmnïau telathrebu byd-eang fel ei gilydd. Bydd hynny’n hwb i Gymru ei hun.

Oi! Oi! Oi!

Mae ein timau yma i gefnogi’r gymuned leol yn ystod y broses o gyflwyno, gan helpu pawb i wneud y gorau o’r gwasanaeth digidol tra chyflym newydd hyn nawr, ac yn y dyfodol.

Efallai y bydded yn ein gweld rownd y gornel – ac os wyt ti, plîs stopia i ddweud ‘shwmae’, ‘Ogi, Ogi, Ogi’ neu ‘helo’ – ryn ni’n griw cyfeillgar iawn!