Ogi’n bwrw ati i sicrhau bod prifddinas Cymru’n barod at y dyfodol

29 Mawrth 2023
Bounce Arrow
Adre » Am Ogi » Newyddion » Ogi’n bwrw ati i sicrhau bod prifddinas Cymru’n barod at y dyfodol

Mae Ogi wedi datgelu cynlluniau i ddod â rhwydwaith ffeibr llawn y cwmni i Gaerdydd, gan roi hwb gwerth miliynau o bunnoedd i led band y brifddinas, a hwb i fusnesau ar yr un pryd.

Bydd gwaith sy’n dechrau’r mis hwn [Mawrth 2023] yn dod â’r dechnoleg band eang ffeibr llawn sy’n gallu cyrraedd y cyflymderau uchaf i rannau o’r ddinas lle bu twf sylweddol yn y blynyddoedd diweddar.

Gan gynnig cyflymderau cymesur o hyd at 10Gbps, bydd y gwasanaeth ffeibr llawn newydd yn rhoi gwibgysylltiad dibynadwy i fusnesau ledled y ddinas. Am y tro cyntaf yn y rhan fwyaf o achosion, bydd yn gwneud hyn heb fod angen llinellau drud ar brydles.

Ers degawdau, mae cwmnïau’r ddinas wedi gorfod dibynnu ar linellau penodol ar brydles, a’r rheini’n aml yn costio degau o filoedd o bunnoedd y flwyddyn i’w cynnal. Wrth i’r darparwr band eang amgen o Gymru gyflwyno’r gwasanaeth diweddaraf hwn, mae’n cynnig opsiynau mwy fforddiadwy o lawer i bobl, gan ddefnyddio’r dechnoleg ffeibr llawn fwyaf datblygedig ar y farchnad.

Mae Ogi wedi magu momentwm yn y blynyddoedd diwethaf, gan fuddsoddi miliynau o bunnoedd mewn trefi a phentrefi drwy’r de – yn aml cyn y prif ddarparwyr – a chynnig cyflymder a chadernid y mae galw mawr amdanyn nhw.

Mae’r busnes blaengar hwn o Gymru eisoes yn rhoi gwasanaethau i leoliadau fel Tramshed Tech a PureCyber, ac i arcedau eiconig a lleoliadau chwaraeon y ddinas. Bydd y cam nesaf hwn yn cyflwyno technoleg ffeibr llawn Nokia – technoleg sy’n addas i’r genhedlaeth nesaf – i fwy o fusnesau hyd yn oed, a hynny’n gynt o lawer na bwriadau’r prif ddarparwyr.

Yn ôl y Fair Internet Report* ym mis Mawrth, roedd y cyflymder lawrlwytho cyfartalog uchaf yng Nghaerdydd tua 99Mbps ar ddechrau 2023. Mae disgwyl i rwydwaith newydd Ogi gynnig cyflymderau sydd dros 10 gwaith yn gyflymach, a hynny fel mater o drefn. Mae’r llinellau ffeibr llawn yn gallu cyrraedd cyflymderau cymesur o rhwng 2Gps a 10Gbps am y tro cyntaf erioed, a hynny dros rwydwaith ffeibr llawn pwrpasol.

Wrth gyhoeddi’r cynlluniau, meddai Ben Allwright, Prif Weithredwr Ogi: “Rydw i wrth fy modd o weld ein gwaith yn mynd rhagddo yn y brifddinas – cymuned fusnes ffyniannus sydd wedi’i seilio ar wasanaethau digidol, a chartref ein pencadlys ni.

“Mae oes y data mawr wedi cyrraedd Caerdydd, a fu hi erioed yn bwysicach cael cysylltiad cyflym, dibynadwy. Wrth i ni geisio gweithio mewn ffordd fwy hybrid a chysylltiedig, mae’r diweddariad digidol hwn drwy’r ddinas yn gosod sylfeini newydd i Gymru ffynnu heddiw, ac ymhell i’r dyfodol.

“Bydd y datblygiad hwn yn gwella ein gwasanaeth rheoli TG presennol, sydd ar flaen y gad yn y farchnad, ac yn cynnig cymorth lleol dafliad carreg i ffwrdd. Bydd yn dod â holl anghenion busnesau ynghyd am y tro cynta’ erioed.”

Mae’r buddsoddiad newydd hwn, sy’n cael ei ariannu’n breifat, yn dilyn cyflwyno gwasanaethau Ogi mewn trefi cymudo fel y Coed Duon, Dinas Powys, Maesteg a Phont-y-pŵl, lle mae cannoedd o gartrefi a busnesau lleol eisoes yn elwa o wibgysylltiad hynod ddibynadwy y darparwr o Gymru.

 Meddai Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd: “Pan agorais i adeilad pencadlys Ogi yng nghanol Caerdydd y llynedd [Mehefin 2022], cyfeiriodd y cwmni at eu cynlluniau cyflwyno band eang uchelgeisiol ar gyfer Caerdydd, ac rwy’n falch iawn o glywed eu bod, yn dilyn buddsoddiad ar draws de Cymru, nawr yn bwriadu dechrau gweithio ar rôl eu prifddinas.

“Nododd adroddiad diweddar gan y ‘Centre for Cities’ fod Caerdydd yn brif Ddinas Graidd y DU o ran ei seilwaith digidol, felly dylai’r buddsoddiad gan Ogi adeiladu ar yr isadeiledd hwn sy’n hanfodol i gyflawni ffyniant cymdeithasol ac economaidd i’n holl gymunedau – ac i’n helpu ni i dyfu buddsoddiad gan fusnesau twf uchel sydd yma’n barod,  ac o’dd rhai oedd yn edrych i sefydlu yn y ddinas.”

Mae disgwyl cwblhau’r gwaith erbyn dechrau 2024, gyda’r gwasanaethau cyntaf ar gael yn gynt o lawer wrth i’r rhwydwaith gael ei gyflwyno fesul cam. Mae hyn yn rhan o gam cyntaf gwaith Ogi i ddod â gwibgysylltiad ffeibr llawn i 150,000 o adeiladau drwy’r de – a dyma’r tro cyntaf iddo gyrraedd canol dinas fawr.

Efallai bydd rhain hefyd o ddiddordeb