
Am dro, i’r Fro!
Mae Ogi ar y ffordd, ac wrthi’n gwibgysylltu pobl Dinas Powys, Llanilltud Fawr, Y Rhws a Sain Tathan – ac wedi dechrau ar ein taith dra-chyflym yn Y Fro.
Shwmae Bro Morgannwg!
Ni yw Ogi – cwmni band eang gyda’i wreiddiau yng Nghymru – ac ryn ni yma i bweru cymunedau fel Dinas Powys, Llanilltud Fawr, Y Rhws a Sain Tathan gyda’n gwibgysylltiad band eang ffeibr llawn. Ryn ni’n perthyn i’r genhedlaeth nesa, ac yn barod i dy helpu di i weithio, i dy ddiddanu, ac i dy gysylltu â dy gymuned. Felly os wyt ti’n ‘Gyfaill Cymdeithasol’ neu ‘Finjwr y Bocs’ – ma pecyn Ogi ar gael sy’n gwbl addas i ti.

Pa mor gyflym te?
Mae pecynnau tra gyfylym a thra ddibynadwy Ogi’n dechrau ar gyflymder o 150Mbps… bydd ein gwasanaethau ar gael trwy gydol Dinas Powys, Llanilltud Fawr, Y Rhws a Sain Tathan cyn bo hir. Am fwy o wybodaeth, ac er mwyn i ni gadw mewn cysylltiad, cofrestra dy diddordeb gan ddefnyddio ein chwilotydd côd post defnyddiol.
Cymuned wrth wraidd popeth a wnawn
Ryn ni yma i bweru cartrefi a busnesau ar draws y Fro ac – yn union fel ti – ryn ni’n awyddus i roi rhywbeth yn ôl, gan gefnogi timau a grwpiau lleol mewn llefydd fel Dinas Powys, Llanilltud Fawr, Y Rhws a Sain Tathan. Felly, os yw’n dod â phobl at ei gilydd ac os oes ganddo botensial i wneud gwahaniaeth yn y gymuned – yna ryn ni moyn ei gefnogi. Dysga fwy am y cyfleoedd sydd ar gael trwy ein cronfa gymunedol, ‘Cefnogi’.

Gwir ffeibr, gwir fantais
Ryn ni’n dod â phŵer ffeibr yn syth at dy ddrws – gan osgoi’r hen gysylltiadau bach hen-ffasiwn, a gosod rhwydwaith newydd sbon ar gyfer yr holl ffrydio y byddi di am ei wneud, heddiw ac yn bell i’r dyfodol.
Mae adeiladu rhwydwaith ffeibr llawn yn golygu bod angen cynllunio, cloddio a tharfu rhywfaint, o dro i dro. Ond, paid â phoeni, os bydd angen i ni gloddio ar dy hewl di, dim ond ychydig wythnosau y dylai hynny ei gymryd. Ar ôl ei osod, bydd modd diweddaru’r rhwydwaith yn barhaus, felly fyddi di ddim yn gweld ein cloddwyr eto am gryn amser (oni bai bod angen i ni atgyweirio rhywbeth yn gyflym, wrth gwrs).
Llaw lan os hoffet fynd yn gynt!

Mor unigryw ac maen nhw’n dod…
Oeddet ti’n gwybod bod Bro Morgannwg yn ymestyn dros 33,097 hectar (130 milltir sgwâr) ac mae ganddi 53 km (33 mi) o arfordir? Mae’r clogwyni melyn-llwyd ar Arfordir Treftadaeth Morgannwg (sy’n ymestyn rhwng Gileston ac Ogwr) yn unigryw ar arfordir y Môr Celtaidd (h.y.. Cernyw, Cymru, Iwerddon a Llydaw) wrth iddynt gael eu ffurfio o gyfuniad o galchfaen llesg, siâl a thywodfaen carbonifferaidd/calchfaen.
Mae’n anhygoel beth allwch chi ei ddarganfod ar y we, on dyw hi? *Ffynhonnell: Archifau Morgannwg