Mae “Polisi Defnydd Derbyniol” neu “AUP” yn golygu polisi defnydd derbyniol Ogi sy’n ymwneud â defnyddio Gwasanaethau fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.
Mae “Cytundeb” yn golygu’r telerau ac amodau hyn, ein Telerau ac Amodau Cyffredinol, y Polisi Defnydd Derbyniol, a Pholisi Preifatrwydd Ogi adeg y’u cymerir gyda’i gilydd, sydd, yn achos gwrthdaro, yn nhrefn y flaenoriaeth a restrir uchod.
Ystyr “Tymor y Contract” yw’r cyfnod gwasanaeth sylfaenol a nodir yn y Ffurflen Archebu ac sy’n dechrau ar y Dyddiad Gwasanaeth Gweithredol.
Ystyr “Offer” yw cyfarpar ar y Ffurflen Archebu neu a roddir ar safle Cwsmeriaid gan Ogi ar gyfer darparu’r Gwasanaethau.
Mae “Ogi” yn golygu unrhyw un neu bob un o’r endidau canlynol:
- Spectrum Fibre Limited T/A Ogi, wedi’i gorffori a’i gofrestru yng Nghymru a Lloegr gyda’r rhif cwmni 12883320, a’i swyddfa gofrestredig yw Hodge House, 114-116, Heol Eglwys Fair, Caerdydd, CF10 1DY. Rhif TAW 377 9433 45.
- Spectrum Internet Limited T/A Ogi, wedi’i gorffori a’i gofrestru yng Nghymru a Lloegr gyda’r rhif cwmni 07849485, a’i swyddfa gofrestredig yw Hodge House, 114-116 Heol Eglwys Fair, Caerdydd, CF10 1DY. Rhif TAW 126873689.
- Ogi Networks Limited T/A Ogi, wedi’i gorffori a’i gofrestru yng Nghymru a Lloegr gyda’r rhif cwmni 03625793, a’i swyddfa gofrestredig yw Hodge House, 114-116, Heol Eglwys Fair, Caerdydd, CF10 1DY. Rhif TAW 713629048.
Ystyr “Gwasanaeth” yw’r Gwasanaethau neu’r Gwasanaeth fel y’u diffinnir yn y Ffurflen Archebu.
Ystyr “Cyfnod Treial Tri Mis” yw’r tri mis cyntaf ar ôl i’th wasanaeth fynd yn weithredol pryd y byddi yn gallu canslo’r gwasanaeth heb gael dy ddal at weddill cyfnod y Contract.
Ystyr “Ni” yw Ogi a dylid dehongli cyfeiriadau at “ein” yn unol â hynny.
Ystyr “Ti” yw’r Darpar Gwsmer / Treialwr a dylid dehongli cyfeiriadau at ‘dy’ yn unol â hynny.