2.1 Mae’r Cynnig wedi’i restru isod o dan y pennawd, Y Cynnig, yn adran 2.1. 2.2 Dim ond i gwsmeriaid sy’n rhoi archeb lwyddiannus am Wasanaeth Cartref Ogi yn ystod cyfnod y Cynnig Fflach a’r dyddiadau a restrir yn y tabl isod yn adran 2.2 y mae’r Cynnig ar gael. 2.3 Nid yw’r cynnig ar gael i neb […]
Ofcom yw rheoleiddiwr gwasanaethau cyfathrebu’r Deyrnas Unedig. Mae Ofcom wedi ymrwymo i greu sector telathrebu llewyrchus, lle gall cwmnïau gystadlu’n deg, a lle bydd cwsmeriaid yn elwa o wasanaethau amrywiol, gan gynnwys band eang.
A hwnnw wedi’i sefydlu gan y diwydiant ym mis Mehefin 2022, TOTSCo sy’n rheoli’r broses Newid Un Cam ar ran y diwydiant.
Dim ond wrth newid o un darparwr preswyl i un arall y mae modd defnyddio Newid Un Cam. Efallai na fydd modd ei ddefnyddio os yw’r newid yn rhy gymhleth neu os oes problemau wrth dy “baru” â dy ddarparwr presennol. Gallai hyn fod oherwydd bod manylion y contract gyda dy ddarparwr presennol yn wahanol.
I ddechrau’r broses baru, bydd angen i ti rannu rhywfaint o fanylion ag Ogi er mwyn i ni ganfod pwy wyt ti a phwy yw dy ddarparwr presennol. Po fwyaf o fanylion fydd gen ti, bydd y broses baru’n haws. Byddwn ni’n gofyn am y canlynol: 👉 Enw’r darparwr presennol 👉 Yr enw ar y […]
Dim problem. Paid â bodloni ar gysylltiad araf. Ffonia ni ac fe gawn ni weld beth allwn ni ei wneud – 029 2002 0520. Os wyt ti am newid dy ddarparwr cyn diwedd cyfnod gofynnol dy gontract, efallai y bydd yn rhaid i ti dalu ffioedd terfynu cynnar. Mae rheolau Ofcom hefyd yn dweud y […]
Defnyddia ein gwiriwr cod post i weld a alli di ymuno ag Ogi heddiw. Neu galli di gofrestru dy fanylion ymlaen llaw, er mwyn i ni gadw mewn cysylltiad. Galli di hefyd ffonio ein tîm cyfeillgar ar 029 2002 0520, neu anfon e-bost aton ni i sales@ogi.wales, a gallwn ni drafod y broses.
Mae Newid Un Cam yn cael ei gyflwyno drwy’r holl ddiwydiant ar 12 Medi 2024, ac mae’n gwneud y broses o symud o un darparwr i un arall yn haws i ti. Mae ymchwil Ofcom wedi dangos bod tua 41% o bobl yn amharod i newid oherwydd y drafferth o orfod cysylltu â mwy nag […]
Newid Un Cam yw’r broses newydd ar gyfer newid darparwyr band eang a llinellau tir. Y rheoleiddiwr cyfathrebu, Ofcom, sydd wedi cyflwyno’r broses hon er mwyn i bobl allu symud i wasanaeth arall yn rhwydd ac yn gyflym. Mae’n golygu mai dim ond cysylltu â’u darparwyr band eang neu linell tir presennol y bydd angen […]
2.1 Mae’r Cynnig wedi’i restru isod o dan y pennawd, Y Cynnig, yn adran 2.1. 2.2 Dim ond i gwsmeriaid sy’n rhoi archeb lwyddiannus am Wasanaeth Cartref Ogi yn ystod cyfnod y Cynnig Fflach a’r dyddiadau a restrir yn y tabl isod yn adran 2.2 y mae’r Cynnig ar gael. 2.3 Nid yw’r cynnig ar […]
2.1 Mae’r Cynnig wedi’i restru isod o dan y pennawd, Y Cynnig, yn adran 10. 2.2 Dim ond i gwsmeriaid sy’n rhoi archeb lwyddiannus am Wasanaeth Cartref Ogi yn ystod cyfnod y Cynnig Fflach a’r dyddiadau a restrir yn y tabl isod yn adran 10 y mae’r Cynnig ar gael. 2.3 Nid yw’r cynnig ar […]
2.1 Mae’r Cynnig wedi’i restru isod o dan y pennawd, Y Cynnig, yn adran 10. 2.2 Dim ond i gwsmeriaid sy’n rhoi archeb lwyddiannus am Wasanaeth Cartref Ogi yn ystod cyfnod y Cynnig Fflach a’r dyddiadau a restrir yn y tabl isod yn adran 10 y mae’r Cynnig ar gael. 2.3 Nid yw’r cynnig ar […]
2.1 Mae’r Cynnig wedi’i restru isod o dan y pennawd, Y Cynnig, yn adran 10. 2.2 Dim ond i gwsmeriaid sy’n rhoi archeb lwyddiannus am Wasanaeth Cartref Ogi yn ystod cyfnod y Cynnig Fflach a’r dyddiadau a restrir yn y tabl isod yn adran 10 y mae’r Cynnig ar gael. 2.3 Nid yw’r cynnig ar […]
Mae “Polisi Defnydd Derbyniol” neu “AUP” yn golygu polisi defnydd derbyniol Ogi sy’n ymwneud â defnyddio Gwasanaethau fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd. Mae “Cytundeb” yn golygu’r telerau ac amodau hyn, ein Telerau ac Amodau Cyffredinol, y Polisi Defnydd Derbyniol, a Pholisi Preifatrwydd Ogi adeg y’u cymerir gyda’i gilydd, sydd, yn achos gwrthdaro, yn nhrefn y flaenoriaeth a restrir […]
Ar ôl i ni gadarnhau bod dy rif wedi’i symud i Ogi, fe alli di gysylltu dy ffôn â’r bocs cysylltu ar y wal, ac mae popeth yn barod.
Mae dy wasanaeth Llais Ogi misol yn cynnwys y pecyn galwadau rwyt ti wedi’i ddewis: Llais Ogi Gyda’r Nos ac ar Benwythnosau (hynny yw, galwadau rhad ac am ddim i linellau tir yn y Deyrnas Unedig, 7pm-7am rhwng dydd Llun a dydd Gwener ac ar ddyddiau Sadwrn a Sul) Llais Ogi Unrhyw Bryd (galwadau ar […]
Golau LLIW STATWS DISGRIFIAD Grym Gwyrdd Ymlaen Yn barod i’w ddefnyddio Fflachio Yn profi a yw’n gweithio Coch Ymlaen Gwall neu ddiffyg Fflachio Mae’r ddyfais yn diweddaru’r cadarnwedd DSL/Ethernet WAN Gwyrdd Ymlaen Yn barod i’w ddefnyddio Fflachio’n araf Yn chwilio am gysylltiad Fflachio’n gyflym Yn cychwyn […]
Mae dy gysylltiad wifi yn gyfuniad o ddwy sianel: 2.4GHz a 5GHz. Dim ond â’r sianel 2.4Ghz y bydd rhai dyfeisiau (technoleg hŷn gan amlaf) yn gallu cysylltu, sy’n arafach na’r sianel 5Ghz. Wrth eu rhannu yn ddwy sianel ar wahân, bydd dy ddyfeisiau 2.4Ghz wedyn yn defnyddio eu sianel arafach eu hunain, tra bydd […]
Rho’r cyfeiriad http://192.168.1.1 yn dy borwr (mae i’w weld ar gefn dy lwybrydd i dy atgoffa), yna mewngofnoda gan ddefnyddio dy enw defnyddiwr a dy gyfrinair diweddaraf. Os dyma’r tro cyntaf i ti fewngofnodi ac nad wyt ti wedi gosod y rhain o’r blaen, admin fydd yr enw defnyddiwr a’r cyfrinair fydd hwnnw sydd i’w […]
Fe alli di ddefnyddio dy ap eero mobile yn gyflym ac yn rhwydd i reoli dy ddyfeisiau eero. Mae adran wych ar wefan eero hefyd i ddatrys problemau a chael cymorth, ac os na alli di ddod o hyd yn syth i’r hyn rwyt ti’n chwilio amdano, rho gynnig ar y botwm chwilio (ar dop […]
Oes, glei! Mae modd creu proffil ar gyfer unrhyw ddyfais sy’n defnyddio’r rhwydwaith (er enghraifft, llechen dy blentyn) gan osod pa bryd y mae’n gallu defnyddio’r rhyngrwyd a pha fath o gynnwys y mae’n gallu’i weld. Defnyddia’r nodwedd Proffiliau yn yr ap eero, neu’r gosodiadau ‘Parental Control’ ar banel rheol ar-lein Zyxel (Web GUI).
Fe alli di weld neu newid cyfrinair dy rwydwaith eero unrhyw bryd yn Ap eero, yn y gosodiadau (‘Settings’). I newid cyfrinair dy rwydwaith Zyxel, cer i ‘Maintenance’ ac yna i ‘User Account’ ar banel rheoli ar-lein Zyxel (Web GUI).
Os wyt ti wedi dewis cael gwasanaeth Llais Ogi, fe gei di gadw dy rif ffôn. Rho wybod i ni ac fe wnawn ni drefnu iddo gael ei symud i ti. Does dim cost ychwanegol, ond fe all gymryd diwrnod neu ddau (gan amlaf tua 7-10 diwrnod). Felly os bydd oedi, fe wnawn ni roi […]
Na, fe gei di ddefnyddio unrhyw gyfeiriad e-bost dan haul ’da Ogi! Os wyt ti’n symud o ddarparwr arall, sylwa y bydd rhai cwmnïau yn israddio dy gyfrif e-bost neu’n gofyn i ti dalu ffi misol i barhau i ddefnyddio eu gwasanaeth e-bost llawn ar ôl i dy gontract band eang ddod i ben. Mae’n […]
Os ydyn ni wedi ysgrifennu atat ti i ofyn am daliad ond ddim yn clywed yn ôl, fe wnawn ni geisio cael gafael arnat ti drwy’r ffôn neu’r e-bost i drafod pethau ymhellach. Os na fyddi di wedi gallu ein talu o hyd (neu’n cytuno ar sut i’n had-dalu), bydd cyflymder dy fand eang yn […]
Mae’n flin ’da ni os wyt ti’n cael trafferth talu. Cysyllta ’da ni cyn gynted â phosibl, er mwyn osgoi ffioedd am dalu’n hwyr a chyfyngiadau posib ar dy gyfrif – fe wnawn ni’n sicr ein gorau glas i helpu. Anfona neges i ni neu ffonia ni ar 029 2002 0550.
Os bydd taliad debyd uniongyrchol yn methu, fe rown ni gynnig arall arni os gallwn ni, neu bydd angen i ti gysylltu ’da ni i’n helpu i greu mandad newydd.
Os bydd angen i ti wneud taliad unrhyw bryd, heb ddefnyddio debyd uniongyrchol, dyma fanylion ein banc: Enw’r Cyfrif – Spectrum Fibre Limited Cod Didoli – 30-91-89 Rhif y Cyfrif – 32691660 Defnyddia rif dy gyfrif Ogi fel y cyfeirnod.
I ddiweddaru dy fanylion talu, ffonia ni ar 029 2002 0550.
Wrth gwrs! Cysyllta ’da ni i newid dy ddyddiad bilio i un sy’n fwy cyfleus i ti.
Byddwn ni’n anfon dy fil i ti drwy e-bost unwaith y mis (oni bai dy fod yn gofyn am filiau papur, sy’n opsiwn ychwanegol). Bydd y bil yn dangos holl fanylion y costau, gan gynnwys unrhyw ostyngiad a threth ar werth. Byddi di’n cael bil am dy wasanaeth Ogi gan amlaf fis ymlaen llaw, a […]
Os wyt ti’n gwsmer cartre, cysyllta ’da’n tîm Gofalu am Gwsmeriaid, o ddydd Llun i ddydd Gwener, 8:00am – 6:00pm, a dydd Sadwrn 9:00am – 5:00pm. Ffonia ni ar ein Llinell Gymraeg ar 029 2002 3200 neu anfona e-bost at cymraeg@ogi.cymru. Os byddai’n well gen ti ddefnyddio’r post, anfona lythyr i Gwasanaethau i Gwsmeriaid Ogi, Tŷ Ogi, […]
Byddwn ni fel arfer yn mynd â’r offer oddi ar y safle, ond gall fod adegau pan fydd angen ei adael ar y safle am gyfnod byr. Mae hyn yn gwbl normal ac ni fydd yn achosi unrhyw risgiau i’r cyhoedd. Os byddi di’n gweld rhywbeth sy’n dy bryderu di, cysyllta ’da’n tîm Gofalu am […]
Os bydd peiriannydd wedi achosi unrhyw ddifrod i dy eiddo, byddan nhw’n rhoi gwybod i’w Rheolwr Tîm lleol a fydd yn trafod y cam nesa ’da ti. Os ein tîm ni fydd wedi achosi’r difrod, fel arfer byddwn ni’n trefnu’r gwaith atgyweirio ac yn talu am y difrod a achoswyd, ond bydd angen i’n tîm […]
Os wyt ti’n byw ar ffordd breifat, bydd ein peiriannydd yn rhoi galwad i ti i gael mynediad i dy eiddo ac i drafod unrhyw ofynion penodol.
Byddwn ni’n rhoi gwybodaeth yn y gymuned leol am unrhyw ffyrdd y bydd yn rhaid eu cau, ar ôl dilyn y prosesau priodol. Bydd nifer o fyrddau cyfathrebu wedi’u gosod yn lleol yn dangos pryd fydd y gwaith sy’n cael ei wneud yn dechrau ac yn gorffen. Bydd goruchwyliwr hefyd ar y safle, a hwnnw’n […]
Byddwn ni’n ceisio rhoi gwybod i ti ac i bawb sy’n byw mewn ardal pan fyddwn ni ar ein ffordd iddi. Os bydd y gwaith adeiladu yn effeithio’n uniongyrchol ar gwsmeriaid, byddan nhw’n cael llythyr ffurfiol gan Ogi a’n contractwyr yn rhoi gwybod iddyn nhw beth i’w ddisgwyl, a pha bryd.
Ein nod yw cysylltu trefi a phentrefi drwy’r de. Am y tro, byddwn ni’n blaenoriaethu ardaloedd sy’n hyfyw yn fasnachol (neu sy’n gymwys drwy dalebau), a’r rheini ddim yn cael eu gwasanaethu gan gwmnïau eraill. Bydd ein cam cynta yn golygu adeiladu i gyrraedd 150,000 o safleoedd, ond ryn ni’n gobeithio cynyddu hyn yn sylweddol […]
Gelli di ddiweddaru neu newid dy fanylion drwy roi caniad i’n tîm Gofalu am Gwsmeriaid ar ein Llinell Gymraeg ar 029 2002 3200, neu ebostia cymraeg@ogi.cymru.
Ryn ni wrth ein boddau’n cael adborth, yn dda neu’n ddrwg, gan fod hyn yn hanfodol er mwyn inni wella ein gwasanaeth. Gelli di roi caniad inni neu roi gwybod inni drwy ddefnyddio ein ffurflen adborth a-lein.
Gelli di ein ffonio ni ar ein Llinell Gymraeg ar 029 2002 3200 neu anfon e-bost i cymraeg@ogi.cymru. Bydd opsiwn hefyd yn ein negeseuon digidol i ddad-danysgrifio o’n rhestrau postio.
Ryn ni yn y broses o adeiladu rhwydwaith ffeibr llawn drwy’r de, a gallwn ni hefyd gynnig gwasanaethau cysylltu a chymorth busnes eraill. Ryn ni’n gofyn i unrhyw un sydd â diddordeb yn ein gwasanaethau i gofrestru eu diddordeb yn www.ogi.cymru, a byddwn ni hefyd yn gwerthu yn y maes, ond hynny heb fod unrhyw […]
Dyw hi byth yn braf pan fydd rhywbeth yn mynd o’i le, ond gallwn ni helpu i ddatrys pethau: Anfona e-bost at cymraeg@ogi.cymru, ffonia ein Llinell Gymraeg ar 029 2002 3200, neu anfona lythyr aton ni i’r cyfeiriad hwn: Gwasanaethau i Gwsmeriaid Ogi, Tŷ Ogi, Hodge House, 114-116 Heol Eglwys Fair, Caerdydd, CF10 1DY. Mae copi llawn […]
Plis rho wybod i ni ar 029 2002 3200 neu cymraeg@ogi.cymru.
Mae’r Gwarant Debyg Uniongyrchol yn gwarchod cwsmeriaid presennol a newydd yn llawn. Mae pob Banc a Chymdeithas Adeiladu sy’n derbyn cyfarwyddiadau i dalu Debydau Uniongyrchol yn cynnig y Gwarant hwn. Os oes newidiadau i swm, dyddiad neu amlder dy Ddebyd Uniongyrchol byddwn yn rhoi gywbod i ti 10 diwrnod busnes cyn i’r arian ddod o […]
Bydd dy Fil yn cael ei yrru at dy gyfeiriad ebost (oni bai dy fod ti wedi gofyn am Fil papur, am gost ychwanegol) a bydd yn cynnwys dy holl gostau yn y cyfnod, yn cynnwys costau dy wasanaeth band eang. Bydd ein biliau am gyfnod o 1 mis, oni bai mai hwn yw dy […]
Rho wybod, ac mi wnawn ni weld be sy’n digwydd. Mae’n bosibl bod y nam ar ein rhwydwaith, ac – os felly – bydd ein criw yn gweithio i adfer y sefyllfa cyn gynted ag sy’n bosibl. Os yw’r nam yn effeithio ar dy wasanaeth di’n unig, yna falle bod y nam ar y ffeibr […]
Mae’r cyflymder mae cwsmeriaid yn ei dderbyn yn gallu amrywio am lot o resymau, yn cynnwys pa mor brysur yw’r rhwydwaith yn lleol a phroblemau gyda’r rhyngrwyd yn gyffredinol ym Mhrydain a thu hwnt. Mae o leiaf 50% o’n cwsmeriaid yn gallu derbyn cyflymderau lanlwytho a lawrlwytho pecynnau Ogi yn ystod oriau brîg (sef 8pm-10pm […]
Cymer Brawf Cyflymder Ogi. Er mwyn profi dy gyflymder, cysyllta dy ddyfais yn uniongyrchol at dy lwybrydd gyda chebl ethernet, a diffodda unrhyw ddyfais arall rwyt ti’n ei defnyddio. Dyma sut i gael y syniad gorau o’r gwir gyflymder sy’n dod mewn i dy gartref.
Wrth gwrs. A diolch i ti am wneud hynny – mae’n well i’r amgylchedd. Gan fod ein offer wifi yn rhan o’n pecynnau cyffredinol, dyw gwneud hyn ddim yn newid cost dy ffi misol i Ogi, ond mi wnawn ni roi Taleb Eco Ogi i ti i ddiolch i ti am helpu’r blaned.
Rho wybod ar 029 2002 3200 neu cymraeg@ogi.cymru. Byddwn ni’n gyrru pecyn postio i ti i ddychwelyd yr offer atom ni, ac yn gyrru offer newydd atat. Os wyt ti wedi difrodi’r offer, yna bydd angen i ni godi arnat ti am gost yr offer newydd.
Cysyllta ar 029 2002 3200 neu cymraeg@ogi.cymru ac mi wnawn ni weld be sy’n mynd mlaen. Os oes angen gyrru Peiriannydd Ogi mas i weld yr offer, yna mi wnawn ni drefnu bod hynny’n digwydd. Yn anffodus, os yn nhw’n taro draw a bod dim problem amlwg, yna falle bydd angen i ni godi ffi arnat ti am yr […]
Os wyt ti’n gwsmer Ogi 200, Ogi 400, Ogi 500 neu Ogi 1Gig fe fyddi di’n cael ONT Nokia (dyna’r bocs bach ar y wal, lle mae’r ffeibr yn dod mewn i’r cartref…) Fe fyddi di hefyd yn cael: 1x lwbrydd wifi mesh eero 6 os wyt ti’n gwsmer Ogi 200 2x lwbrydd wifi mesh […]
Ryn ni’n gobeithio cael y cyfan yn iawn, y tro cyntaf. Os oes problem, ffonia ein Llinell Gymraeg ar 029 2002 3200 neu ebostia cymraeg@ogi.cymru.
Os wyt ti’n gwsmer Ogi 200, Ogi 400, Ogi 500 neu Ogi 1Gig byddwn yn trefnu gosod dy wasanaeth wrth gymryd dy archeb. Gelli ddewis y slot sydd fwya cyfleus i ti. Byddwn ni’n gyrru ebyst a negeseuon testun i ti i gadarnahu pethe. Os ydyn ni angen newid y trefniadau am unrhyw reswm, yna […]
Os oes profedigaeth yn y teulu, yna gall y sawl sydd yn cynrychioli’r cwsmer ddod â’r cytundeb i ben heb gost, a dychwelyd y llwybrydd/ion i ni. Gallant hefyd drosglwyddo’r cytundeb i rywun arall, ar yr un telerau, a heb gost os hoffent wneud hynny.
Os wyt ti’n symud tŷ, mae’n bosibl y gallem ni symud dy wasanaeth draw i dy gyfeiriad newydd er mwyn gwneud bywyd yn haws i ti. Bydd hyn yn dibynnu ar lle rwyt ti’n symud, a natur dy wasanaeth presennol. Rho floedd i sales@ogi.wales / 029 2002 0520 i weld os oes modd inni helpu. Os nad yw Ogi’n […]
Wrth gwrs. Cysyllta â ni ar ein Llinell Gymraeg at cymraeg@ogi.cymru neu 029 2002 3200 a gelli roi rheolwr ar dy gyfri sy’n gallu edrych ar ôl pethau ar dy ran.
Unwaith mae’r cyfnod ‘oeri’ wedi dod i ben yna mae modd holi i derfynu dy wasanaeth. Rhaid gwneud hynny ar ‘bapur’ gyda 30 dydd o rybudd at cymraeg@ogi.cymru neu trwy lythyr. Os wyt ti dal ar gytundeb yna bydd angen ad-dalu gweddill cyfnod y cytundeb i ni. Bydd angen dychwelyd dy offer wifi hefyd. Mae’r broses yn […]
Ma da ti 14-diwrnod i newid dy feddwl ar ôl gosod archeb da Ogi. Er mwyn canslo, ffonia 029 2002 0535 neu ebostia sales@ogi.wales. Os yw dy wasanaeth wedi cael ei osod yn barod, rwyt ti dal yn gallu canslo yn ystod y cyfnod hwn, ond bydd angen i ti dalu’r costau gosod (£60) i Ogi, a danfon […]
Mae Ogi’n adeiladu rhwydwaith ffeibr llawn mewn cymunedau ar hyd a lled y de ar y foment. Os wyt ti’n un o’r llefydd hyn – ac os yw Ogi wedi cysylltu dy stryd di, yna mae modd i ti dderbyn gwasanaeth nawr. Fel arall, cyn-gofrestra ac mi wnawn ni roi gwybod cyn gynted ag y mae’r rhwydwaith […]
Defnyddia’r chwiliwr i weld os yw Ogi’n gallu dy wasanaethu di nawr; neu cyn-gofrestra fel bod modd inni gadw mewn cysylltiad. Gelli hefyd ffonio ein criw cyfeillgar ar 029 2002 0520 neuebostia sales@ogi.wales. Os hoffet gysylltu trwy gyfrwng y Gymraeg mae gennym Linell Gymraeg ar 029 2002 3200 neu cymraeg@ogi.cymru.
Yng Nghymru, mae Ogi yn air sydd wastad yn ennyn gwên neu ymateb. Mae’n siant y byddwn ni’n ei ddysgu pan fyddwn ni’n ddim o beth. Ryn ni’n ei gysylltu ’da chyfnodau hapus bywyd, pan fydd pobol yn ymgynnull, pan fyddwn ni am fynegi ein hundod a’n mwynhad. Mae mymryn o hiraeth yn perthyn iddo, […]
Daeth Spectrum Internet a Net Support UK yn rhan o grŵp Spectrum Fibre yn 2020 – pan lwyddodd y cwmni i gael buddsoddiad conglfaen i ddarparu rhwydwaith band eang ffeibr llawn drwy’r de. Roedden ni am gael enw a fyddai’n adlewyrchu uchelgais newydd y cwmni, sef adeiladu rhwydwaith ffeibr llawn a fydd yn gweddnewid gallu […]
Ryn ni’n rhoi gwasanaethau band eang ffeibr llawn i gartrefi a busnesau ledled Cymru, ac i rai rhannau o Loegr. Ystyr ffeibr llawn yw cysylltiad band eang ffeibr optig yn uniongyrchol i dy gartre neu dy fusnes. Mae hefyd yn cael ei alw’n gysylltiad FTTP, sy’n sefyll am ‘Fibre To The Premise’. Ryn ni hefyd […]
Bydd gan dy gysylltiad gyfeiriad IP unigryw, ac mae holl gyfeiriadau IP Ogi wedi’u cofrestru yn y Deyrnas Unedig. Dylai gwefannau adnabod hyn a dy arwain yn awtomatig i’r fersiwn yn y Deyrnas Unedig. Os na fydd hynny’n digwydd, dyma rai pethau i roi cynnig arnyn nhw. Diffodda’r bocs cysylltu du ar dy wal (yr […]
Os nad yw dy lwybrydd neu dy estynnydd yn gweithio gan ei fod wedi’i ddifrodi’n ddamweiniol, bydd angen i ni godi arnat ti am un newydd yn ei le. Rho wybod i ni drwy anfon neges i ni, neu drwy ffonio 029 2002 0550. Byddwn ni’n anfon y llwybrydd newydd atat ti gyda bag i […]
Mae modd defnyddio’r gwasanaeth rhad ac am ddim hwn i brofi’r cyflymder. I gael y canlyniadau cywiraf, fe ddylet ti gysylltu dy ddyfais yn uniongyrchol â’r llwybrydd gan ddefnyddio cebl Ethernet, a diffodd unrhyw ddyfeisiau eraill rwyt ti’n eu defnyddio. Mae hyn gan fod yr holl ddyfeisiau rwyt ti’n eu defnyddio ar yr un pryd […]
Os na fydd un o dy lwybryddion eero eilaidd ar-lein (un sydd heb ei gysylltu’n uniongyrchol â’r bocs cysylltu), rho gynnig ar ei ddiffodd ac yna’i droi yn ôl ymlaen. Os na fydd hynny’n gweithio, ceisia’i symud i’r un ystafell â dy brif lwybrydd. Tro’r llwybrydd ymlaen eto, ac aros 2-3 munud i weld a […]
Lliw’r golau Ei ystyr Dim golau Dim pŵer yn yr eero Gwyn yn fflachio Mae meddalwedd eero yn cychwyn/yn cysylltu â’r Rhyngrwyd Glas yn fflachio Yn darlledu Bluetooth Glas solet Mae ap eero wedi’i gysylltu â’r eero ac yn ei osod Gwyrdd yn fflachio Nifer o eeros wedi’u canfod Melyn yn fflachio Unapproved USB-C power […]
Golau LLIW STATWS DISGRIFIAD Grym Gwyrdd Ymlaen Yn barod i’w ddefnyddio Fflachio Yn profi a yw’n gweithio Coch Ymlaen Gwall neu ddiffyg Fflachio Mae’r ddyfais yn diweddaru’r cadarnwedd DSL/Ethernet WAN Gwyrdd Ymlaen Yn barod i’w ddefnyddio Fflachio’n araf Yn chwilio am gysylltiad Fflachio’n gyflym Yn cychwyn […]
Rho’r cyfeiriad http://192.168.1.1 yn dy borwr (mae i’w weld ar gefn dy lwybrydd i dy atgoffa), yna mewngofnoda gan ddefnyddio dy enw defnyddiwr a dy gyfrinair diweddaraf. Os dyma’r tro cyntaf i ti fewngofnodi ac nad wyt ti wedi gosod y rhain o’r blaen, admin fydd yr enw defnyddiwr a’r cyfrinair fydd hwnnw sydd i’w […]
Fe alli di ddefnyddio dy ap eero mobile yn gyflym ac yn rhwydd i reoli dy ddyfeisiau eero. Mae adran wych ar wefan eero hefyd i ddatrys problemau a chael cymorth, ac os na alli di ddod o hyd yn syth i’r hyn rwyt ti’n chwilio amdano, rho gynnig ar y botwm chwilio (ar dop […]
1. Yr Hyrwyddwr 1.1 Hyrwyddwr y cynllun Sôn wrth Ffrind hwn (y “Cynllun”) yw Ogi (Spectrum Fibre), sydd wedi’i gofrestru yng Nghymru a Lloegr o dan rif cwmni 12883320, gyda swyddfa gofrestredig yn Hodge House, 114-116 Heol Eglwys Fair, Caerdydd, CF10 1DY (“Ogi”). 2. Y Broses Gyfranogi 2.1 Gall unigolion cymwys (gweler “Cymhwysedd” isod) gymryd […]
Mae “Polisi Defnydd Derbyniol” neu “AUP” yn golygu polisi defnydd derbyniol Ogi sy’n ymwneud â defnyddio Gwasanaethau fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd. Mae “Cytundeb” yn golygu’r telerau ac amodau hyn, ein Telerau ac Amodau Cyffredinol, y Polisi Defnydd Derbyniol, a Pholisi Preifatrwydd Ogi adeg y’u cymerir gyda’i gilydd, sydd, yn achos gwrthdaro, yn nhrefn y flaenoriaeth a restrir […]
4.1 Hyd at dri mis ar ôl i’ch Gwasanaeth ddod yn weithredol, gelli ganslo dy Wasanaeth. Mae’n rhaid i ti roi gwybod i ni, drwy ffonio 029 2002 0550 neu ddanfon e-bost at cymraeg@ogi.cymru cyn i’r cyfnod o dri mis ddod i ben. Fel arall bydd yn rhaid i ti ddal at weddill Tymor y Contract 24 mis y […]
3.1 Bydd dy wasanaeth yn cael ei ddarparu yn yr un modd â’r Gwasanaeth safonol, cyfeiria at ein telerau ac amodau safonol. Yr unig wahaniaeth yw’r opsiwn ychwanegol o ganslo dy Wasanaeth cyn i’r cyfnod cychwynnol o dri mis ddod i ben.
2.1 Mae’r opsiwn o Gyfnod Treial Tri Mis yn golygu gelli ganslo dy wasanaeth heb unrhyw ymrwymiad pellach ar wahân i ddychwelyd yr Offer a ddarperir.
Mae “Polisi Defnydd Derbyniol” neu “AUP” yn golygu polisi defnydd derbyniol Ogi sy’n ymwneud â defnyddio Gwasanaethau fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd. Mae “Cytundeb” yn golygu’r telerau ac amodau hyn, ein Telerau ac Amodau Cyffredinol, y Polisi Defnydd Derbyniol, a Pholisi Preifatrwydd Ogi adeg y’u cymerir gyda’i gilydd, sydd, yn achos gwrthdaro, yn nhrefn y flaenoriaeth a restrir […]
20.1 Mae cyfraith Cymru a Lloegr yn llywodraethu’r Cytundeb hwn ac rwyt ti ac rydyn ni’n ymostwng i awdurdodaeth neilltuedig Llysoedd Cymru a Lloegr.
19.1 Ni fydd methiant neu oedi gennyt ti neu gennyn ni wrth arfer unrhyw hawliau o dan y Cytundeb hwn yn gyfystyr ag ildio unrhyw hawl o’r fath, nac yn gweithredu fel modd o rwystro arfer neu orfodi unrhyw hawl o’r fath unrhyw bryd yn y dyfodol. 19.2 Os pennir gan lys sydd ag awdurdodaeth […]
18.1 Ni chei di ac ni chawn ni aseinio na throsglwyddo unrhyw rai o’n hawliau na’n rhwymedigaethau o dan y Cytundeb hwn heb gydsyniad ysgrifenedig y parti arall, ac eithrio y gallwn aseinio ein hawliau neu’n rhwymedigaethau (neu ein hawliau a’n rhwymedigaethau ill dau) i un o Gwmnïau Grŵp Spectrum Fibre heb dy gydsyniad di. […]
17.1 Rhaid i rybuddion a ddarperir o dan y Cytundeb hwn fod yn ysgrifenedig, yn Gymraeg neu’n Saesneg, a rhaid eu danfon â llaw, neu drwy wasanaeth cludo, neu eu hanfon drwy bost y talwyd amdano ymlaen llaw neu bost electronig fel a ganlyn: (a) aton ni i’r cyfeiriad a ddangosir ar dy fil diwethaf […]
16.1 Ni fyddi di ac ni fyddwn ni’n torri’r Cytundeb os bydd unrhyw fethiant i gyflawni rhwymedigaeth yn deillio o ddigwyddiad sydd y tu hwnt i reolaeth y parti dan sylw, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny, methiant sylweddol ar ran y grid pŵer, methiant sylweddol y rhyngrwyd, digwyddiadau seiberddiogelwch, trychineb naturiol, […]
15.1 Yn amodol ar gymal 15.2, byddi di a byddwn ni’n cadw’n gyfrinachol unrhyw Wybodaeth Gyfrinachol (boed yn ysgrifenedig neu ar lafar) a geir gan y llall o dan y Cytundeb hwn neu mewn perthynas â’r Cytundeb hwn ac ni fydd y naill na’r llall yn datgelu’r Wybodaeth Gyfrinachol honno i unrhyw berson (yn ein […]
14.1 Rwyt ti’n cytuno y bydd yr holl gyfreithiau perthnasol yn cael eu dilyn wrth i ti gymryd unrhyw gamau (neu os bydd camau’n cael eu cymryd ar dy ran) i gopïo, ailddosbarthu neu gyhoeddi unrhyw ddeunydd neu wybodaeth sy’n ddarostyngedig i unrhyw hawliau trydydd parti (gan gynnwys hawliau eiddo deallusol). 14.2 Os byddwn ni […]
13.1 Byddwn ni’n dy indemnio yn erbyn hawliadau neu achosion cyfreithiol a gaiff eu dwyn yn dy erbyn gan drydydd parti, sy’n deillio o esgeulustod neu dor-cyfraith gwirioneddol neu honedig neu ar ein rhan ni. Byddi di’n rhoi rhybudd i ni ynghylch unrhyw hawliadau o’r fath ac yn rhoi gwybod i ni am ddatblygiad unrhyw […]
12.1 Nid ydyn ni’n atebol o dan gontract, cyfraith camweddau (gan gynnwys esgeulustod) nac fel arall am golledion, boed yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol mewn perthynas â busnes, am refeniw neu elw, am arbedion disgwyliedig neu wariant a wastraffwyd, am golled, am lygru neu ddinistrio data, am niweidio enw da, nac am unrhyw golledion anuniongyrchol neu […]
11.1 Pan fydd wedi dechrau, bydd y Cytundeb yn parhau tan y bydd yn cael ei derfynu gennyt ti neu gennyn ni yn unol â’i dermau. 11.2 Galli derfynu’r Cytundeb hwn am achos o weithredu’n groes iddo gennyn ni os byddwn; (a) methu’n sylweddol â darparu’r Gwasanaethau fel y cytunwyd ac os nad yw’n datrys […]
10.1 Gallwn atal y Gwasanaethau heb atebolrwydd i ti yn y sefyllfaoedd hyn: (a) os byddwn ni’n credu’n rhesymol bod y Gwasanaethau’n cael eu defnyddio’n groes i’r Cytundeb hwn; (b) os na fyddi di’n cydymffurfio ag ymchwiliad rhesymol gennyn ni i achos posibl o dorri’r Cytundeb hwn; (c) os bydd ymosodiad ar y Gwasanaethau, neu […]
9.1 Galli di ganslo’r Gwasanaethau unrhyw adeg cyn Dyddiad Gweithredol y Gwasanaeth. Os byddi di’n canslo’r Gwasanaethau cyn Dyddiad Gweithredol y Gwasanaeth, rhaid i ti ein talu am unrhyw waith a wnaed neu unrhyw arian a wariwyd yn paratoi i ddarparu’r Gwasanaethau. Byddwn ni’n cymryd camau rhesymol i sicrhau bod costau o’r fath mor isel […]
8.1 Ac eithrio lle pennir hynny’n wahanol yn y Cytundeb hwn, bydd pob taliad a swm arall sy’n ddyledus gennyt mewn perthynas â’r Gwasanaethau wedi’u nodi ar y Ffurflen Archebu a/neu’r Canllaw Prisiau a/neu’r anfoneb sy’n berthnasol i Wasanaethau o’r fath. Byddwn ni’n dy filio, a byddi di’n dy dalu, mewn punnoedd sterling. Bydd Treth […]
7.1 O ran Cynhyrchion Band Eang, gallwn ni addasu’r swm rwyt ti’n ei dalu bob mis am dy gynllun yn unol â’r Mynegai Prisiau Defnyddwyr +3.9%. Mae hyn yn adlewyrchu’r cynnydd yn y costau i gynnal a buddsoddi yn y rhwydwaith a’r gwasanaeth rydyn ni’n ei ddarparu. Caiff cyfradd y Mynegai Prisiau Defnyddwyr ei chyhoeddi […]
6.1 Ni fyddi di’n meddiannu, yn defnyddio, yn mewnforio, yn allforio nac yn ailwerthu (ac ni wnei di ganiatáu i neb feddiannu, defnyddio, mewnforio, allforio nac ailwerthu) y Gwasanaethau nac unrhyw wybodaeth neu ddata technegol a ddarperir gennyn ni o dan y Cytundeb hwn mewn unrhyw fodd a fyddai’n achosi i ni neu i’n Cwmnïau […]
5.1 Rhaid i ti gymryd rhagofalon diogelwch rhesymol wrth ddefnyddio’r Gwasanaethau. 5.2 Ni fyddi di ar unrhyw adeg yn ceisio ochrgamu unrhyw elfennau diogelwch yn y system nac yn ceisio cael mynediad heb awdurdod i unrhyw elfen yn y Gwasanaethau. 5.3 Rhaid iti roi unrhyw wybodaeth i ni y bydd arnon ni ei hangen yn […]
4.1 Byddwn ni’n darparu’r Gwasanaethau yn unol â’r Disgrifiadau o’r Gwasanaeth perthnasol, y Cytundebau Lefel Gwasanaeth perthnasol, ac unrhyw fanylebau eraill a geir yn ysgrifenedig yn y Cytundeb hwn, gyda’r gofal a’r medr rhesymol y byddid yn ei ddisgwyl yn rhesymol. 4.2 Byddwn ni’n gwneud ymdrech resymol i ddarparu’r Gwasanaethau o fewn yr amserlen a […]
3.1 Ar wahân i lle dynodir hynny’n wahanol ar y Ffurflen Archebu [neu yn y Telerau sy’n Benodol i’r Gwasanaeth], bydd y Gwasanaethau’n cael eu darparu am Dymor y Contract. 3.2 Byddwn ni’n cysylltu â thi o leiaf fis cyn diwedd Tymor y Contract i roi gwybod i ti bod Tymor y Contract ar fin […]
2.1 Mae’r Cytundeb hwn yn pennu’r telerau a’r amodau cyflenwi cyffredinol y byddwn ni’n eu defnyddio’n sail ar gyfer cyflenwi Gwasanaethau i ti. 2.2 Bydd y Cytundeb hwn yn dod i rym ar y dyddiad y bydd Ogi’n derbyn y Ffurflen Archebu neu ar y dyddiad cyntaf y byddi di’n defnyddio’r Gwasanaethau, pa bynnag un […]
“Canllaw Prisiau” – ystyr hyn yw’r prisiau sy’n berthnasol i’r Gwasanaethau ac a nodir ar ein gwefan, fel y’u diwygir o dro i dro. “Cwmnïau Cyswllt” – ystyr hyn yw un o is-gwmnïau neu gwmnïau daliannol Ogi neu’r Cwsmer ac unrhyw is-gwmni cwmni daliannol o’r fath (mae gan “gwmni daliannol” (Saesneg, “holding company”) ac “is-gwmni” […]
21.1 Bydd Ogi’n ceisio datrys unrhyw anghydfodau â thi. Delir â phob anghydfod a chwyn yn unol â’n Cod Cwynion Cwsmeriaid, sydd i’w weld ar ein gwefan yn www.ogi.cymru. Gelli di gysylltu â’n tîm gofal cwsmeriaid i rannu dy gŵyn â ni, neu anfona e-bost i complaints@ogi.wales. 21.2 Os na fydd modd datrys anghydfod neu gŵyn drwy’r […]
20.1 Ni fydd methiant neu oedi gennyt ti neu gennyn ni wrth arfer unrhyw hawliau o dan y Cytundeb hwn yn gyfystyr ag ildio unrhyw hawl o’r fath, nac yn gweithredu fel modd o rwystro arfer neu orfodi unrhyw hawl o’r fath unrhyw bryd yn y dyfodol. 20.2 Os pennir gan lys sydd ag awdurdodaeth […]
19.1 Ni chei di ac ni chawn ni aseinio na throsglwyddo unrhyw rai o’n hawliau na’n rhwymedigaethau o dan y Cytundeb hwn heb gydsyniad ysgrifenedig y parti arall, ac eithrio y gallwn aseinio ein hawliau neu’n rhwymedigaethau (neu ein hawliau a’n rhwymedigaethau ill dau) i un o Gwmnïau Grŵp Spectrum Fibre heb dy gydsyniad di. […]
18.1 Rhaid i rybuddion a ddarperir o dan y Cytundeb hwn fod yn ysgrifenedig a rhaid eu danfon â llaw neu eu hanfon drwy bost y talwyd amdano ymlaen llaw neu bost electronig fel a ganlyn: i ni yn y cyfeiriad a ddangosir ar y Ffurflen Archebu neu ar dy fil diwethaf neu i unrhyw […]
17.1 Ni fyddi di ac ni fyddwn ni’n torri’r Cytundeb os bydd unrhyw fethiant i gyflawni rhwymedigaeth yn deillio o ddigwyddiad sydd y tu hwnt i reolaeth y parti dan sylw, fel methiant sylweddol ar ran y grid pŵer, methiant sylweddol y Rhyngrwyd, trychineb naturiol, rhyfel, terfysg, gwrthryfel, epidemig, streiciau neu weithredu diwydiannol arall a […]
16.1 Yn amodol ar gymal 16.2, byddi di a byddwn ni’n cadw’n gyfrinachol unrhyw Wybodaeth Gyfrinachol (boed yn ysgrifenedig neu ar lafar) a geir gan y llall o dan y Cytundeb hwn neu mewn perthynas â’r Cytundeb hwn ac ni fydd y naill na’r llall yn datgelu’r Wybodaeth Gyfrinachol honno i unrhyw berson (yn ein […]
15.1 Rwyt ti’n cytuno y bydd yr holl gyfreithiau perthnasol yn cael eu dilyn wrth i ti gymryd unrhyw gamau (neu os bydd camau’n cael eu cymryd ar dy ran) i gopïo, ailddosbarthu neu gyhoeddi unrhyw ddeunydd neu wybodaeth sy’n ddarostyngedig i unrhyw hawliau trydydd parti (gan gynnwys hawliau eiddo deallusol). 15.2 Os byddwn ni […]
14.1 Byddwn ni’n dy indemnio yn erbyn hawliadau neu achosion cyfreithiol a gaiff eu dwyn yn dy erbyn gan drydydd parti, sy’n deillio o esgeulustod neu dor-cyfraith gwirioneddol neu honedig ar ein rhan ni. Byddi di’n ein hysbysu ynghylch unrhyw hawliadau o’r fath ac yn rhoi gwybod i ni am ddatblygiad unrhyw hawliadau neu achosion […]
13.1 Nid ydyn ni’n atebol o dan gontract, cyfraith camweddau (gan gynnwys esgeulustod) nac fel arall am golledion, boed yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, mewn perthynas â busnes, refeniw neu elw, arbedion disgwyliedig neu wariant a wastraffwyd, nac am lygru neu ddinistrio data, am niweidio enw da, nac am unrhyw golledion anuniongyrchol neu ganlyniadol sy’n deillio […]
12.1 Os byddi di’n symud tŷ, efallai y bydd modd i ti symud dy wasanaeth i gyfeiriad newydd er mwyn lleihau’r drafferth a pheidio â cholli’r gwasanaeth. Bydd ein gallu i wneud hyn yn dibynnu ar ba ardal rwyt ti’n symud iddi, ac ar natur y gwasanaeth rwyt ti’n ei gael ar hyn o bryd […]
11.1 Bydd y Cytundeb hwn yn cychwyn ar y Dyddiad Cychwyn a bydd yn parhau mewn grym llawn ac ag effaith lawn tan y byddi di’n ei derfynu neu tan y byddwn ni’n ei derfynu yn unol â’i delerau. 11.2 Gallwn derfynu’r Cytundeb am weithredu’n groes iddo yn y sefyllfaoedd hyn: os bydd y wybodaeth […]
10.1 Gallwn atal y Gwasanaethau heb atebolrwydd i ti yn y sefyllfaoedd hyn: os byddwn ni’n credu’n rhesymol bod y Gwasanaethau’n cael eu defnyddio’n groes i’r Cytundeb hwn; os na fyddi di’n cydymffurfio ag ymchwiliad rhesymol gennyn ni i achos posibl o dorri’r Cytundeb hwn; os bydd ymosodiad ar y Gwasanaethau, neu os bydd trydydd […]
9.1 Mae gennyt hawl i ganslo’r Cytundeb o fewn 14 diwrnod i’r Dyddiad Cychwyn heb roi unrhyw reswm, yn unol â Rheoliadau Contractau Defnyddwyr 2013. 9.2 I arfer yr hawl i ganslo, rhaid i ti roi gwybod i ni am dy benderfyniad mewn datganiad clir, naill ai drwy ffonio 029 2002 0520 neu drwy anfon […]
8.1 Bydd dy fil yn cael ei anfon i dy gyfeiriad e-bost (oni bai dy fod wedi gofyn am fil papur, am gost ychwanegol) a bydd yn cynnwys yr holl daliadau sy’n berthnasol i’r cyfnod hwn, gan gynnwys dy gostau band eang, a lle bydd hynny’n berthnasol, unrhyw ffioedd Gwasanaeth Llais Ogi. 8.2 Bydd ein […]
7.1 Ac eithrio lle pennir hynny’n wahanol yn y Cytundeb hwn, bydd pob taliad a swm arall sy’n ddyledus gennyt mewn perthynas â’r Gwasanaethau wedi’u nodi ar y Ffurflen Archebu a’r Canllaw Prisiau. Bydd y ffioedd gosod a’r taliadau misol sy’n berthnasol i ti o dan y Cytundeb hwn yn amrywio yn dibynnu ar hyd […]
6.1 Gallwn addasu’r swm rwyt ti’n ei dalu bob mis am dy gynllun yn unol â’r Mynegai Prisiau Defnyddwyr +3.9%. Mae hyn yn adlewyrchu’r cynnydd yn y costau i gynnal a buddsoddi yn y rhwydwaith a’r gwasanaeth ryn ni’n ei ddarparu. Caiff cyfradd y Mynegai Prisiau Defnyddwyr ei chyhoeddi ym mis Ionawr bob blwyddyn ac […]
5.1 Rhaid i ti gymryd rhagofalon diogelwch rhesymol wrth ddefnyddio’r Gwasanaethau. 5.2 Ni fyddi di ar unrhyw adeg yn ceisio ochrgamu unrhyw elfennau diogelwch yn y system nac yn ceisio cael mynediad heb awdurdod i unrhyw elfen yn y Gwasanaethau. 5.3 Rwyt ti’n gwarantu bod Gwybodaeth y Cwsmer yn gywir, ac y bydd yn parhau’n […]
4.1 Byddwn ni’n darparu’r Gwasanaethau’n unol â’r Atodiadau perthnasol i’r Cytundeb hwn ac unrhyw fanylion eraill yn y Cytundeb hwn. Os wyt ti’n Gwsmer Gwasanaeth Band Eang Ogi, mae Atodiad 1 yn berthnasol. Os wyt ti’n Gwsmer Gwasanaeth Band Eang Alt Ogi, mae Atodiad 2 yn berthnasol. At hynny, os wyt ti’n Gwsmer Llais Ogi, […]
3.1 Ar wahân i lle dynodir hynny’n wahanol ar y Ffurflen Archebu, bydd y Gwasanaethau’n cael eu darparu am Dymor y Contract. 3.2 Byddwn ni’n cysylltu â thi tua mis cyn diwedd Tymor y Contract i roi gwybod i ti bod Tymor y Contract ar fin dod i ben. Os na fyddi di’n tanysgrifio i […]
2.1 Mae’r Cytundeb hwn yn pennu’r telerau a’r amodau cyflenwi cyffredinol y byddwn ni’n eu defnyddio’n sail ar gyfer cyflenwi Gwasanaethau i ti. 2.2 Bydd y Cytundeb hwn yn dod i rym ar y dyddiad y byddwn ni’n derbyn y Ffurflen Archebu drwy Ein Sianeli Gwerthu neu drwy ddull ysgrifenedig arall, a bydd yn parhau […]
“Canllaw Prisiau” – ystyr hyn yw’r prisiau sy’n berthnasol i’r Gwasanaethau ac a nodir ar ein gwefan, fel y’u diwygir o dro i dro. “Cwmnïau Grŵp Spectrum Fibre” – ystyr hyn yw un o is-gwmnïau neu gwmnïau daliannol Spectrum Fibre Ltd, neu un o is-gwmnïau’r cwmnïau daliannol hynny, yn unol â diffiniad adran 1159 o Ddeddf Cwmnïau […]
Ein pobol yw ein cryfder mwya ni yn Ogi. Ryn ni i gyd yn unigryw, ac amrywiaeth sgiliau a safbwyntiau yw’r union beth sydd ei angen arnon ni i dyfu yn un o brif gwmnïau band eang Cymru. Ryn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod ein gweithlu’n groesawgar ac yn gynhwysol: nid yn unig mae hyn yn bwysig ynddo’i hun, ond mae hefyd yn hanfodol inni allu darparu’r gwasanaeth […]
E-bost: peopleexperience@ogi.wales Ffôn: 029 2002 2370 Drwy’r post: Profiad Pobol Ogi, Tŷ Ogi, Hodge House, 114-116 Heol Eglwys Fair, Caerdydd, CF10 1DY.
Pan wnest ti gais am y swydd hon, fe roist ti ganiatâd inni brosesu dy wybodaeth bersonol at ddibenion y broses recriwtio. Mae gen ti’r hawl ar unrhyw adeg i dynnu yn ôl dy ganiatâd inni brosesu’r wybodaeth at y diben hwnnw. I dynnu dy ganiatâd yn ôl, cysyllta â Chyfarwyddwr Pobol y cwmni. Pan fyddwn ni wedi clywed dy fod ti wedi tynnu dy ganiatâd yn ôl, fyddwn ni ddim yn prosesu dy gais rhagor, ac yn unol […]
Os wyt ti am wneud cwyn am sut ryn ni wedi prosesu dy wybodaeth bersonol, fe elli di gysylltu â ni drwy ddefnyddio’r manylion isod. Fe elli di hefyd gwyno’n uniongyrchol i awdurdod goruchwylio’r Deyrnas Unedig (ICO) Os hoffet ti adolygu, gwirio, cywiro neu ofyn am ddileu dy wybodaeth bersonol, gwrthwynebu prosesu dy ddata personol neu wneud cais inni drosglwyddo copi o dy wybodaeth bersonol i barti arall, cysyllta â’r swyddog diogelu data yn […]
O dan rai amgylchiadau, mae gen ti hawl gyfreithiol i wneud y canlynol: Gofyn am gael gweld dy wybodaeth bersonol (sy’n cael ei alw’n “gais mynediad gwrthrych y data”). Mae hyn yn golygu bod modd iti gael copi o’r wybodaeth bersonol sydd gennyn ni amdanat ti, a sicrhau ein bod ni’n ei phrosesu’n gyfreithlon Gofyn am gywiro’r wybodaeth bersonol […]
Byddwn ni’n cadw dy wybodaeth bersonol am gyfnod o chwe mis ar ôl inni roi gwybod iti am ein penderfyniad ynghylch dy benodi neu beidio. Ryn ni’n cadw dy wybodaeth am y cyfnod hwnnw er mwyn inni allu dangos, os gwneir hawliad cyfreithiol, nad ydyn ni wedi gwahaniaethu yn erbyn ymgeiswyr am resymau sydd wedi’u gwahardd, a’n bod wedi cynnal y broses recriwtio mewn […]
Ryn ni wedi cyflwyno camau diogelu addas rhag i dy wybodaeth bersonol fynd ar goll yn ddamweiniol, rhag iddi gael ei gweld neu’i defnyddio mewn ffordd anawdurdodedig, a rhag iddi gael ei haddasu a’i datgelu. At hynny, byddwn ni’n cyfyngu mynediad i dy wybodaeth bersonol i’r gweithwyr, yr asiantau, y contractwyr a’r trydydd partïon eraill hynny y mae angen iddyn nhw weld y wybodaeth am resymau busnes. Dim […]
Pam allech chi rannu fy ngwybodaeth bersonol â thrydydd partïon? Dim ond at ddibenion prosesu dy gais y byddwn ni’n rhannu dy wybodaeth bersonol â thrydydd partïon. Mae gofyn i’n holl ddarparwyr gwasanaethau trydydd parti gymryd camau addas i ddiogelu dy wybodaeth bersonol yn unol â’n polisïau ni. Ni fyddwn yn caniatáu i ddarparwyr gwasanaethau trydydd parti ddefnyddio dy ddata personol at eu dibenion […]
Ni fydd penderfyniadau’n cael eu gwneud sy’n cael effaith sylweddol arnat ti a fydd wedi’u seilio’n llwyr ar benderfyniadau awtomataidd.
Ryn ni’n rhagweld y byddwn ni’n prosesu gwybodaeth am euogfarnau troseddol pan fydd y swydd neu’r prosiect i gwsmer yn galw am gynnal gwiriad o’r fath. Byddwn ni’n cydymffurfio â’n rhwymedigaethau o dan Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 wrth wneud hynny. Yn unol â gofynion y gyfraith, mae gennyn ni ddogfen bolisi addas a chamau diogelu y byddwn ni’n eu dilyn wrth brosesu data […]
Byddwn ni’n defnyddio gwybodaeth bersonol sy’n arbennig o sensitif yn y ffyrdd canlynol: Byddwn ni’n defnyddio gwybodaeth am dy statws anabledd i ystyried a oes angen inni wneud addasiadau yn ystod y broses recriwtio, er enghraifft a oes angen gwneud addasiadau yn ystod prawf neu gyfweliad. Gallwn ddefnyddio gwybodaeth am dy hil neu dy genedl neu dy […]
Os na fyddi di’n gallu rhoi’r wybodaeth pan ofynnwn amdani, a honno’n angenrheidiol inni ystyried dy gais (fel tystiolaeth o gymwysterau neu dy hanes gweithio), fyddwn ni ddim yn gallu prosesu dy gais yn llwyddiannus. Er enghraifft, os bydd angen geirdaon arnon ni ar gyfer y swydd hon ac os na fyddi di’n gallu rhoi’r manylion perthnasol inni, fyddwn ni ddim yn gallu mynd â dy gais ymhellach.
Byddwn ni’n defnyddio’r wybodaeth bersonol y byddwn ni’n ei chasglu amdanat ti i wneud y canlynol: Asesu dy sgiliau, dy gymwysterau, a pha mor addas wyt ti ar gyfer y swydd y gwnest ti gais amdani Edrych ar dy gefndir a dy eirdaon, pan fydd hynny’n berthnasol i’r swydd Cyfathrebu â thi am y broses recriwtio Cadw cofnodion […]
Efallai y byddwn ni’n casglu gwybodaeth bersonol am ymgeiswyr o’r ffynonellau hyn: Ti, yr ymgeisydd Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd o ran euogfarnau troseddol Y canolwyr rwyt ti wedi’u henwi
O ran dy gais i weithio gyda ni, byddwn ni’n casglu, yn storio ac yn defnyddio’r categorïau canlynol o wybodaeth bersonol amdanat ti: Y wybodaeth rwyt ti wedi’i rhoi inni yn dy CV ac yn dy lythyr cefndir Unrhyw wybodaeth y byddi di’n ei rhoi inni yn ystod cyfweliad, gan gynnwys asesiadau Prawf dy fod di’n gymwys i weithio yn y […]
Byddwn ni’n cydymffurfio â chyfraith ac egwyddorion diogelu data. Mae hyn yn golygu y bydd dy ddata di: Yn cael eu defnyddio’n gyfreithlon, yn deg, ac mewn ffordd dryloyw Yn cael eu casglu at ddibenion dilys yn unig, a ninnau wedi egluro hynny’n glir iti. Ni fyddwn yn defnyddio’r data mewn unrhyw ffordd sy’n anghydnaws â’r dibenion hynny […]
Ryn ni’n ‘rheolwr data’. Mae hyn yn golygu ein bod ni’n gyfrifol am benderfynu sut byddwn ni’n cadw ac yn defnyddio gwybodaeth bersonol amdanat ti. Diben y nodyn preifatrwydd hwn yw dy wneud di’n ymwybodol o sut a pham y bydd dy ddata personol yn cael eu defnyddio, sef er mwyn recriwtio, ac esbonio am ba mor hir y byddwn ni’n cadw’r data hynny fel arfer. Mae’n rhoi gwybodaeth benodol iti y mae’n rhaid inni ei […]
Ein pobol yw ein cryfder mwya ni yn Ogi. Ryn ni i gyd yn unigryw, ac amrywiaeth sgiliau a safbwyntiau yw’r union beth sydd ei angen arnon ni i dyfu yn un o brif gwmnïau band eang Cymru. Ryn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod ein gweithlu’n groesawgar ac yn gynhwysol: nid yn unig mae hyn yn bwysig ynddo’i hun, ond mae hefyd yn hanfodol inni allu darparu’r gwasanaeth […]
Mae gennyt ti’r hawl i hyn: Gofyn am gael gweld dy ddata personol (sy’n cael ei alw’n “gais mynediad gwrthrych y data”). Mae hyn yn golygu bod modd iti gael copi o’r data personol sydd gennyn ni amdanat ti, a sicrhau ein bod yn eu prosesu’n gyfreithlon. Gofyn am gywiro’r data personol sydd gennyn ni amdanat ti. […]
Sail Gyfreithiol Buddiant Dilys – ystyr hyn yw buddiant ein busnes wrth gynnal a rheoli ein busnes i’n galluogi ni i roi’r gwasanaeth gorau a’r profiad gorau a mwya diogel iti. Ryn ni’n sicrhau ein bod ni’n ystyried ac yn cydbwyso unrhyw effaith bosib arnat ti (yn gadarnhaol ac yn negyddol) a dy hawliau di cyn inni brosesu dy […]
Os hoffet ti gysylltu â ni am ein polisi preifatrwydd neu am sut byddwn ni’n casglu, yn prosesu neu’n storio gwybodaeth, fe elli di gysylltu â ni gan ddefnyddio’r manylion hyn: E-bost: dop@ogi.wales Drwy’r post: Swyddog Diogelu Data, Tŷ Ogi, Hodge House, 114-116 Heol Eglwys Fair, Caerdyddd, CF10 1DY.
Gall y wefan hon gynnwys dolenni i wefannau, ategion a rhaglenni trydydd parti. Gallai clicio ar y dolenni hynny neu alluogi’r cysylltiadau hyn olygu bod trydydd partïon yn gallu casglu neu rannu data amdanat ti. Dyn ni ddim yn rheoli’r gwefannau trydydd parti hyn a dyn ni ddim yn gyfrifol am eu datganiadau preifatrwydd nhw. […]
Cafodd yr hysbysiad preifatrwydd hwn ei ddiweddaru ddiwethaf ar 26.05.2021. Mae’n bwysig bod y data personol sydd gennyn ni amdanat ti’n gywir ac yn gyfredol. Rho wybod inni os bydd dy ddata personol yn newid yn ystod dy berthynas â ni.
Os hoffet ti wneud cwyn am sut ryn ni wedi prosesu dy wybodaeth bersonol, fe elli di gysylltu â ni drwy ddefnyddio’r manylion isod. arllena ein Polisi Cwynion i gael rhagor o fanylion. Fe elli di hefyd gwyno’n uniongyrchol i awdurdod goruchwylio’r Deyrnas Unedig (ICO)
Ryn ni’n ceisio ymateb i bob cais dilys o fewn mis. Ar brydiau, gallai gymryd mwy na mis inni os yw dy gais yn arbennig o gymhleth neu os wyt ti wedi gwneud nifer o geisiadau. Yn yr achos hwn, byddwn ni’n rhoi gwybod iti ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddara iti.
Efallai y bydd angen inni ofyn am wybodaeth benodol gennyt ti i’n helpu ni i gadarnhau pwy wyt ti a sicrhau dy hawl i weld dy ddata personol (neu arfer unrhyw un o dy hawliau eraill). Diben hyn yw sicrhau diogelwch a gofalu nad yw data personol yn cael eu datgelu i neb sydd heb hawl i’w cael. […]
Fydd dim rhaid iti dalu ffi i weld dy ddata personol (nac i arfer unrhyw un o’r hawliau eraill). Fodd bynnag, gallen ni godi ffi rhesymol os yw dy gais yn amlwg heb sail, yn ailadroddus, neu’n ormodol. Neu ar y llaw arall, gallen ni wrthod cydymffurfio â dy gais yn yr amgylchiadau hyn.
O dan rai amgylchiadau, mae gen ti hawl i weld y wybodaeth bersonol sydd gennyn ni amdanat ti. Os hoffet ti ddefnyddio unrhyw rai o dy hawliau cyfreithiol mewn perthynas â dy ddata personol, gan gynnwys gwneud ymholiadau am y wybodaeth hon, gofyn am gael ei chywiro, neu ofyn inni roi’r gorau i’w phrosesu, cysyllta […]
Byddwn ni’n cadw dy ddata personol am gyfnod sy’n rhesymol er mwyn cyflawni’r dibenion dros eu casglu, ac am y cyfnod hwnnw’n unig. Gall hynny gynnwys at ddibenion bodloni unrhyw ofynion cyfreithiol a rheoleiddiol, a gofynion sy’n ymwneud â threth, cyfrifyddu neu adrodd. Gallwn gadw dy ddata personol am gyfnod hwy os cawn gŵyn neu os […]
Ryn ni wedi cyflwyno camau diogelu addas rhag i dy ddata personol fynd ar goll yn ddamweiniol, cael eu gweld neu gael eu defnyddio mewn ffyrdd anawdurdodedig, neu gael eu haddasu a’u datgelu. At hynny, byddwn ni’n cyfyngu mynediad i dy ddata personol i’r gweithwyr, yr asiantau, y contractwyr a’r trydydd partïon eraill hynny y mae angen iddyn nhw […]
Fyddwn ni ddim yn trosglwyddo dy ddata personol y tu allan i’r Prydain Fawr ac Iwerddon.
Gallwn ni rannu dy ddata personol â’r partïon a nodir isod at y dibenion a nodir yn y tabl uchod, sy’n dangos at ba ddibenion y byddwn ni’n defnyddio dy ddata personol. Trydydd Partïon Mewnol, fel y nodir yn yr Eirfa. Trydydd Partïon Allanol, fel y nodir yn yr Eirfa. Trydydd partïon y gallwn ddewis gwerthu neu drosglwyddo […]
Byddwn ni’n defnyddio dy ddata personol at y dibenion dros ei chasglu’n unig, oni bai ein bod ni’n ystyried yn rhesymol bod angen inni ei defnyddio at ddiben arall a bod y rheswm hwnnw’n gydnaws â’r diben gwreiddiol. Os byddi di am gael esboniad ynghylch sut bydd prosesu at y diben newydd yn gydnaws â’r diben […]
Ryn ni’n ceisio rhoi dewisiadau iti ynghylch sut byddwn ni’n defnyddio data personol penodol, yn enwedig wrth farchnata a hysbysebu. Ryn ni wedi creu’r dulliau canlynol ar gyfer rheoli data personol. Marchnata gan drydydd partïon Byddwn ni’n gofyn yn benodol iti roi caniatâd cyn inni rannu dy ddata personol ag unrhyw drydydd parti at ddibenion marchnata. Optio mas Galli di […]
Ryn ni wedi creu tabl isod sy’n rhoi disgrifiadau o’r holl ffyrdd ryn ni’n bwriadu defnyddio dy ddata personol. Mae’r tabl hefyd yn dangos y seiliau cyfreithiol ryn ni’n dibynnu arnyn nhw i wneud hynny. Ryn ni hefyd wedi nodi beth yw ein buddiannau dilys pan fydd hynny’n berthnasol. Sylwa y gallwn ni brosesu dy ddata personol gan ddefnyddio mwy nag un sail gyfreithiol, […]
Dim ond pan fydd y gyfraith yn gadael inni wneud hynny y byddwn ni’n defnyddio dy ddata personol. Gan amlaf, byddwn ni’n defnyddio dy ddata personol yn yr amgylchiadau hyn: Pan fydd angen inni gyflawni’r contract ryn ni ar fin ei greu neu wedi’i greu â thi. Pan fydd hynny’n angenrheidiol er mwyn ein buddiannau dilys (neu fuddiannau […]
Ryn ni’n cynnig gwasanaethau amrywiol i fusnesau a phobol sy’n byw yn y Deyrnas Unedig. Sylwa: Mae gennyn ni rwymedigaeth o dan gontract i gadw manylion pobol sydd wedi gofyn am wasanaethau er mwyn darparu’r gwasanaethau hynny. Fodd bynnag, dim ond i roi’r gwasanaeth i’r sawl sydd wedi gofyn amdano, ac at ddibenion eraill sydd â […]
O dro i dro, mae’n bosibl y byddwn yn cael data wrth dryddydd partïon. Byddwn yn casglu’r fath ddata pan fydd rheswm dilys gennym dros wneud hynny yn unig, a byddwn yn defnyddio’ch data yn unol a pholisi’r casglwr. Byddwn yn rhoi gwybod i chi fod gennym eich data o fewn mis i’w dderbyn, ac […]
Byddwn ni’n defnyddio darparwr trydydd pari, Hootsuite, i reoli sut byddwn ni’n ymwneud â phobol ar y cyfryngau cymdeithasol. Os byddi di’n anfon neges breifat neu uniongyrchol aton ni drwy’r cyfryngau cymdeithasol, bydd Hootsuite yn storio’r neges am chwech wythnos. Fydd y neges ddim yn cael ei rhannu ag unrhyw sefydliadau eraill. Categorïau Data: Data Cysylltu Sail Gyfreithiol: Buddiant dilys […]
O bryd i’w gilydd, byddwn ni’n siarad â chwsmeriaid, darpar gwsmeriaid, rhanddeiliaid a phartneriaid wyneb yn wyneb. Gall hyn fod mewn digwyddiadau neu mewn swyddfeydd, er enghraifft. Bydd unrhyw ddata a gaiff eu casglu yn cael eu defnyddio’n sail i ymwneud â’r partïon hynny yn y dyfodol yn unig, ac ni fyddan nhw’n cael eu […]
O bryd i’w gilydd, byddwn ni’n gofyn i ymwelwyr â’n gwefan roi gwybodaeth bersonol a gwybodaeth am eu cwmnïau er mwyn defnyddio ein cynnwys, ond bydd wastad opsiwn iti ddewis peidio â chael rhagor o ddeunydd cyfathrebu gennyn ni. Byddwn ni’n storio dy ddata mewn lle diogel, ac ni fyddwn ni’n eu rhannu â thrydydd […]
Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis – ffeiliau bach yn cynnwys llythrennau a rhifau yw’r rhain. Ryn ni’n eu storio nhw ar dy borwr neu ar y ddyfais y byddi di’n ei defnyddio i edrych ar wefan ogi.cymru. Gelli di osod dy borwr i wrthod rhai o gwcis y porwr neu’r cyfan ohonyn nhw, neu i roi rhybudd iti pan fydd gwefannau’n gosod neu’n defnyddio cwcis. Os byddi di’n diffodd […]
Pan fydd rhywun yn weld â’n gwefannau, ryn ni’n defnyddio gwasanaeth trydydd parti, Google Analytics, i gasglu gwybodaeth gyffredinol a gaiff ei chofnodi ar y rhyngrwyd a manylion patrymau ymddygiad ymwelwyr. Ryn ni’n gwneud hyn er mwyn cael gwybodaeth am bethau fel nifer yr ymwelwyr i wahanol rannau’r wefan. Mae’r wybodaeth hon yn cael ei phrosesu mewn ffordd sy’n […]
Mae data personol, neu wybodaeth bersonol, yn golygu unrhyw wybodaeth am unigolyn sy’n gallu cael ei defnyddio i adnabod yr unigolyn hwnnw. Dyw hyn ddim yn cynnwys data sy’n hepgor manylion am bwy yw’r unigolyn (data dienw). Dyn ni ddim yn casglu mwy o wybodaeth na’r hyn sydd ei angen arnon ni i gyflawni’r dibenion sydd […]
Ryn ni’n rhan o grŵp o wahanol endidau cyfreithiol a nodir ar ein gwefan. Mae’r polisi preifatrwydd hwn wedi’i gyhoeddi ar ran Spectrum Fibre Limited, sy’n masnachu dan enw Ogi, a’i Grŵp. Felly pan fyddwn ni’n crybwyll Spectrum Fibre Limited, Ogi, “ni”, neu “ein” yn y polisi preifatrwydd hwn, ryn ni’n cyfeirio at y cwmni perthnasol yn y Grŵp sy’n gyfrifol am brosesu dy ddata. pectrum Fibre Limited, […]
Mae’r Polisi hwn yn berthnasol i wybodaeth y byddwn ni’n ei chasglu am y canlynol: Ymwelwyr â’n gwefannau Cwsmeriaid – pobol sy’n defnyddio ein gwasanaethau Pobol sy’n gwneud ymholiadau am ein gwasanaethau Pobol sy’n defnyddio ein cynnwys e.e. yn tanysgrifio i’n cylchlythyron, yn lawrlwytho ein fideos, neu’n gwneud cais am gyhoeddiad gennyn ni. Nid yw’n […]
Bydd Ogi yn parhau i adolygu ein proses gaffael ac yn ymwneud â’n cyflenwyr yn hyn o byth. Ryn ni hefyd yn bwriadu adolygu a chyhoeddi ein polisi ym maes caffael. Ryn ni’n bwriadu adolygu a chryfhau ein polisïau ar gyfer cyflenwyr mewn perthynas â chaethwasiaeth fodern, gan ystyried sut y gallwn ni fynd ati […]
Ryn ni’n buddsoddi mewn addysgu ein gweithwyr i gydnabod risgiau caethwasiaeth fodern a masnachu pobl yn ein busnes a’n cadwyni cyflenwi. Drwy ein rhaglenni hyfforddiant, anogir gweithwyr i ganfod a rhoi gwybod am unrhyw achosion o dorri ein polisi gwrth-gaethwasiaeth a masnachu pobl. Bydd gweithwyr yn dysgu am fanteision camau llym i fynd i’r afael […]
canfod ac asesu meysydd risg posibl yn ein busnes a’n cadwyni cyflenwi monitro meysydd risg posibl yn ein busnes a’n cadwyni cyflenwi lleihau’r risg y gallai caethwasiaeth a masnachu pobl ddigwydd yn ein busnes a’n cadwyni cyflenwi cyflwyno camau digonol i warchod pobl sy’n chwythu’r chwiban.
Mae Ogi’n mynd ati’n rheolaidd i werthuso natur y risg ac i ba raddau y mae’n agored i’r risg y gallai caethwasiaeth fodern ddigwydd yn ei gadwyn gyflenwi. Ryn ni’n sicrhau bod ein holl gyflenwyr yn cydymffurfio â’n Polisi Caethwasiaeth Fodern. Ryn ni’n gorfodi cod cydymffurfio llym a dydyn ni ddim yn goddef caethwasiaeth na […]
Mae gan Ogi nifer o bolisïau sy’n ceisio lleihau cymaint ag y bo modd y risg o gaethwasiaeth fodern yn ein cadwyn gyflenwi. Yn eu plith mae: Llawlyfr y Cwmni sy’n ceisio meithrin amgylchedd yn y gweithle sy’n deg, yn agored ac yn dangos parch, ynghyd â hyrwyddo a gwarchod hawliau ac urddas ein holl […]
Mae ein darparwyr yn y gadwyn gyflenwi yn cynnwys busnesau sy’n helpu i adeiladu ein rhwydwaith yn ogystal â gwasanaethau cynghori a gwasanaethau proffesiynol arbenigol sy’n cefnogi ein gweithwyr a’u hamgylchedd gweithio.
Ryn ni wedi ymrwymo i greu amgylchedd cefnogol, heb wahaniaethu yn erbyn neb. I helpu ein cwsmeriaid ’da gofynion arbennig, gallwn ddarparu fersiynau print bras, braille neu sain o’r Cod Cwynion hwn. I gael y rhain, neu unrhyw gymorth arall gydag anghenion arbennig wrth ddefnyddio ein gwasanaethau, gelli di gysylltu ‘da’n tîm Gofalu am Gwsmeriaid […]
Mae’r Cod Cwynion hwn wedi’i gyhoeddi ar ein gwefan yn www.ogi.cymru. Os bydd gen ti unrhyw gwestiynau am y Cod Cwynion, neu os hoffet ti gael copi papur, cysyllta ’da’n tîm Gofalu am Gwsmeriaid drwy anfon e-bost i cymraeg@ogi.cymru (mailto:cymraeg@ogi.cymru), drwy ffonio 029 2002 3200 (tel:02920023200), neu drwy ysgrifennu aton ni: Gofalu am Gwsmeriaid Ogi, […]
Os na allwn ni ddatrys dy gŵyn mewn ffordd sy’n dy fodloni mewn cyfnod o 8 wythnos, neu os byddwn ni’n penderfynu cyn i’r 8 wythnos ddod i ben na allwn ni wneud dim rhagor i ddatrys pethau, fe wnawn ni gyhoeddi llythyr ‘sefyllfa ddiddatrys’. Os byddi di’n dewis gwneud hynny, gelli di wedyn wneud […]
Byddwn ni’n trin dy gŵyn fel un sydd wedi’i datrys mewn ffordd sy’n dy fodloni di yn y sefyllfaoedd hyn: os wyt ti wedi rhoi gwybod yn glir inni mai dyma’r sefyllfa; neu os byddwn ni wedi rhoi gwybod iti beth yw canlyniad ein hymchwiliad i dy gŵyn, a thithau heb ddweud wrthyn ni o […]
Os na fydd modd inni ddatrys pethau mewn ffordd sy’n dy fodloni, os gwnei di gais, byddwn ni’n trosglwyddo’r mater i Brif Swyddog yn yr adran berthnasol, a fydd yn ymchwilio ymhellach ac yn ymateb drwy e-bost o fewn deg diwrnod gwaith arall. A fyddet ti cystal â rhoi cyfle i’r Prif Swyddog ddatrys dy […]
Byddwn ni’n gwneud ein gorau glas i ddatrys dy gŵyn yn ystod dy alwad gynta. Os byddi di’n dweud wrthon ni am dy gŵyn drwy e-bost neu’r post, byddwn ni’n cydnabod hyn o fewn diwrnod gwaith. Pan na fydd hi’n bosib datrys pethau mor gyflym â hynny, byddwn ni’n rhoi gwybod iti pa gamau y […]
Ryn ni wedi ymrwymo i roi sylw i dy gwynion neu dy ymholiadau mor deg ac mor gyflym â phosib. Mae’r holl aelodau o staff yn ymwybodol o’n polisi cwynion a byddan nhw wastad yn ei ddilyn er mwyn sicrhau bod hyn yn digwydd. Os na fyddi di’n fodlon ’da’n gwasanaethau, rho wybod inni cyn […]
Mae Ofcom yn ei gwneud hi’n ofynnol i bob darparwr rhyngrwyd gael Cod Cwynion er mwyn gwarchod cwsmeriaid cartrefi (‘Cwsmeriaid’). Mae’r Cod Cwynion hwn yn ymwneud â’r gwasanaeth rhyngrwyd a/neu’r gwasanaeth ffôn (os byddi di wedi dewis ei ddefnyddio) mae Ogi yn ei ddarparu iti. Yn y Cod hwn, mae pob cyfeiriad sy’n crybwyll ‘ni’ […]
Ryn ni’n rhoi gwasanaethau band eang ffeibr llawn i gartrefi a busnesau ledled Cymru, ac i rai rhannau o Loegr. Ystyr ffeibr llawn yw cysylltiad band eang ffeibr optig yn uniongyrchol i dy gartre neu dy fusnes. Fyddi di ddim yn rhannu hwn ’da lleoliadau eraill lleol. Enw arall arno yw FTTP, sy’n sefyll am […]
Ryn ni’n gwybod y gall hyn fod yn rhwystredig, ond weithiau bydd oedi rhwng cwblhau’r gwaith adeiladu y tu fas i dy gyfeiriad a phan fydd y rhwydwaith ei hun ar gael. Mae hyn gan amlaf am un o ddau reswm: Er ei bod hi’n ymddangos ein bod ni’n adeiladu’r rhwydwaith fesul stryd, mewn gwirionedd, […]
Byddwn ni gan amlaf yn symud popeth oddi yno, ond o bryd i’w gilydd, efallai y bydd angen i ni adael ychydig o offer ar y safle am gyfnod byr. Mae hyn yn normal, ac ni fydd dim risg i’r cyhoedd. Os gweli di rywbeth sy’n dy bryderu, cysyllta â’n tîm Gofal Cwsmeriaid ar 029 […]
Os bydd peiriannydd yn difrodi dy eiddo’n ddamweiniol, bydd y Rheolwr Tîm perthnasol yn cael sgwrs ’da ti i drafod beth i’w wneud nesaf. Os mai ein bai ni oedd hyn, yna byddwn ni’n trefnu i wneud y gwaith atgyweirio ac yn talu am unrhyw ddifrod. Os na fyddi di’n sylwi ar y difrod tan […]
Os wyt ti’n byw ar ffordd breifat, bydd ein peiriannydd yn dy ffonio i drafod sut i gyrraedd dy eiddo ac i drafod unrhyw ofynion penodol.
Fe fyddwn ni’n rhoi gwybodaeth am unrhyw gynlluniau i gau ffyrdd gan ddefnyddio’r sianeli cymunedol sydd ar gael (fel grwpiau Facebook lleol). Yn nes at yr amser, byddwn ni’n rhoi arwyddion lleol sy’n dangos pryd mae disgwyl dechrau a gorffen y gwaith, a bydd goruchwyliwr ar y safle bob dydd a fydd yn gallu ateb […]
Os bydd pobl yn byw mewn ardaloedd gwledig lle mae’r band eang yn araf, efallai y byddan nhw’n gallu cael talebau gan Building Digital UK (BDUK) i helpu i dalu am gostau gosod band eang gigabit. I gael rhagor o wybodaeth ac i weld a wyt ti’n gymwys i gael taleb gigabit, cer i dudalen […]
Fe wnawn ni ein gorau i roi gwybod i bawb yn y gymuned ein bod ni ar y ffordd. Os bydd ein gwaith ni’n effeithio’n uniongyrchol arnat ti, fe fyddwn ni’n ysgrifennu atat ac yn rhoi gwybod i ti beth i’w ddisgwyl, a pha bryd.
Mae sawl ardal yn y de sydd yn dal heb wibgysylltiad band eang – ar hyn o bryd. Ryn ni’n gweithio’n galed i ddod â thechnoleg ffeibr cyflym i’r ardaloedd hyn, a hynny’n aml yn gynt o lawer na chynlluniau’r prif ddarparwyr. Bydd hynny’n rhoi’r cysylltiad i gymunedau drwy Gymru y maen nhw’n ei haeddu. […]
If you live on a private road, our engineer will give you a call to gain access to your property and to discuss any specific requirements you may have with you.
Bydd y gwaith fel arfer yn cymryd 1.5 awr. Bydd ein criw yn gosod dy wib gysylltiad ffeibr llawn, ac yn gosod dy lwybrydd/ion hefyd. Mae fideo syml am y broses yn adran ‘Ardal Cwsmeriaid Ogi’.
£60 yw ein ffi gosod arferol, ond ryn ni’n cynnig gostyngiad ar y pris hwn – ac yn ei ddarparu am ddim – i bob un sy’n arwyddo cytundeb Ogi i’r cartref am cyfnod o 12 neu 24 mis. Mae’r ffi ar gyfer gwaith manylach arnat – yna bydd hyn yn costio £80 a byddwn […]
Who we are Suggested text: Our website address is: https://ogi.cymru. Comments Suggested text: When visitors leave comments on the site we collect the data shown in the comments form, and also the visitor’s IP address and browser user agent string to help spam detection. An anonymized string created from your email address (also called a […]