Ogi yn ymuno a thîm Esports Wales

29 Ebrill 2023
Bounce Arrow
Adre » Am Ogi » Newyddion » Ogi yn ymuno a thîm Esports Wales

Mae Ogi, y cwmni rhyngrwyd o Gymru, ag Esports Wales, corff llywodraethu cenedlaethol e-chwaraeon yng Nghymru,  yn falch o gyhoeddi ei bartneriaeth newydd er bydd y sector e-chwaraeon yng Nghymru.

O dan y bartneriaeth newydd, Ogi fydd noddwr cenedlaethol Esports Wales, a bydd logo’r cwmni’n ymddangos ar wefan y corff llywodraethu, ar y crysau swyddogol y bydd chwaraewyr, staff a ffrydwyr yn eu gwisgo, ac ar sianeli cystadleuol.

Mae’r bartneriaeth yn rhoi cyfleoedd newydd i Esports Wales ac Ogi ddangos grym chwarae gemau, gallu’r chwaraewyr, a manteision cysylltiad ffeibr llawn, a hynny i gynulleidfa ehangach ledled y wlad.

Gan gyhoeddi’r bartneriaeth newydd, meddai John Jackson, Prif Weithredwr Esports Wales, “Mae’n gyffrous iawn cael bod yn bartner i Ogi, y darparwr band eang arloesol o Gymru, ac mae’r potensial i bweru’r diwydiant e-chwaraeon sy’n dod yn sgil hynny hefyd yn gyffrous iawn.

“Bydd y cyfle hwn i gydweithio yn ein helpu i ddatblygu ein rhaglen e-chwaraeon ymhellach, ac i ymwneud â mwy fyth o chwaraewyr, gwylwyr a dilynwyr mewn amrywiaeth eang o gymunedau. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio’n agos gydag Ogi ac i fanteisio ar arbenigedd y cwmni er mwyn creu atebion arloesol i gefnogwyr y gamp.”

Gan adleisio cyffro John, dywedodd Sarah Vining, Pennaeth Brand ac Ymgysylltu Ogi: “Rydyn ni wrth ein boddau o fod mewn sefyllfa i gefnogi twf e-chwaraeon yng Nghymru drwy’r bartneriaeth gyffrous newydd hon.

“Mae e-chwaraeon yn ddiwydiant sy’n prysur dyfu, ac o’i gyfuno â’n gwibgysylltiad band eang, mae dyfodol chwarae gemau yng Nghymru yn ddyfodol cyffrous heb ddim byffro ar ei gyfyl.  Rydyn ni’n edrych ymlaen yn arw at gydweithio er mwyn creu cyfleoedd newydd a fydd, gobeithio, yn ‘newid y gêm’ i’r gymuned e-chwaraeon a’r bobl sy’n dilyn y gamp.”

Efallai bydd rhain hefyd o ddiddordeb