Lliniaru’r pwysau ar gartrefi gyda band eang am ddim am chwe mis

Dydd Llun, 26 Medi. De Cymru. Heddiw, mae Ogi – cwmni band eang cynhenid Cymru – wedi cyhoeddi bargen band eang a llais newydd, sy’n cynnig ei wasanaethau ffeibr llawn am ddim am chwe mis, mewn ymgais i helpu i leddfu’r pwysau ar filiau cartrefi y gaeaf hwn.
Mae bargen Ogi Max, sydd ar gael ar draws y trefi a’r pentrefi lle y mae Ogi yn cyflwyno ei rwydwaith newydd Gigabit-alluog, yn darparu i gartrefi sy’n ymrwymo i gontractau 24 mis y pedwerydd cyfleustod am ddim am y chwe mis cyntaf.
Mae’r darparwr band eang, sydd hefyd wedi gostwng 10% ar brisiau ei becynnau cyffredinol, gan eu pennu hyd o leiaf Ebrill 2023, yn amcangyfrif y gallai cwsmeriaid arbed hyd at £390, yn dibynnu ar y pecyn y maen nhw’n ei ddewis.
Mae’r fargen wedi’i llunio i gynnig gwasanaethau ffeibr llawn Ogi, sy’n unigryw mewn llawer o’i ardaloedd cyflwyno, heb ychwanegu’n syth at wariant cartrefi sydd eisoes dan straen. Gyda sgoriau boddhad cwsmeriaid cryf sydd y tu hwnt i 95% yn gyson – llawer uwch na safon y diwydiant sef 85% – mae’r darparwr sydd wedi’i leoli yng Nghymru yn datblygu enw da cadarnhaol iddo’i hun am ei wasanaethau cynhenid a’i gymorth i gwsmeriaid.
Dywedodd Prif Swyddog Refeniw Ogi, Sally-Anne Skinner: “Rydyn ni i gyd yn teimlo’r wasgfa ar hyn o bryd, ac yma yn Ogi rydyn ni eisiau helpu pobl i reoli’r pwysau gyda chynnig heb amodau ynghlwm ag ef. Nid yn unig y bydd cartrefi yn arbed costau cyfleustodau band eang; ond gall band eang cyflym a dibynadwy leihau costau eraill i gartrefi hefyd: gan ein helpu i weithio gartref heb orfod cymudo; dod ag adloniant gwell inni heb orfod talu am fynd allan; hyd yn oed ein galluogi i reoli ein biliau trydan a gwresogi drwy dechnolegau clyfar, cysylltiedig.
“Mae cynnig ein gwasanaethau i gwsmeriaid newydd am ddim am chwe mis yn teimlo fel y peth iawn i’w wneud, ac yn galluogi pobl roi cynnig ar ein gwasanaethau, gyda thawelwch meddwl na fyddant yn talu dim tan y Gwanwyn y flwyddyn nesaf. Ar ben hynny, rydyn ni’n hyderus pan fydd pobl yn ymuno, y byddan nhw’n aros gyda ni ac yn dod yn lladmeryddion dros Ogi yn y tymor hir!”
Ychwanegodd y Prif Swyddog Gweithredol, Ben Allwright: “Ogi yw’r cwmni rhyngrwyd sydd wedi’i greu a’i wreiddio yng Nghymru. Rydyn ni’n sbarduno chwyldro digidol mewn cymunedau o Sir Benfro i Sir Fynwy, gan wreiddio cysylltedd y genhedlaeth nesaf – a’r posibiliadau sy’n dod yn ei sgil – yng ngwead ein trefi a’n pentrefi.”
“Gyda chwmnïau cyfleustodau eraill yn codi eu prisiau, fel darparwr pedwerydd cyfleustod, rydyn ni’n falch o fod mewn sefyllfa i gefnogi cwsmeriaid Cymru fel hyn, gan ddod â gwasanaeth sydd â’r potensial i wneud gwahaniaeth mawr i lawer mwy o bobl y gaeaf hwn a thu hwnt.”
Ble mae’r fagl? Does dim un. Fel gyda phob darparwr band eang, y cyfan sydd angen i gwsmeriaid ei wneud yw ymrwymo i gontract 24-mis. Ar ôl i gyfnod y cynnig ddod i ben, bydd cwsmeriaid yn parhau â chyfradd sefydlog ar un o dariffau cystadleuol Ogi am weddill cyfnod y cytundeb [18 mis].
Dwylo lan os wyt ti eisiau chwe mis AM DDIM!*
Yn dibynnu ar yr hyn sydd ar gael yn dy ardal di. Mae Cynnig ‘Ogi Max’ yn cynnwys band eang am ddim a gwasanaeth llais am ddim gyda’r nos ac ar benwythnosau am chwe mis. Nid yw galwadau y tu fas i’r tariff hwn wedi’u cynnwys. Mae’r contract yn un 24 mis. Fe alli di ganslo dy wasanaeth band eang Ogi Max o fewn tri mis heb unrhyw ymrwymiad pellach, ond bydd yn rhaid dychwelyd yr offer wifi at Ogi. Fe alli di ganslo gwasanaeth llais Ogi unrhyw bryd gyda 30 diwrnod o rybudd.
Prisiau band eang misol o £30 ac o £5 ar gyfer gwasanaeth llais gyda’r nos ac ar benwythnosau ar ôl chwe mis. Mae’r prisiau’n amrywio yn dibynnu ar y pecyn.