Hwb i dwf band eang ffeibr llawn yng Nghymru

23 Ionawr 2023
Bounce Arrow
Adre » Am Ogi » Newyddion » Hwb i dwf band eang ffeibr llawn yng Nghymru

Mae’r gwaith bellach wedi dechrau i gysylltu degau o filoedd o bobl mewn dwy gymuned ar hugain newydd, wrth i gynllun £200 miliwn gwreiddiol Ogi ymestyn i drefi a phentrefi cymudo ffyniannus ledled y De.

Mae’r cam nesaf yn golygu cyflwyno’r rhwydwaith i’r Coed-duon, Langstone, Maesteg, Pont-y-pŵl, Trehafod ac Underwood. Pan fydd y gwaith wedi’i gwblhau, bydd modd i gartrefi a busnesau fanteisio ar rwydwaith ffeibr llawn newydd – y tro cyntaf bydd nifer yn gallu profi cyflymderau ffeibr llawn i’r drws.

Mae hyn yn effaith economaidd sy’n werth tua £5miliwn i bob ardal leol, gydag ymchwil yn awgrymu y gallai’r budd hirdymor fod mor uchel â phum gwaith hynny, wrth i gartrefi a busnesau lleol fabwysiadu’r dechnoleg newydd.

Ynghyd â’i rwydwaith ffeibr llawn cenhedlaeth nesaf ar gyfer cartrefi, bydd Ogi yn gwneud mynediad at gefnogaeth TG o’r radd flaenaf yn haws i fusnesau lleol hefyd – gan roi’r ymyl gystadleuol i weithleoedd o bob math i ffynnu.

Fe frasgamodd Ogi i’r llwyfan yn ôl yn 2021, gyda chynllun uchelgeisiol gwerth miliynau o bunnoedd. Ers hynny, mae wedi tyfu ddeg gwaith mewn maint, ac roedd yn cyflogi dros 170 aelod o staff ar ddechrau’r flwyddyn. Mae’n helpu i gynnal cannoedd o swyddi lleol drwy ei gadwyn gyflenwi a thrwy bedwar prif gontractwr.

Gyda cwsmeriaid bellach wedi cofrestru i gael ei gynnig arbennig, sy’n rhoi gwasanaeth am chwe mis yn rhad ac am ddim yng nghanol yr argyfwng costau byw, mae bodlonrwydd pobl â’r gwasanaeth yn uwch o lawer na’r hyn sy’n arferol yn y diwydiant, ac roedd cyfartaledd y sgôr blynyddol dros 90% (CSAT) ar ddiwedd 2022.

Wrth gyhoeddi enwau’r trefi diweddara’, meddai Ben Allwright, Prif Weithredwr Ogi: “Wrth i ni weld cynnydd yn y galw am wibgysylltiad dibynadwy, mae ein gwaith yn dod yn bwysicach nag erioed. Mae ein cartrefi ni’n mynd yn fwy clyfar o hyd, ac wrth i’r argyfwng costau byw effeithio ar bopeth rydyn ni’n ei wneud, mae mwy a mwy o bobl yn awyddus i wella ansawdd eu cysylltiad er mwyn gweithio a chael adloniant gartre’.

“Mae ein rhwydwaith ffeibr llawn yn galluogi busnesau i addasu ac i fynd ati o ddifri’ i weithio’n ystwyth; gartre’, fe all teuluoedd gael y dewisiadau adloniant gorau oll, heb orfod brwydro â’i gilydd am led band, sy’n broblem rhy gyffredin o lawer ar y rhwydweithiau copr hen ffasiwn.

Meddai Jake, sy’n chwaraewr gemau brwd, ac yn un o gwsmeriaid Ogi: “Mae wedi newid yn llwyr sut ryn ni’n gallu chwarae gemau. A ninnau heb lawer o amser ’da’n gilydd gartre’, ryn ni moyn ei ddefnyddio’n chwarae gemau ’da’n ffrindiau, neu’n gwylio ffilmiau, yn hytrach nag yn aros i ddiweddariadau gael eu gosod.

“Mae’n swnio’n amlwg, ond mae cysylltiad cyflymach yn golygu ein bod ni’n gallu canolbwyntio ar beth sy’n bwysig – fel ein teulu newydd, ein ffrindiau ar-lein … a chynllunio erbyn hyn at ein priodas.” Ryn ni wastad wedi gorfod derbyn bod y cysylltiad yn ara’ – ond bellach, diolch i Ogi, mae gwibgysylltiad dibynadwy yn opsiwn go iawn, hyd yn oed a chithau’n byw y tu fas i’r trefi mawr a’r dinasoedd.”


Y cyntaf i’r felin

Byw yn ne Cymru ac eisiau bod yn un o’r rhai cyntaf i ddarganfod pryd mae Ogi ar gael. Cofrestra i’n rhestr aros a byddwn yn rhoi gwybod pan fydd ein ffeibr llawn gyflym a dibynadwy iawn wedi cyrraedd dy stepen drws.

Efallai bydd rhain hefyd o ddiddordeb