Carlamu uchelgais ffeibr llawn Cymru

16 Awst 2022
Bounce Arrow
Adre » Am Ogi » Newyddion » Carlamu uchelgais ffeibr llawn Cymru

Mae 38 o drefi a phentrefi de Cymru bellach am elwa diolch i gam diweddaraf y cwmni, sy’n buddsoddi £200m ar draws y rhanbarth ar hyn o bryd.

Yn ymestyn y cynllun i Ben-y-bont ar OgwrCaerffili a Rhondda Cynon Taf – bydd Ogi yn dechrau gwaith mewn rhai o’r ardaloedd hyn yn yr wythnosau nesaf. Mae cyhoeddiad heddiw yn dod â gwasanaethau tra chyflym Ogi i gyfanswm o saith Awdurdod Lleol, gan nodi newid gêr yn y cyrhaeddiad posib y cwmni.

Lansiodd Ogi ychydig dros flwyddyn yn ôl, gyda chynllun masnachol gwerth £200 miliwn i ddod â chysylltedd ffeibr llawn i gymunedau sydd wedi ei chael hi’n anodd cysylltu yn y gorffennol. Mae’r garreg filltir ddiweddaraf hon yn nhwf Ogi yn gweld y cwmni’n cyflymu ei raglen uchelgeisiol – darpariaeth fydd ar gael i 80,000 o gartrefi a busnesai yn y pen draw.

Nid yw’r cwmni’n dangos unrhyw arwydd o arafu; mae niferoedd staff wedi cynyddu o 20 i bron i 140 dros y 18 mis diwethaf; ac maent wedi agor pedwar swyddfa ranbarthol yng Nghasnewydd, Tongwynlais, Caerdydd a San Clêr, er mwyn cefnogi mwy o staff i fyw a gweithio’n lleol.

Daw ymdrechion Ogi i wella mynediad band eang wrth i Bwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd, a Seilwaith y Senedd alw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i helpu cymunedau gwledig gael mynediad at well cysylltedd. Yn wir, mae cyhoeddiad heddiw yn rhoi Ogi ar lwybr i ddod â ffeibr i draean o Sir Benfro wedi i’r gwaith cael ei chwpla.

Tu hwnt i ardaloedd gwledig, mae’r cynllun diweddaraf yn gweld Ogi yn ymestyn ei ôl troed i ardaloedd ôl-ddiwydiannol megis Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili a Rhondda Cynon Taf. A chyda gwaith y cwmni’n chwistrellu tua £6m i lefydd fel Hwlffordd, yn ogystal ag amcangyfrif o effaith economaidd gwerth hyd at bum gwaith y buddsoddiad cychwynnol, bydd newyddion heddiw yn groeso mawr i economïau lleol ar draws y rhanbarth.

Wrth gyhoeddi’r ardaloedd newydd, dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Ogi, Ben Allwright: “Mae Ogi yn arwain chwyldro digidol Cymru drwy ddod â seilwaith ffeibr llawn i ardaloedd sydd wir ei angen.

“Mae’r cymunedau eiconig hyn yn byrlymu gydag arloesedd a chreadigrwydd – ac maen nhw’n haeddu’r cysylltedd gorau i’w helpu i wireddu eu potensial. Fel ryn ni’n gweld mewn llefydd fel Sir Benfro, dim ond Ogi all darparu hyn. Mae ein rhwydweithiau’n galluogi busnesau i dyfu, ble bynnag y maent wedi’u lleoli; helpu pobl i weithio’n agosach at ble maen nhw’n byw; a theuluoedd i brofi’r adloniant cartref gorau posib.”

Wrth gefnogi’r cyhoeddiad diweddaraf, dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James AS: “Does dim modd tanbrisio effaith band eang cyflym a fforddiadwy i gartrefi a busnesau ar draws Cymru.

“Mae Ogi yn helpu i gyrraedd y safon honno ar draws de Cymru, gan gefnogi Cymru yn ei hymgyrch i fod yn genedl ddigidol.”

Dim ond 1 o bob 3 adeilad yng Nghymru sydd â mynediad at gysylltedd ffeibr-optig llawn ar hyn o bryd, gyda Phrydain yn llusgo y tu ôl yn gyffredinol i gymharu â gweddill Ewrop, lle gall darpariaeth fod mor uchel â 90%. Bydd cynllun diweddaraf Ogi yn helpu cau rhaniad digidol y DU mewn ardaloedd sy’n aml yn cael eu labelu fel rhai ‘wedi’u gadael ar ôl’.

Mae gwaith arolygu eisoes ar y gweill mewn llawer o’r ardaloedd hyn, gyda gweithgaredd yn dechrau ar lefel stryd dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf. Bydd cartrefi a busnesau yn llawer o’r cymunedau hyn yn gallu manteisio ar wasanaeth tra chyflym Ogi o fis Medi [2022] ymlaen.


 

Y cyntaf i’r felin

Byw yn ne Cymru ac eisiau bod yn un o’r rhai cyntaf i ddarganfod pryd mae Ogi ar gael. Cofrestra i’n rhestr aros a byddwn yn rhoi gwybod pan fydd ein ffeibr llawn gyflym a dibynadwy iawn wedi cyrraedd dy stepen drws.

Efallai bydd rhain hefyd o ddiddordeb