
Pratik
o Lyn Ebwy
Dydy cynllunio sut i gyflwyno ffeibr llawn i dros 150,000 o leoliadau ddim yn rhywbeth y gallwch chi wastad chwerthin yn ei gylch. Ond mae cornel gomedi yn ein tîm cyflawni – a hynny ar ffurf Pratik, un o brif ddigrifwyr Ogi, sy’n gweithio fel Peiriannydd Cynllunio Rhwydwaith.
Pan symudodd Pratik yn ôl i Lyn Ebwy i weithio i Ogi, roedd y gallu i gyfuno ei ddau ddiddordeb mawr – comedi a chynllunio rhwydwaith – yn golygu bod ei ‘freuddwyd wedi yn dod yn wir’.
Roedd gan Pratik tuag ugain mlynedd o brofiad yn y diwydiant telathrebu pan ymunodd â thîm cyflawni uchelgeisiol Ogi, sy’n gyfrifol am y cynlluniau ar gyfer cyflwyno rhwydwaith ffeibr llawn newyddaf y de.
Mae’r Peiriannydd Cynllunio – sydd hefyd yn MC comedi – yn dweud bod “y gefnogaeth gan bawb, yn y swyddfa a’r tu hwnt iddi, wedi bod yn syfrdanol” ers ymuno â’r cwmni. Ar ôl delio â chymhlethdod ei swydd yn ystod y dydd, bydd Pratik yn cynnal digwyddiadau comedi mewn tafarndai a chlybiau gyda’r nos. Same Again Barman yw enw’r digwyddiadau hyn, ac yntau’n defnyddio’i gyfenw ‘Barman’ fel llysenw ar y llwyfan.

“Mae’n lle mor
bositif a bywiog
i weithio ynddo…”
Mae comedi wastad wedi bod yn rhan fawr o fywyd Pratik, ond y cyfryngau cymdeithasol a roddodd y llwyfan roedd ei angen arno i ffynnu.
“Mae comedi wastad wedi bod yn agos at fy nghalon. Fe es i ar gyrsiau i ddysgu sut i wneud stand-yp, ond dim ond flynyddoedd wedyn y dechreuais i gael llwyddiant – diolch yn rhannol i fod ar-lein. Fe ddes i o hyd i fy arddull ‘cabaret hen ffasiwn’ gan ddechrau perfformio mewn tafarndai a lleoliadau ledled Llundain. Roedd modd imi werthu’r holl docynnau drwy eu hyrwyddo nhw ar blatfformau fel Facebook.”
Pan symudodd Pratik yn ôl gartre’ i Lyn Ebwy, fe gafodd egwyl o’i yrfa gomedi. Ond pan ddaeth tîm Profiad Pobl Ogi i wybod am ei dalent gudd, fe wnaethon nhw achub yn syth ar y cyfle i gefnogi’i berfformiad cyntaf yng Nghymru.
“Mae’n lle mor bositif a bywiog i weithio ynddo, ond yr hyn wnaeth fy synnu oedd sut mae’r cwmni’n buddsoddi go iawn yn ei bobl.”

Fe wnaeth Ogi helpu Pratik i gael lleoliad i’w gig cynta’ gartre’, gan roi gofod iddo ym Mharc yr Arfau Caerdydd. Fe wnaethon nhw hefyd helpu i werthu tocynnau a hyrwyddo’r digwyddiad.
“Fy gig mwyaf hyd yma oedd yn Lolfa Gareth Edwards yng nghartre’ rygbi Caerdydd, a hynny’n bosibl drwy gefnogaeth pobl o bob rhan o Ogi. Yn llythrennol, roedden nhw eisiau gwneud popeth o fewn eu gallu i fy nghefnogi.”
Er nad yw’n barod i roi’r gorau i’w swydd go iawn eto, mae Pratik wedi gwneud cryn argraff yn y sîn gomedi leol, gan ddod â chomedïwyr enwog i Gymru, a hynny’n aml am y tro cynta’. Mae’n hoff iawn o gyfuno’i hiwmor unigryw â chomedi stand-yp ac arsylwi.
“Rwy’ wedi gwneud pethau braf iawn ers fy gig cyntaf gartre’, fel cynnal sioe gomedi ar-lein, cyflwyno rhaglen gomedi ar y radio, ac adrodd fy jôcs yng Ngŵyl Ymylol Camden.
“Er fy mod i wedi bod yn gwneud comedi ers tro byd, mae camu ar y llwyfan yn dal yn brofiad nerfus. Ond cyn gynted ag y clywa’ i’r chwerthiniad cyntaf, rwy’n gwybod y bydd popeth yn iawn.”
Pan nad yw ar y llwyfan, mae Pratik yn parhau i gynllunio sut i gyflwyno rhwydwaith Ogi, gan freuddwydio ar yr un pryd am gael ei sioe ei hun ar y teledu.
“Rwy’ wrth fy modd yn gwneud beth rwy’n ei wneud, ac mae cael cefnogaeth ac anogaeth fy nheulu gwaith wedi gwneud imi deimlo’n gartrefol. Maen nhw’n griw gwirioneddol wych.”
Efallai y byddet hefyd yn hoffi…

Jake a Cerys,
o Gaerfyrddin

Malcolm,
o Sir Fynwy

Martin,
o Hwlffordd

Polly,
o Gaerdydd