Botiaid briwsionllyd Ogi – y cyfan am ein cwcis…

Mae bywyd yn rhy fyr i sgrolio a chwilota’n ddi-ben-draw. I wella profiad llywio ein cwsmeriaid, ac i ragweld yn well beth rwyt ti’n chwilio amdano, mae ein gwefan yn storio cwcis ar dy gyfrifiadur. 

Dyma ragor am Bolisi Cwcis Ogi, a chrynodeb o’r Cwcis sy’n cael eu defnyddio ar ein gwefan. 

 

Polisi Cwcis

Mae ein gwefan ni’n defnyddio cwcis.

Mae Cwci yn ddarn bach o ddata ar wefan mae gwefan – pan fydd rhywun yn ei defnyddio – yn gallu holi i’th borydd ei storio ar dy ddyfais er mwyn cofio gwybodaeth amdanat, fel dy ddewis iaith neu dy fanylion mewngofnodi.

Os byddi di’n cytuno, ryn ni’n eu storio nhw ar dy borwr neu ar y ddyfais y byddi di’n ei defnyddio i edrych ar wefan ogi.cymru.

Yn gyffredinol, mae cwcis yn cael eu defnyddio i gadw cofnod o’r hyn mae defnyddwyr yn ei ffafrio, i storio gwybodaeth am bethau fel certi siopau, ac i roi data tracio dienw i raglenni trydydd parti fel Google Analytics.

Ar y cyfan, bydd cwcis yn gwella’th profiad wrth i ti bori. Serch hynny, efallai y byddai’n well gen ti ddiffodd y cwcis ar y wefan hon ac ar wefannau eraill.

Y ffordd orau o wneud hyn yw diffodd y cwcis yn dy borwr.

Dylai adran Help dy borwr ddangos sut mae gwneud hyn, neu cer i wefan sy’n rhoi cyngor ar gyfer pob porwr modern.

 

Sut byddwn ni’n defnyddio cwcis

Fel y rhan fwyaf o wefannau, ryn ni’n defnyddio cwcis hanfodol er mwyn i’n gwefan weithio’n iawn. Er enghraifft, maen nhw’n cynnwys cwcis sy’n dy alluogi di i fewngofnodi i fannau diogel ar ein gwefan, defnyddio cert siopa, neu ddefnyddio gwasanaethau e-filio.

Gelli weld rhagor am y cwcis unigol ryn ni’n eu defnyddio a’u pwrpas idos.

Mae’r cwcis sydd wedi cael eu gosod gennym ni yn cael eu galw’n gwcis parti-cyntaf. Ryn ni hefyd yn defnyddio cwcis trydydd-parti – sef cwcis o barth gwahanol i barth y wefan rwyt ti’n ymweld â hi – ar gyfer pwrpasau hysbysebu a marchnata.

Dylet nodi hefyd efallai bod y trydydd partïon hyn hefyd yn defnyddio cwcis, ac nad oes gennym ddim rheolaeth dros hyn. Gallai’r trydydd partïon hyn gynnwys rhwydweithiau hysbysebu a darparwyr gwasanaethau dadansoddi traffic gwe, er enghraifft.

Rwyt ti’n gallu blocio pob cwci neu cwcis trydydd parti trwy osodiadau dy borwr – sy’n dy alluogi i wrthod gosod rhai neu bob cwci. Ond os wyt ti’n defnyddio gosodiadau dy borwr i flocio bob cwci (yn cynnwys rhai hanfodol yna mae’n bosibl na fydd modd i ti ddefnyddio pob rhan o’n gwefan.

This cookie policy has been created and updated by Cookie Consent | CookieFirst.