
Mae ffeibr llawn dibynadwy rownd y gornel
Band eang ffeibr llawn wedi’i wneud yn, ac i Gymru
Rhanna dy fanylion i gael gwybod mwy.


Gwibgysylltiad, reit at garreg dy ddrws
Heddiw, mae cwmnïau fel Ogi yn cyflwyno rhwydweithiau ffeibr llawn – sef cysylltiad ffeibr optig yn uniongyrchol at garreg dy ddrws. Mae’n gysylltiad cyflymach, mwy dibynadwy, ar gyfer yr holl chwarae gemau, ffrydio a chyfarfodydd Zoom sy’n rhan o dy fywyd.
Dyna i ti’r cysylltiad ffeibr llawn 300Mbps, er enghraifft. Gyda’r cysylltiad hwn, mae modd lawrlwytho albwm cerddoriaeth cyfan mewn tua 2 eiliad, a ffilm ‘ultra-HD’ 4k mewn tua 9 munud. Ac mae modd cysylltu dros 60 o ddyfeisiadau ar y tro heb sylwi ar unrhyw arafu.
Cymhara hynny â’r cyflymder band eang cyfartalog yng Nghymru – sef 67.79Mbps yn ôl Think Broadband – ac mae’n debygol ei bod hi’n cymryd 10 eiliad i lawrlwytho albwm a 40 o funudau hirfaith i lawrlwytho ffilm ‘ultra-HD’ 4k.
Yn amodol ar y telerau. Mae’r cyfle i ennill y wobr ar gael i drigolion dros 18 oed sydd wedi cofrestru’u manylion gydag Ogi drwy ein gwefan, drwy’r gwasanaeth gwerthu dros y ffôn, neu wyneb yn wyneb. Nid oes gan weithwyr a’u teuluoedd, y Hyrwyddwr, asiantau nac unrhyw drydydd parti sydd â chysylltiad uniongyrchol â’r Hyrwyddwr neu â’r broses o weinyddu’r gystadleuaeth hon yr hawl i gymryd rhan.