Dyn ni ddim yn newydd-ddyfodiaid i’r maes yma. Ein henwau ni o’r blaen oedd Spectrum Internet a Net Support UK, ond ryn ni’n gwneud mwy nawr na dim ond rhoi gwasanaeth rhyngrwyd a gwasanaeth technoleg gwybodaeth arferol.
Ryn ni’n nabod Cymru. Mae ein pencadlys yma yng Nghymru ac ryn ni’n falch o hynny (ond fe gei di anghofio am y stereoteipiau a’r ystrydebau am y tro!) Ryn ni wedi’n cyffroi ein bod ni’n agor y drws ar oes ddigidol newydd ’da chymorth buddsoddwyr a chefnogaeth y llywodraeth. Pan fydd busnesau’n gallu perfformio’n well, byddwn ni’n creu mwy o gyfleoedd a chysylltiadau i bawb.
Holl amcan Ogi yw ail-greu’r egni braf hwnnw sydd i’w deimlo wrth i bobol ddod ynghyd. Dyma’r ysbryd afieithus, heintus sy’n cael ei greu mewn cyngherddau, ar ddiwrnodau gêm, ac wrth gwrdd â dy gyfeillion. Dyma’r ysfa i gysylltu, i ymwneud â’n gilydd, ac i ddathlu.
Byw’n llawn trwy wibgysylltiad go iawn.