Tan nawr, mae’r gwaith o wella seilwaith band eang Cymru wedi bod yn ara’ iawn. Felly, ryn ni’n trio newid hynny.
Yn 2020, cawson ni fuddsoddiad i gyflwyno band eang ffeibr llawn, a hynny ar raddfa fawr. Ryn ni wedi dwblu mewn maint, wedi sefydlu cadwyn gyflenwi, a nawr ryn ni’n creu llwybr i weddnewid y dirwedd ddigidol yn ne Cymru unwaith ac am byth.