
Dere i gwrdd â Louise, sy’n cynrychioli ni yn y Fro
Pan nad yw Louise yn gweithio, mae hi mas yn yr awyr agored. Ei diddordebau pennaf yw padlfyrddio a nofio gwyllt yn y môr neu mewn llyn lleol. Ar dir sych, mae Louise yn mwynhau dod o hyd i gorneli Cymru ar ddwy droed, a mynd i gerdded.

Dere i gwrdd â Martin, sy’n cynrychioli ni yn Sir Benfro
Ar ddyddiau braf (mae’r haul bob amser yn disgleirio yn Sir Benfro) mae Martin yn joio cerdded ar hyd Llwybr yr Arfordir gyda’i gi ffyddlon, Xander Jnr. Falle y gweli di e hefyd yn dyfarnu gêm bêl-droed yn ei dref enedigol. Mae e’n beio ei benliniau am y ffaith nad yw’n chware mwyach. Mae cyfrannu at y gymuned hefyd yn bwysig i Martin, yn bersonol ac yn broffesiynol. Dim syndod fod ganddo glust i wrando – mae’n hyfforddi i fod yn gwnselydd ac yn gwirfoddoli gyda’r Samariaid yn ei amser hamdden.

Dere i gwrdd â Ryan, sy’n cynrychioli ni yn Sir Fynwy
Mae gan Ryan bersonoliaeth – a gwên fawr – Gymreig. Os yw Ryan yn chwerthin, mae’n amhosibl peidio chwerthin hefyd. Mae e’n dwli ar fotobeics, ac yn hoffi gyrru o gwmpas de Cymru mor aml ag y gall. Teulu yw popeth i Ryan – yn cynnwys ei darwgi (bulldog), Thor.
*Ein tudalennau cymunedol ar Facebook. Mae’r tudalennau yma yn agor mewn tab newydd.