Shwmae, bobl Sir Fynwy!

Mae band eang ffeibr llawn Ogi ar y ffordd i’r Caerwnet, Cas-gwent, Cil-y-coed, Porthsgiwed, Rhosied, Trefynwy a’r Fenni.
Bounce Arrow

Mae’n bryd paratoi am fand eang ffeibr llawn

Ni yw Ogi – y cwmni band eang o Gymru – yma i bweru cymunedau fel y Caerwnet, Cas-gwent, Cil-y-coed, Magwyr, Porthsgiwed, Rhosied, Trefynwy a’r Fenni drwy wibgysylltiad band eang ffeibr llawn. Dyma fand eang i’r genhedlaeth nesa, gyda gwibgysylltiad sy’n barod i dy gysylltu, dy ddifyrru, a dy gadw’n gweithio yn dy gymuned di. Yn dechrau gyda chyflymder lawrlwytho o 150Mbps, mae gwasanaeth Ogi yn rhoi gwibgysylltiad hynod o ddibynadwy.

Mantais ffeibr llawn

Ryn ni’n dod â phŵer ffeibr at garreg y drws – gan anwybyddu’r hen gysylltiadau araf drwy osod rhwydwaith band eang newydd sbon sy’n barod am yr holl ffrydio yn y byd, heddiw ac ymhell i’r dyfodol. 

Mae creu rhwydwaith ffeibr llawn yn gofyn am lawer o waith cynllunio, rhywfaint o gloddio, ac o bryd i’w gilydd, ychydig o darfu ar bethau. Ond paid â phoeni. Os bydd angen i ni weithio yn dy stryd di, dim ond ychydig wythnosau ddylai hynny’i gymryd. Pan fydd y cyfan wedi’i osod, bydd dy rwydwaith ffeibr llawn yn gallu cael ei ddiweddaru o hyd, felly fydd dim golwg o’n cloddwyr am amser go hir eto (oni bai bod angen i ni atgyweirio rhywbeth ar frys, wrth gwrs). 

Map wedi darlunio yn dangos trefi a phentrefi yn Sir Fynwy

Ry'n ni'n caru ein cymunedau

Ryn ni’n dymuno wreiddio ein hunain ymhlith y bobl a’r cymunedau ryn ni’n eu gwasanaethu. Wrth cyflogi pobl leol a dod â thua £5 miliwn o fuddsoddiad i bob tre ryn ei gysylltu, gan helpu ein cymunedau i baratoi ar gyfer y dyfodol digidol. Ryn ni hefyd yn cefnogi sefydliadau llawr gwlad ein hardaloedd, trwy noddi a chyfrannu at waith grwpiau lleol o bob math a maint: elusennau mawr cenedlaethol; clybiau a sefydliadau rhanbarthol neu drefol; a grwpiau llai, cymunedol, sy’n gwneud gwir wahaniaeth.

Ryan, Ogi's Community Liaison Officer, smiling and looking away from the camera.

Dere i gwrdd â Ryan, dy Swyddog Cyswllt Cymunedol

Mae gan Ryan bersonoliaeth Gymreig gryf, a bydd pobl yn cynhesu ato’n rhwydd. Mae ganddo hefyd wên fel giât a chwarddiad heintus. Mae’n feiciwr modur brwd sy’n hoff o grwydro cymaint â phosib ar ddwy olwyn o amgylch ffyrdd y de. Mae’n ddyn teulu mawr, ac yn gawr calonfeddal, fel y byddai Thor, ei gi tarw Ffrengig, yn siŵr o ddweud.

Sir Fynwy a Harri VIII

Oeddet ti’n gwybod: Yn 1536 gosododd Harri VIII y sir ryn ni’n ei hadnabod heddiw fel Sir Fynwy o dan weinyddiaeth Lloegr, gan dynnu arglwyddiaethau’r lleol o’u grym. O hynny ymlaen mae’r ardal weithiau wedi cael ei hystyried yn weinyddol yn rhan o Loegr ac weithiau’n rhan o Gymru. Heddiw mae’n rhan o Gymru. 

Mae’n anhygoel beth allwch chi ei ddarganfod ar y we, on dyw hi? *Ffynhonnell: Britannica