Shwmae Rhondda, mae Ogi ar y ffordd!

Mae Ogi ar ein ffordd i Cymmer, Dinas, Llwyncelyn, Mount Pleasant, Porth, Tonypandy, Tonyrefail, Trebanog, Trehafod, ac Ynysir – ar ein taith dra-chyflym yn y Rhondda.

Shwmae Rhondda!

Ni yw Ogi – cwmni band eang gyda’i wreiddiau yng Nghymru – ac ryn ni yma i bweru cymunedau fel Cymmer, Dinas, Llwyncelyn, Mount Pleasant, Porth, Tonypandy, Tonyrefail, Trebanog, Trehafod, ac Ynysir gyda’n gwibgysylltiad band eang ffeibr llawn. Ryn ni’n perthyn i’r genhedlaeth nesa, ac yn barod i dy helpu di i weithio, i dy ddiddanu, ac i dy gysylltu â dy gymuned. Felly os wyt ti’n ‘Gyfaill Cymdeithasol’ neu ‘Finjwr y Bocs’  – ma pecyn Ogi ar gael sy’n gwbl addas i ti.

Pa mor gyflym te?

Mae pecynnau tra gyfylym a thra ddibynadwy Ogi’n dechrau ar gyflymder o 150Mbps… a byddwn ni’n barod i’w lansio yn Cymmer, Dinas, Llwyncelyn, Mount Pleasant, Porth, Tonypandy, Tonyrefail, Trebanog, Trehafod, ac Ynysir cyn bo hir.

Am fwy o wybodaeth, ac er mwyn i ni gadw mewn cysylltiad, cofrestra dy diddordeb gan ddefnyddio ein chwilotydd côd post defnyddiol.

Cymuned wrth wraidd popeth a wnawn

Ryn ni yma i bweru cartrefi a busnesau ar draws y Rhondda ac – yn union fel ti – ryn ni’n ishe cyfrannu at y gymuned, a chefnogi timau a grwpiau lleol mewn llefydd fel Cymmer, Dinas, Llwyncelyn, Mount Pleasant, Porth, Tonypandy, Tonyrefail, Trebanog, Trehafod, ac Ynysir. Felly os wyt ti’n gwybod am ddigwyddiad neu gymedithas sy’n dod â phobl ynghyd, ac sy’n gwneud gwahaniaeth yn y gymuned, yna rho wybod i ni. Dysga fwy am y cyfleoedd sydd ar gael trwy ein cronfa gymunedol ‘Cefnogi’.

Gwir ffeibr, gwir fantais

Ryn ni’n dod â phŵer ffeibr yn syth at dy ddrws – gan osgoi’r hen gysylltiadau hen-ffasiwn, a gosod rhwydwaith newydd sbon ar gyfer yr holl ffrydio y byddi di am ei wneud, heddiw ac yn bell i’r dyfodol.

Mae adeiladu rhwydwaith ffeibr llawn yn golygu bod angen cynllunio, cloddio a tharfu rhywfaint, o dro i dro. Ond, paid â phoeni, os bydd angen i ni gloddio ar dy hewl di, dim ond ychydig wythnosau y dylai hynny ei gymryd. Ar ôl ei osod, bydd modd diweddaru’r rhwydwaith yn barhaus, felly fyddi di ddim yn gweld ein cloddwyr eto am gryn amser (oni bai bod angen i ni atgyweirio rhywbeth yn gyflym, wrth gwrs).

Llaw lan os hoffet fynd yn gynt!

Byw yn Cymmer, Dinas, Llwyncelyn, Mount Pleasant, Porth, Tonypandy, Tonyrefail, Trebanog, Trehafod, neu Ynysir ac yn barod i fynd yn gynt? Defnyddia’r chwilydd isod i weld be sy at gael i ti, neu ffonia ni ar 029 2002 0520.
Eich cyfeiriad

Tylwyth teg a thrysor cudd

Mae’r Rhondda yn enwog am lot o bethau – rhai ddim bob amser yn wir – ond oeddet ti’n gwybod bod trysor cudd wedi’i gladdu yn ddwfn yng nghornel orllewinol y sir?* Mae’n debyg bod marchogion y Brenin Arthur yn eu gwarchod. Maen nhw wedi cysgu yn y siambr ers canrifoedd ac mi fyddan nhw’n dihuno os yw rhywun yn trio dod i mewn atyn nhw. Mae’n debyg bod y trysor wedi’i gladdu ymhell o dan Craig y Ddinas.

Mae chwedlau’n bod, hyd yn oed yn yr oes ddigidol. *Ffynhonnell: Croeso Rhondda Cynon Taf.