
Ar dy farciau Pen-y-bont ar Ogwr
Mae Ogi ar ein ffordd i wibgysylltu Maesteg, Pencoed a Porthcawl.
Llaw lan os hoffet fynd yn gynt!

Shwmae Pen-y-bont!
Ni yw Ogi – cwmni band eang gyda’i wreiddiau yng Nghymru – ac ryn ni yma i bweru cymunedau fel Maesteg, Pencoed a Porthcawl gyda’n gwibgysylltiad band eang ffeibr llawn. Ryn ni’n perthyn i’r genhedlaeth nesa, ac yn barod i dy helpu di i weithio, i dy ddiddanu, ac i dy gysylltu â dy gymuned. Felly os wyt ti’n ‘Gyfaill Cymdeithasol’ neu ‘Finjwr y Bocs’ – ma pecyn Ogi ar gael sy’n gwbl addas i ti.

Pa mor gyflym te?
Mae pecynnau tra gyfylym a thra ddibynadwy Ogi’n dechrau ar gyflymder o 150Mbps, a ryn ni’n dod a’n gwasanaethau i Faesteg, Pencoed a Porthcawl ar hyn o bryd.
Am fwy o wybodaeth, ac er mwyn i ni gadw mewn cysylltiad, cofrestra dy diddordeb gan ddefnyddio ein chwilotydd côd post defnyddiol.
Cymuned wrth wraidd popeth a wnawn
Ryn ni yma i bweru cartrefi a busnesau ar draws Sir Pen-y-bont ar Ogwr ac – yn union fel ti – ryn ni’n ishe cyfrannu at y gymuned, a chefnogi timau a grwpiau lleol mewn llefydd fel Maesteg, Pencoed a Porthcawl. Felly os wyt ti’n gwybod am ddigwyddiad neu gymedithas sy’n dod â phobl ynghyd, ac sy’n gwneud gwahaniaeth yn y gymuned, yna rho wybod i ni. Dysga fwy am y cyfleoedd sydd ar gael trwy ein cronfa gymunedol ‘Cefnogi’.

Gwir ffeibr, gwir fantais
Ryn ni’n dod â phŵer ffeibr yn syth at dy ddrws – gan osgoi’r hen gysylltiadau hen-ffasiwn, a gosod rhwydwaith newydd sbon ar gyfer yr holl ffrydio y byddi di am ei wneud, heddiw ac yn bell i’r dyfodol.
Mae adeiladu rhwydwaith ffeibr llawn yn golygu bod angen cynllunio, cloddio a tharfu rhywfaint, o dro i dro. Ond, paid â phoeni, os bydd angen i ni gloddio ar dy hewl di, dim ond ychydig wythnosau y dylai hynny ei gymryd. Ar ôl ei osod, bydd modd diweddaru’r rhwydwaith yn barhaus, felly fyddi di ddim yn gweld ein cloddwyr eto am gryn amser (oni bai bod angen i ni atgyweirio rhywbeth yn gyflym, wrth gwrs).
“Big things have small beginnings, sir.”
Oeddet ti’n gwybod: Ffilmiwyd rhannau o’r ffilm Lawrence of Arabia, ar dwyni tywod Merthyr Mawr y fwrdeistref nol ym 1962?
Wir yr. Mae’n anhygoel beth sy mas na ar y we, on dyw hi? *Ffynhonnell: Histroy Points