Yn gibgysylltu cymunedau ar draws Casnewydd

Mae Ogi ar ein ffordd i Gasnewydd. Ryn ni wedi gwibgysylltu Llanfaches – ar ddechrau ein taith dra-chyflym yn ardal Casnewydd.

Shwmae Casnewydd!

Ni yw Ogi – cwmni band eang gyda’i wreiddiau yng Nghymru – ac ryn ni yma i bweru cymunedau fel Llanfaches gyda’n gwibgysylltiad band eang ffeibr llawn. Ryn ni’n perthyn i’r genhedlaeth nesa, ac yn barod i dy helpu di i weithio, i dy ddiddanu, ac i dy gysylltu â dy gymuned. Felly os wyt ti’n ‘Gyfaill Cymdeithasol’ neu ‘Finjwr y Bocs’  – ma pecyn Ogi ar gael sy’n gwbl addas i ti.

Pa mor gyflym te?

Cyn i Ogi gyrraedd, roedd gwibgysylltiadau Llanfaches, wel yn ‘araf’ gysylltiadau’n anffodus.

Mae pecynnau tra gyfylym a thra ddibynadwy Ogi’n dechrau ar gyflymder o 150Mbps.

Os wyt ti’n byw’n lleol ac eisiau gwybod mwy am wasanaethau Ogi, ffonia ni ar 029 2002 0550.

Cymuned wrth wraidd popeth a wnawn

Ryn ni yma i bweru cartrefi a busnesau ardal Casnewydd ac – yn union fel ti – ryn ni’n ishe cyfrannu at y gymuned, a chefnogi timau a grwpiau lleol mewn llefydd fel Llanfaches. Felly os wyt ti’n gwybod am ddigwyddiad neu gymedithas sy’n dod â phobl ynghyd, ac sy’n gwneud gwahaniaeth yn y gymuned, yna rho wybod i ni. Dysga fwy am y cyfleoedd sydd ar gael trwy ein cronfa gymunedol ‘Cefnogi’.

Gwir ffeibr, gwir fantais

Ryn ni’n dod â phŵer ffeibr yn syth at dy ddrws – gan osgoi’r hen gysylltiadau bach hen-ffasiwn, a gosod rhwydwaith newydd sbon ar gyfer yr holl ffrydio y byddi di am ei wneud, heddiw ac yn bell i’r dyfodol.

Mae adeiladu rhwydwaith ffeibr llawn yn golygu bod angen cynllunio, cloddio a tharfu rhywfaint, o dro i dro. Ond, paid â phoeni, os bydd angen i ni gloddio ar dy hewl di, dim ond ychydig wythnosau y dylai hynny ei gymryd. Ar ôl ei osod, bydd modd diweddaru’r rhwydwaith yn barhaus, felly fyddi di ddim yn gweld ein cloddwyr eto am gryn amser (oni bai bod angen i ni atgyweirio rhywbeth yn gyflym, wrth gwrs).

Cyntaf Cymru

Oeddet ti’n gwybod i gyfarfod cyntaf yr Annibynwyr yng Nghymru gael ei gynnal yn Llanfaches (oedd yn rhan o Sir Fynwy ar y pryd) ym 1639 dan arweiniad rheithor Piwritanaidd y plwyf, William Wroth?

Ma’n anhygoel be ffeindi di arlein! 😊. *Fynhonnell: Welsh Buildings Trust.