
Ryn ni yma i wibgysylltu ardal Caerffili
Mae Ogi ar ein ffordd i’r Coed Duon, Cefn Hengoed, Hengoed, Ystrad Mynach a Maesycymmer – ac yn dechrau ar ein taith dra-chyflym yng Nghaerffili.
Shwmae Caerffili!
Ni yw Ogi – cwmni band eang gyda’i wreiddiau yng Nghymru – ac ryn ni yma i bweru cymunedau fel Y Coed Duon, Cefn Hengoed, Hengoed, Ystrad Mynach a Maesycymmer gyda’n gwibgysylltiad band eang ffeibr llawn. Ryn ni’n perthyn i’r genhedlaeth nesa, ac yn barod i dy helpu di i weithio, i dy ddiddanu, ac i dy gysylltu â dy gymuned. Felly os wyt ti’n ‘Gyfaill Cymdeithasol’ neu ‘Finjwr y Bocs’ – ma pecyn Ogi ar gael sy’n gwbl addas i ti.

Pa mor gyflym te?
Mae pecynnau tra gyfylym a thra ddibynadwy Ogi’n dechrau ar gyflymder o 150Mbps… a byddwn ni’n barod i’w lansio ym Cefn Hengoed, Hengoed, Ystrad Mynach a Maesycymmer cyn bo hir.
Am fwy o wybodaeth, ac er mwyn i ni gadw mewn cysylltiad, cofrestra dy diddordeb gan ddefnyddio ein chwilotydd côd post defnyddiol.
Cymuned wrth wraidd popeth a wnawn
Ryn ni yma i bweru cartrefi a busnesau ar draws ardal Caerffili ac – yn union fel ti – ryn ni’n ishe cyfrannu at y gymuned, a chefnogi timau a grwpiau lleol mewn llefydd fel Y Coed Duon, Cefn Hengoed, Hengoed, Ystrad Mynach a Maesycymmer. Felly os wyt ti’n gwybod am ddigwyddiad neu gymedithas sy’n dod â phobl ynghyd, ac sy’n gwneud gwahaniaeth yn y gymuned, yna rho wybod i ni. Dysga fwy am y cyfleoedd sydd ar gael trwy ein cronfa gymunedol ‘Cefnogi’.

Gwir ffeibr, gwir fantais
Ryn ni’n dod â phŵer ffeibr yn syth at dy ddrws – gan osgoi’r hen gysylltiadau bach hen-ffasiwn, a gosod rhwydwaith newydd sbon ar gyfer yr holl ffrydio y byddi di am ei wneud, heddiw ac yn bell i’r dyfodol.
Mae adeiladu rhwydwaith ffeibr llawn yn golygu bod angen cynllunio, cloddio a tharfu rhywfaint, o dro i dro. Ond, paid â phoeni, os bydd angen i ni gloddio ar dy hewl di, dim ond ychydig wythnosau y dylai hynny ei gymryd. Ar ôl ei osod, bydd modd diweddaru’r rhwydwaith yn barhaus, felly fyddi di ddim yn gweld ein cloddwyr eto am gryn amser (oni bai bod angen i ni atgyweirio rhywbeth yn gyflym, wrth gwrs).
Llaw lan os hoffet fynd yn gynt!

Ar ongl…
Castell Caerffili yw’r castell mwyaf yng Nghymru a’r ail fwyaf ym Mhrydain* – ychydig ar ôl Castell Windsor! Dechreuwyd ar y gwaith adeiladu yn 1268 a gwnaed y rhan fwyaf o’r gwaith erbyn 1271. Mae’r tŵr de-ddwyrain bellach yn gwyro ar ongl 10 gradd yn dilyn atodiad yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr (1642 – 1651).
Mae’n anhygoel beth sy mas na ar y we, on dyw hi? *Ffynhonnell: Pwyntiau Hanes