Ogi yn dy ardal di: beth i’w ddisgwyl

Bounce Arrow

Gweithio yn dy ardal

Pam eich bod yn fy ardal i?

Mae cael gwibgysylltiad band eang yn prysur ddod yn rhywbeth y mae ar bawb ohonon ni’i angen. Yn draddodiadol, ’dyw rhai rhannau o’r de ddim wedi ‘haeddu’ hyn, yn ôl y prif ddarparwyr band eang. Mae Ogi – sy’n ddarparwr amgen neu ‘altnet’ – ’ma i newid hynny. Ryn ni wedi canfod ardaloedd ar draws y de sy’n draddodiadol wedi’i chael hi’n fwy anodd cysylltu. Ein gwaith ni yw dod â thechnoleg gwibgysylltiad ffeibr llawn y genhedlaeth nesa’ i’r llefydd hyn – a hynny’n aml yn gynt o lawer na chynlluniau’r prif ddarparwyr.

Pryd fyddwch chi yn fy ardal i?

Ryn ni eisoes wedi cyhoeddi ein cynlluniau i ddod â gwibgysylltiad band eang ffeibr optig i rannau o Sir Fynwy, Sir Benfro a Bro Morgannwg, a bydd mwy a mwy o gymunedau’n cael eu hychwanegu at y rhestr rhwng nawr a 2025. Cer i’n tudalennau cymunedol i ganfod mwy am ein cynlluniau i bweru’r de.

Beth rych chi’n ei olygu wrth sôn am ‘adeiladu’?

Nid yw adeiladu wastad yn golygu tyllu ffyrdd neu balmentydd. Pryd bynnag y bydd hynny’n bosib, ryn ni’n defnyddio sianeli o dan ddaear neu bolion telegraff dros y tir sy’n bodoli’n barod i osod ein rhwydwaith gwibgysylltiad ffeibr optig. Mae’n golygu dewis yr opsiwn ‘adeiladu’ mwyaf dibynadwy a’r un sy’n tarfu leia’ ar bobl, a hynny o hewl i hewl.

Pan na fydd modd inni ddefnyddio’r seilwaith sy’n bodoli’n barod, byddwn ni’n mynd ati i greu ein seilwaith ein hunain. Mae hyn yn golygu weithiau y bydd angen inni dyllu ffyrdd a phalmentydd a tharfu ar bethau am gyfnod byr.

Am ba mor hir fyddwch chi yn fy ardal i?

Mae’r amser y bydd ein gwaith yn ei gymryd yn dibynnu ar faint yr ardal, ac mae’n dibynnu a ydyn ni’n defnyddio’r seilwaith sydd yno’n barod ynteu’n dechrau o’r dechrau’n deg. Byddwn ni wastad yn gweithio mor glou ag y gallwn ni, ac yn tarfu cyn lleied â phosib ar bethau. Os bydd gennyt ti unrhyw bryderon, neu i gael clonc â ni, mae ein tîm Gofal Cwsmeriaid ’ma i helpu. Fe elli di gysylltu ’da’r tîm drwy ffonio 029 2002 3200 neu drwy anfon e-bost i cymraeg@ogi.cymru.

Bydd y gwaith yn aml yn cymryd deuddydd neu dri i’n contractwyr y tu fas i bob cartre neu fusnes – yn dibynnu a oes angen inni dyllu neu weithio uwchben. Byddi di wastad yn gallu cyrraedd dy eiddo, gan gynnwys dy ddreif. Mae hyn yn cynnwys mynediad i ofalwyr a’r gwasanaethau brys.

O dro i dro, fydd pethau ddim yn mynd yn union fel y bwriadwyd. Pan fydd hyn yn digwydd, efallai y bydd angen inni ddychwelyd maes o law i gwpla’r gwaith neu i roi trefn ar bethau – fel rhoi slabiau palmant newydd yn lle tarmac, ac ailosod glaswellt a phridd. Byddwn ni wastad yn gwneud hyn cyn gynted ag y gallwn ni, gan amla’ o fewn pythefnos i gwpla’r gwaith.

Pa oriau fyddwch chi a’ch contractwyr yn eu gweithio?

Bydd ein contractwyr a’n his-gontractwyr gan amla’n gweithio 8.00am – 5.00pm, ac weithiau bydd angen gwneud rhywfaint o waith y tu fas i’r oriau hyn mewn argyfwng neu i darfu cyn lleied â phosib ar bethau. Byddwn ni wastad yn ceisio rhoi gwybod i ti os bydd angen gweithio y tu fas i’r oriau arferol (gyda’r nos neu ar benwythnosau, er enghraifft), oni bai fod argyfwng.

Fydd angen ichi dyllu fy hewl i?

O bryd i’w gilydd, bydd angen inni dyllu ffosydd yn yr hewl neu’r palmentydd y tu fas i dy gartre neu dy le gwaith. Pan fyddwn ni’n gwneud hyn, byddwn ni’n cymryd lluniau cyn gwneud y gwaith, yn ystod y gwaith, ac ar ôl cwpla’r gwaith, er mwyn gofalu bod ein contractwyr yn ailosod popeth yn gywir.

Mae hyn yn cynnwys ailosod slabiau palmant, ailorchuddio wynebau â tharmac, a rhoi pridd a hadau ar fannau gwyrdd er mwyn i bopeth fod yn union fel yr oedd cyn inni gyrraedd. Weithiau, bydd y tywydd yn golygu na allwn ni dacluso pethau’n syth bin. Os bydd hyn yn digwydd, byddwn ni wastad yn dychwelyd cyn gynted ag y gallwn ni, gan amla’ o fewn saith niwrnod, er mwyn ailosod popeth fel yr oedd.

A fydda’ i’n gallu mynd i mewn a mas o fy eiddo wrth ichi wneud y gwaith?

Bydd y gwaith yn aml yn cymryd deuddydd neu dri i’n contractwyr y tu fas i bob cartre neu fusnes – yn dibynnu a oes angen inni dyllu neu weithio uwchben. Byddi di wastad yn gallu cyrraedd dy eiddo, gan gynnwys dy ddreif. Mae hyn yn cynnwys mynediad i ofalwyr a’r gwasanaethau brys.

Efallai y bydd llwybrau dros dro a hewlydd wedi’u cau am sbel, ond bydd ein contractwyr wastad yn gofalu bod arwyddion clir wedi’u gosod a bod popeth yn ddiogel. A byddwn ni wastad yn rhoi gwybod iti cyn inni ddechrau tarfu ar bethau. Mae’r timau ar lawr gwlad yn barod iawn i helpu, felly os byddi di’n canfod unrhyw beth o’i le, beth am gael clonc ’da’n contractwyr, neu rho wybod inni drwy gysylltu dros y ffôn 029 2002 3200 neu dros e-bost cymraeg@ogi.cymru.

Fyddwch chi’n rhoi gwybod imi pan fyddwch chi’n dod i weithio ar fy hewl i?

Byddwn. Bydd pawb y mae ein gwaith yn effeithio’n uniongyrchol arnyn nhw’n cael llythyr gennyn ni a’n contractwyr yn esbonio beth sy’n digwydd a pha mor hir mae’r gwaith yn debygol o’i gymryd i’w gwpla. Ryn ni’n gweithio’n agos ’da’r awdurdod lleol i sicrhau bod ein gwaith yn tarfu cyn lleied ag y bo modd ar bethau.

Sut fyddwch chi’n penderfynu ble i osod eich blychau ar yr hewlydd?

Ryn ni’n gweithio ’da’r awdurdod lleol i gytuno ar y llefydd gorau i’n blychau. Mae ’da ni wahanol fathau o flychau at ddibenion gwahanol. Mae ein blychau gwyrdd mawr gan amla’n cael eu gosod mewn llefydd canolog, yn ddigon pell o dai. Ein cyfnewidfeydd yw’r rhain, sef canolbwynt ein rhwydwaith band eang ffeibr optig yn dy dre neu dy bentre di.

Mae ein bylchau llwyd llai o faint gan amla i’w gweld ar dy hewl neu’n agos at dy hewl. Y blychau hyn yw’r cyffyrdd i gartrefi a busnesau o’u hamgylch sy’n defnyddio ein gwasanaethau.

Paneli duon yw ein blychau ‘toby’ a weli di ar y palmant, a’r rheini gan amla’n ‘diflannu’ i’r cefndir. Blychau storio dan y ddaear yw’r rhain, sy’n cysylltu dy gartre’n uniongyrchol â’n rhwydwaith. Mae modd meddwl amdanyn nhw fel darn ola’r jig-so cyn i’n gwibgysylltiad band eang gyrraedd dy gartre neu dy fusnes.

Cysyllta ‘da ni

Fe hoffwn i ganmol eich tîm neu’ch contractwyr

Diolch. Ryn ni’n falch bod ein timau wedi creu argraff dda. Cysyllta ’da’n tîm Gofal Cwsmeriaid drwy ffonio 029 2002 3200 neu drwy ein ffurflen gyswllt gan roi cymaint o wybodaeth â phosib, a byddwn ni’n rhoi gwybod i’r tîm perthnasol.

Fe hoffwn i gwyno am eich tîm neu’ch contractwyr

Mae’n flin ’da ni nad yw pethau wedi mynd yn iawn. Cysyllta ’da’n tîm Gofal Cwsmeriaid drwy ffonio029 2002 3200 yn ystod oriau gwaith neu anfona e-bost i cymraeg@ogi.cymru ac fe wnawn ni bopeth o fewn ein gallu i ddatrys y sefyllfa.

Fforddfraint

Beth yw’r broses fforddfraint?

Contract yw fforddfraint rhwng tirfeddiannwr (neu landlord) a darparwr (Ogi neu un o’n contractwyr yn yr achos hwn). Mae’r fforddfraint yn rhoi caniatâd i rywun gael mynediad i dir neu eiddo, er mwyn gosod a/neu gynnal seilwaith rhwydwaith.

Byddwn ni’n cysylltu ’da ti, drwy gwmni o’r enw Trenches Law, os bydd angen mynediad arnon ni i dir rwyt ti’n berchen arno neu â hawl iddo, gan esbonio mwy am y broses ac am sut y gallai effeithio arnat ti.

Pam mae angen fforddfreintiau?

Mae angen cytundebau fforddfraint arnon ni i osod neu atgyweirio rhannau o rwydwaith Ogi ar dir preifat, neu y tu fewn i eiddo.

Pa mor glou y mae angen imi lofnodi a dychwelyd cytundeb fforddfraint?

Bydd llofnodi’r fforddfraint cyn gynted ag y byddi’n di’n fodlon â’r wybodaeth yn ein helpu ni i gynllunio ein gwaith adeiladu, felly gorau po gynta’. Serch hynny, ryn ni am i ti fod yn fodlon â’r sefyllfa, felly cymera dy amser a chroeso mawr iti ofyn cynifer o gwestiynau ag yr hoffet ti. Ryn ni ’ma i helpu.

Am ba mor hir y bydd fforddfraint yn para?

Gan mai math o gontract yw fforddfreintiau, fe allan nhw bara unrhyw beth rhwng mis neu ddau i ychydig flynyddoedd a rhagor. Os byddi di wedi cael pecyn fforddfraint, yna bydd y dogfennau’n dangos hyd y cytundeb.

 phwy alla’ i gysylltu i drafod cytundeb fforddfraint rwy’ wedi’i gael?

Os bydd gennyt ti gwestiwn am gytundeb fforddfraint rwyt ti wedi’i gael, cysyllta ’da’r sawl sy’n delio â’r mater yn Tenches Law. Bydd y manylion hyn i’w gweld mewn unrhyw ohebiaeth y byddi di wedi’i chael am y fforddfraint. Dylet ti gynnwys y cyfeirnod, os oes gennyt ti un, wrth anfon unrhyw ohebiaeth.

Angen help?

Ffili dod o hyd i dy gwestiwn di fan hyn? Cysyllta ’da’n tîm Gofal Cwsmeriaid drwy ffonio 029 2002 3200 neu drwy anfon e-bost i cymraeg@ogi.cymru – ryn ni ’ma i helpu.

Byddwn ni’n diweddaru’r adran hon ’da’r cwestiynau mwya’ cyffredin yn rheolaidd. Diweddarwyd ddiwetha’ ar 30 Hydref 2023