Dyma ein pecynnau ffeibr llawn a llais Ogi. Mae’r rhain ar gael yng nghymunedau ffeibr Ogi. Ryn ni hefyd yn cynnig ystod o becynnau amgen dros rwydweithiau partneriaid mewn ardaloedd eraill. Galwa ein tîm nawr i ddysgu mwy!
Yn dibynnu ar yr hyn sydd ar gael yn dy ardal di. Mae Cynnig ‘Ogi Max’ yn cynnwys band eang am ddim a gwasanaeth llais am ddim gyda’r nos ac ar benwythnosau am chwe mis. Nid yw galwadau y tu fas i’r tariff hwn wedi’u cynnwys. Mae’r contract yn un 24 mis. Fe alli di ganslo dy wasanaeth band eang Ogi Max o fewn tri mis heb unrhyw ymrwymiad pellach, ond bydd yn rhaid dychwelyd yr offer wifi at Ogi. Fe alli di ganslo gwasanaeth llais Ogi unrhyw bryd gyda 30 diwrnod o rybudd. Prisiau band eang misol o £30 ac o £5 ar gyfer gwasanaeth llais gyda’r nos ac ar benwythnosau ar ôl chwe mis. Mae’r prisiau’n amrywio yn dibynnu ar y pecyn.