Telerau ac Amodau Cynnig Cyflwyno Ffrind

Dylid darllen y telerau ac amodau hyn gyda Thelerau ac Amodau Cyffredinol Ogi.

Rheolir dy ddefnydd o’r Gwasanaeth gan y Telerau ac Amodau hyn yn ogystal â’n Telerau ac Amodau Cyffredinol: Gwasanaethau Ogi i’r Cartref a’n Polisi Defnydd Derbyniol. Dylid darllen y telerau ac amodau hyn yn ofalus gan eu bod yn cynnwys gwybodaeth bwysig

1. Diffiniadau

Mae “Polisi Defnydd Derbyniol” neu “AUP” yn golygu polisi defnydd derbyniol Ogi sy’n ymwneud â defnyddio Gwasanaethau fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.

Mae “Cytundeb” yn golygu’r telerau ac amodau hyn, ein Telerau ac Amodau Cyffredinol, y Polisi Defnydd Derbyniol, a Pholisi Preifatrwydd Ogi adeg y’u cymerir gyda’i gilydd, sydd, yn achos gwrthdaro, yn nhrefn y flaenoriaeth a restrir uchod.

Ystyr “Tymor y Contract” yw’r cyfnod gwasanaeth sylfaenol a nodir yn y Ffurflen Archebu ac sy’n dechrau ar y Dyddiad Gwasanaeth Gweithredol.

Ystyr “Offer” yw cyfarpar ar y Ffurflen Archebu neu a roddir ar safle Cwsmeriaid gan Ogi ar gyfer darparu’r Gwasanaethau.

Mae “Ogi” yn golygu unrhyw un neu bob un o’r endidau canlynol:

  • Spectrum Fibre Limited T/A Ogi, wedi’i gorffori a’i gofrestru yng Nghymru a Lloegr gyda’r rhif cwmni 12883320, a’i swyddfa gofrestredig yw Hodge House, 114-116, Heol Eglwys Fair, Caerdydd, CF10 1DY. Rhif TAW 377 9433 45.
  • Spectrum Internet Limited T/A Ogi, wedi’i gorffori a’i gofrestru yng Nghymru a Lloegr gyda’r rhif cwmni 07849485, a’i swyddfa gofrestredig yw Hodge House, 114-116 Heol Eglwys Fair, Caerdydd, CF10 1DY. Rhif TAW 126873689.
  • Ogi Networks Limited T/A Ogi, wedi’i gorffori a’i gofrestru yng Nghymru a Lloegr gyda’r rhif cwmni 03625793, a’i swyddfa gofrestredig yw Hodge House, 114-116, Heol Eglwys Fair, Caerdydd, CF10 1DY. Rhif TAW 713629048.

Ystyr “Gwasanaeth” yw’r Gwasanaethau neu’r Gwasanaeth fel y’u diffinnir yn y Ffurflen Archebu.

Ystyr “Cyfnod Treial Tri Mis” yw’r tri mis cyntaf ar ôl i’th wasanaeth fynd yn weithredol pryd y byddi yn gallu canslo’r gwasanaeth heb gael dy ddal at weddill cyfnod y Contract.

Ystyr “Ni” yw Ogi a dylid dehongli cyfeiriadau at “ein” yn unol â hynny.

Ystyr “Ti” yw’r Darpar Gwsmer / Treialwr a dylid dehongli cyfeiriadau at ‘dy’ yn unol â hynny.

2. Manylion

2.1 Mae’r Cynnig Cyflwyno Ffrind (y cyfeirir ato fel y Cynnig o hyn allan) ar gael drwy wahoddiad yn unig ar hyn o bryd.

2.2 I fod yn gymwys i fanteisio ar y Cynnig rhaid i ti fod yn gwsmer sy’n talu Ogi ar yr adeg pan fydd yr archeb yn cael ei gwneud a phan fydd y wobr yn gymwys i gael ei rhoi. Rhaid i ti hefyd fod wedi cael gwahoddiad yn uniongyrchol gan Ogi drwy e-bost.

2.3 Bydd y Cynnig yn wreiddiol yn para rhwng 15/05/2023 a 30/06/2023, ond mae gennyn ni’r hawl i ddisodli, gohirio neu ganslo’r Cynnig ar unrhyw adeg.

2.4 Rhaid gwneud archebion drwy’r tîm telewerthu drwy ffonio 029 2002 2502. Dy gyfrifoldeb di yw sicrhau bod unrhyw un sydd wedi’i gyfeirio gennyt ti yn rhoi gwybod i’r asiant wrth roi ei archeb ac yn sicrhau dy fod wedi dy enwi’n glir fel y sawl a wnaeth ei gyfeirio.

2.5 Does dim modd i ni roi’r Cynnig i rywun ar ôl i archeb eisoes gael ei gwneud.

2.6 Dim ond i gwsmeriaid cartref newydd yn ein Hardal Adeiladu Ar-y-Rhwydwaith yn y Fenni y mae’r Cynnig yn berthnasol.

2.7 Am bob ffrind a fydd yn cael ei gyfeirio’n llwyddiannus, byddi di’n cael gwerth £50 o Dalebau Amazon ar ôl i’r gwasanaeth gael ei osod ac ar ôl iddo fod yn cael ei ddefnyddio am dros 3 mis.

2.8 Ni fydd arian cyfatebol yn cael ei gynnig.