Ryn ni’n cysylltu cartrefi a busnesau mewn cymunedau ar draws y de gyda’n rhwydwaith band eang gwibgyswllt Gigabit-bosibl.
Mae hynny’n golygu cyflymder epig sydd hyd at ugain gwaith yn gyflymach na’r cyfartaledd lleol – gwasanaeth sydd ar gael gan Ogi yn unig mewn sawl ardal. Yn wir, ryn ni’n gwybod y byddi di’n ei hoffi gymaint, ryn ni’n cynnig chwe mis o fand eang a galwadau llais gyda’r nos ac ar benwythnosau AM DDIM*.
Ac os nad wyt ti’n byw ar rwydwaith ffeibr Ogi, ryn ni’n cynnig bargeinion gwych mewn ardaloedd ffeibr llawn eraill hefyd.
Mae criw gwerthu Ogi yma i ddod o hyd i’r fargen orau bosib i ti. Ffonia ni nawr ar 029 2002 0520 i gael gwybod os fedri di gael band eang AM DDIM* am chwe mis – a llawer mwy.
Barod i fynd yn gynt?
Defnyddia’r chwilotydd isod i weld be fedrwn ni ei gynnig i ti neu galwa ni ar 029 2002 0520.
Cloncian fel byth o’r blaen
Cofio’r ffonau hen-ffasiwn yna gyda chebl, hir, gyrliog? Er bod y dyddie hynny wedi heb basio, mae’n bodibl dy fod ti dal yn dibynnu ar linell ffôn gopor i dy gartref.
Os felly, be am ychwanegu gwasanaeth Llais Ogi at dy becyn: mae’n wasanaeth ffôn, ond dros y we.
Dewisa wasanaeth llais Gyda’r Nos a Phenwythnos AM DDIM am chwe mis (o £5 y mis fel arall).
*Yn dibynnu ar yr hyn sydd ar gael yn dy ardal di. Mae Cynnig ‘Ogi Max’ yn cynnwys band eang am ddim a gwasanaeth llais am ddim gyda’r nos ac ar benwythnosau am chwe mis. Nid yw galwadau y tu fas i’r tariff hwn wedi’u cynnwys. Mae’r contract yn un 24 mis. Fe alli di ganslo dy wasanaeth band eang Ogi Max o fewn tri mis heb unrhyw ymrwymiad pellach, ond bydd yn rhaid dychwelyd yr offer wifi at Ogi. Fe alli di ganslo gwasanaeth llais Ogi unrhyw bryd gyda 30 diwrnod o rybudd.