Shwmae. Oi. Helo.

Ryn ni’n rhoi sylfaen i bopeth rwyt ti’n ei wneud. Beth bynnag fydd ei angen arnat ti, ryn ni ’ma i sicrhau bod dy fusnes yn rhedeg yn iawn, a hynny bob munud o bob dydd.

I fusnesau sy’n anorchfygol

Ers degawdau, mae cwmnïau yng Nghymru wedi gorfod dibynnu ar linellau penodol ar brydles, a’r rheini’n aml yn costio miloedd o bunnoedd y flwyddyn i’w cynnal.

Mae Ogi’n gweddnewid y farchnad drwy gynnig opsiynau mwy fforddiadwy o lawer i fusnesau, gan ddefnyddio’r dechnoleg ffeibr llawn fwya’ datblygedig sydd ar gael i roi gwasanaeth sydd dros ddeg gwaith yn gyflymach na’r cyfartaledd.  Cyflymderau cymesur. O 300 Mbps i 10Gbps.

Gyda gwasanaethau rheoli TG Ogi – gwasanaethau sydd ar flaen y gad yn y farchnad – yn ogystal â chymorth lleol yn y de, ryn ni’n dod â holl anghenion busnesau ynghyd am y tro cynta’ erioed.

Dere i ni gysylltu…

rho dy fanylion isod a byddwn yn gwneud y gweddill.
  • Dy cyfeiriad ebost
  • This field is for validation purposes and should be left unchanged.

Cysylltiad gwell o lawer i fusnesau

“Ryn ni’n defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf ar draws ein hamgylchedd cyfan i fonitro rhwydweithiau 24/7, felly mae cysylltiad rhyngrwyd gwych yn hanfodol i ni. Cyn gynted ag y byddwn yn colli’r cysylltiad hwnnw, ryn ni’n colli cysylltedd â’n cleientiaid hefyd. Ogi yw ein darparwyr am y cysylltiad sydd gennym i’r rhyngrwyd a’r gwytnwch o amgylch hynny ac ryn ni wedi bod wrth ein bodd gyda’r gwasanaeth.”

~ Damon Rands, Prif Swyddog Gweithredol, PureCyber

Gwell cysylltiad i fusnes

Gwell i Gymru: Mae Ogi yn dod â ffeibr llawn i ardaloedd nad ydyn nhw ar frig rhestr neb arall. Yn helpu busnesau i gystadlu a chydweithio, yn ogystal â rhoi hwb i gaffael a ffyniant yn y de.

Cyflymder

Ryn ni’n dod â chyflymder cymesur o 10Gbps i wefru perfformiad dy fusnes di. Ffeibr llawn neu lwybr penodol i’r rhyngrwyd. Pa mor gyflym hoffet ti fynd?

Diogelwch wal dân

Mae bygythiadau seiber o’n cwmpas ni ym mhobman, felly defnyddia’r cynnyrch gorau a diogela dy fusnes – cyn cysgu’n esmwythach gyda’r nos diolch i ddiogelwch ein Wal Dân. Mae cymorth gan ein tîm lleol ar gael i gyd-fynd â hwnnw.

Gwasanaethau Cwmwl

Sgwrsia â ni am ffyrdd effeithlon, gwyrdd a syml o ddiogelu a storio dy wybodaeth a dy ddata yn y cwmwl – gan roi pŵer go iawn i dy bobol, ble bynnag maen nhw.

Wifi i Bawb

Rhanna’r cyflymder. Gad i ni drefnu’r pwyntiau mynediad, y gwasanaeth tu fewn a thu fas, mynediad i’r cyhoedd, monitro o bell, diogelwch a rheoli patshys.

Pam Ogi Pro?

Fe ddechreuon ni ’da seilwaith ffeibr llawn fel bod Cymru gam ar y blaen yn ddigidol. Nawr bod hynny ar y gweill, busnesau sydd nesaf: yn benodol, sefydliadau sydd eisiau bod yn anorchfygol.

Mae’n rhaid i sefydliadau uchelgeisiol gael TG sy’n gweithio’n galed drostyn nhw, er mwyn iddyn nhw allu bwrw ati ’da’u gwaith.

Dyna sut mae Ogi Pro yn helpu.  

Ryn ni’n gallu helpu ym mhob ffordd dan haul: o gynhyrchion i dy gadw’n ddiogel ac yn barod at y dyfodol, i’r holl wasanaethau a’r cymorth TG y bydd eu hangen arnat ti. A’r cyfan yn dod gennyn ni fan hyn yng Nghymru.

Beth bynnag rwyt ti’n chwilio amdano, ryn ni ’ma i wneud dy fusnes di’n anorchfygol.

Wyt ti’n barod i roi tro ar Pro?

Dere i gael sgwrs i glywed sut all dy fusnes di elwa, nid yn unig o wibgysylltiad, ond hefyd o opsiynau diogelwch hynod gadarn, gwell gwasanaeth Wifi, gwasanaethau cwmwl, a chymorth lleol.