Diolch am dy ddiddordeb yn Ogi

Der o hyd i’r pecyn Ogi Pro di-ben-draw perffaith i ti a dy fusnes. Y cyfan sydd ei angen arnom yw bach o wybodaeth…
Eich cyfeiriad

Pam roi tro ar Pro?

Yn gynta’ oll, ryn ni wrthi’n dod â thechnoleg ddigidol ffeibr llawn i drefi a phentrefi Cymru. Ac mae’n ymddangos bod pobl yn hoffi hyn – mas draw. Ryn ni nawr yn gwneud rhwydweithiau’n gyflymach ac yn fwy fforddiadwy i fusnesau ledled Cymru.

Ar ben hynny, ryn ni wedi hogi ein sgiliau fel mai nad band eang yn unig y byddwn ni’n ei roi i fusnesau o bob lliw a llun, ond hefyd yr holl adnoddau eraill y mae eu hangen arnyn nhw i gystadlu a thyfu mewn byd digidol. A hyn i gyd o’n Desg Wasanaeth i Fusnesau yng Nghaerdydd, sydd wedi’i staffio gan griw o arbenigwyr cyfeillgar, penigamp.

“Mae gwasanaeth Ogi yn hynod o gyflym, yn ddibynadwy, ac yn gost-effeithiol. Mae eu band eang wedi bod yn hollbwysig wrth ein galluogi i redeg ein busnes yn effeithlon ac yn ddirwystr. Yr hyn sy’n rhoi Ogi gam ar y blaen yw eu gwasanaeth i gwsmeriaid, eu cymorth technegol a’u gwasanaeth gosod, sydd i gyd yn eithriadol o dda”

~ Chris Lodge, Y Fenni, Cwsmer Busnes Ogi

Barod i ymuno â’r criw?

P’un wyt ti’n rhugl neu beidio, ryn ni’n siarad dy iaith. Mae Ogi yn cysylltu busnesau mwyaf uchelgeisiol Cymru gyda’r dechnoleg sydd ei angen i lwyddo. O becynnau band eang i linellau pwrpasol a chymorth rheoli TG, ryn ni’n barod i ddod yn bartner digidol dibynadwy i ti.

Barod?

Dere i gael sgwrs i glywed sut all dy fusnes di elwa, nid yn unig o wibgysylltiad, ond hefyd o opsiynau diogelwch hynod gadarn, gwell gwasanaeth Wifi, gwasanaethau cwmwl, a chymorth lleol.