Gwasanaethau
Rheoli

Ryn ni’n rhoi sylfaen i bopeth rwyt ti’n ei wneud. Beth bynnag fydd ei angen arnat ti, ryn ni ’ma i sicrhau bod dy fusnes yn rhedeg yn iawn, a hynny bob munud o bob dydd.

Mae’r cyfan yn dechrau ’da Ogi Pro…

Ryn ni ’ma i dy helpu i gael trefn ar dy ddesg TG. Ac nid rhyngrwyd rhyfeddol o gyflym yn unig gei di, ond popeth mae ei angen arnat ti i wneud dy waith o ddydd i ddydd gyda hyder llwyr. Mae hynny’n golygu cysylltiad, diogelwch, wifi, ffonau, gofod storio yn y cwmwl, a chymorth TG llawn.

Cysylltiad

Popeth sydd ei angen arnat ti, wedi’i osod ac yn barod i fynd. Ffeibr i’r lleoliad nid i’r cabinet, sy’n gyflymach, yn barod at y dyfodol, ac yn hynod o ddibynadwy gyda chyflymderau cymesur o 10Gb.

Diogelwch wal dân

Amddiffynfeydd wedi’u rheoli i ddiogelu dy ddata a dy draffig, ac i sicrhau’r gorau o dy rwydwaith ym mhob ffordd, fel nad oes dim byd yn dy rwystro.

Wifi wedi’i reoli

Bydd wifi ym mhob twll a chornel, heb unrhyw fannau gwag na byffro.

Teleffoni

O un llinell i ganolfan gyswllt gyfan, fe allwn ni dy gysylltu gan ddefnyddio technoleg VoIP (llinellau ffôn dros y rhyngrwyd) sy’n addas i’r genhedlaeth nesa’. Mae hyn yn cynnwys galwadau fideo hefyd!

Gwasanaethau Cwmwl

Byddwn ni’n gyfrifol am dy gwmwl diogel, gan dy helpu i symud pethau pwysig. Byddwn ni hefyd yn gofalu am storio pethau wrth gefn ac am gymryd camau adfer os bydd galw.

Gwasanaethau Microsoft

Mae’n swyddogol. Fel un o bartneriaid Microsoft Solutions, byddwn ni’n rheoli, yn caboli ac yn trwyddedu’r gyfres o adnoddau y mae eu hangen arnat ti i gydweithio – o SharePoint i Teams, o Power BI i feddalwedd Office.

Ogi! Ogi! Ogi!
Pro! Pro! Pro!

Dim adran TG? Dim problem. Ryn ni ’ma o fewn tafliad carreg pan fyddi di ein hangen ni. Bydd ein desg gymorth yng Nghymru ar gael mewn chwinciad chwannen.

Yma i fusnesau

Yng Nghaerdydd y mae ein tîm atebion busnes wedi’i leoli. Maen nhw’n arbenigwyr ardystiedig mewn trwyddedu a thechnoleg, ac wrth law i dy helpu i fanteisio i’r eitha’ ar dy adnoddau digidol. Mae ein gwasanaethau rheoli yn helpu busnesau i fod yn fwy effeithlon ym mhob cam ar eu siwrneiau, gan agor drysau i gyfleoedd iddyn nhw a’u cwsmeriaid ar yr un pryd.