Band eang a gwasanaeth llais i fusnesau o £37.50 y mis
Mae Ogi ’ma i bweru busnesau ledled y de, gan greu rhwydwaith newydd yn barod at yr hyn a ddaw nesa’.
Bwndeli cysylltu a llais…
Ryn ni’n cynnig band eang Ogi Pro pwrpasol i fusnesau yn holl ardaloedd ein rhwydwaith. Mewn busnes wrth dy hunan? Neu’n ficrofusnes? Mae modd ychwanegu gwasanaethau VoIP gyda galwadau rhad ac am ddim yn elfen safonol o’r pecyn. Cofrestra heddiw – mae’r prisiau’n dechrau ar £37.50 y mis*
*Y pris ar gael ar gontract 36 mis neu gontract 24 mis heb wasanaethau galwadau llais
Wyt ti’n barod i roi tro ar Pro?
Rho dy god post i mewn i weld a allwn ni ddod â gwibgysylltiad band eang y genhedlaeth nesa’ at stepen dy ddrws.
Atebion cysylltu ledled y de
Os nad wyt ti mewn ardal sydd â rhwydwaith Ogi, fe allwn ni gynnig pob math o atebion cysylltu i dy fusnes o hyd, ble bynnag wyt ti yn y de, a hynny drwy’r rhwydweithiau sy’n bartneriaid inni.
O becynnau band eang i linellau pwrpasol a chymorth rheoli TG, ryn ni’n barod ac yn aros i ddod yn bartner digidol dibynadwy iti.