
Mwy na band eang
Bydd Tîm Busnes Ogi yn dy helpu i gymryd y cam digidol nesa.
Dyheu am dwf
Bydd yn hyblyg. Bydd yn gynhyrchiol. Bydd yn gynhwysol.
Mae ein gwasanaethau rheoli ni yn ychwanegiad gwych at gynlluniau cysylltu Ogi Pro.
Dere i gael sgwrs ‘da’n tîm cymorth arbenigol heddiw i glywed sut gall dy fusnes di elwa, nid yn unig o wibgysylltiad ffeibr, ond hefyd o opsiynau diogelwch hynod gadarn, gwell gwasanaeth wifi, gwasanaethau llais, cefnogaeth i fynd ar y cwmwl, a mwy.

Gwell diogelwch
Gyda mwy a mwy o fusnesau’n wynebu ymosodiadau gan fygythiadau seiber, gall waliau tân grymus Ogi Pro Firewall ddiogelu dy gwsmeriaid a dy fusnes – a rhoi cwsg esmwythach iti gyda’r nos.

Wifi i bawb
Dyw’r gwibgysylltiad gorau’n dda i ddim heb ei rannu rhwng pawb yn y busnes.
Felly gad i ni drefnu’r pwyntiau mynediad, y gwasanaeth y tu mewn a’r tu fas, mynediad i’r cyhoedd, monitro o bell, systemau diogelwch a rheoli patshys gyda’n gwasanaeth Ogi Pro Wifi.

Gwasanaethau llais
Mae gwasanaeth Llais Ogi Pro yn ddewis hwylus, hygyrch a hyblyg yn lle’r llinell ffôn draddodiadol.
Mae Protocol Llais Dros y Rhyngrwyd – neu VoIP – yn ychwanegiad gwych ar gyfer staff sy’n gweithio gartre.

Pen yn y cymylau
Mae’n amser cael gwared ar yr hen gypyrddau ffeilio ‘na sy’n hel dwst!
Dere i gael sgwrs ’da ni am ffyrdd effeithlon, gwyrdd a syml o ddiogelu a storio dy wybodaeth a dy ddata – gan roi pŵer go iawn i dy bobol.

Partner Microsoft
Helpa dy dimau i gysylltu o unrhyw le dan haul gyda chynlluniau Microsoft Office 365 Business ac Enterprise, Microsoft Exchange Online, Microsoft SharePoint Online, Office for the Web, a Microsoft Teams. Ryn ni’n Bartner Aur i Microsoft ac yn gallu rhoi cymorth gyda pob math o wasanaethau.
Dy lwybr unigryw di i lwyddiant
Rwyt ti’n gwybod be sy’i angen arnat ti, ond yn ansicr sut i gyrraedd y nod? Bydd ein tîm yn gweithio ’da ti i ddatblygu dy lwybr digidol dy hun, ar gyfer nawr a’r dyfodol.