Cystadleuaeth Cwpan Rygbi’r Byd

Dyma gyfle i ennill system sinema gartref ffantastig gan gynnwys Taflunydd HD cartref 4K sy’n gweithio gyda wifi a Bluetooth ynghyd â sgrin 100” enfawr a fydd yn gwella eich profiad o wylio’r rygbi.

Ennilla gwobr epig

Er mwyn bod mewn siawns o ennill Taflunydd HD 4K sy’n gweithio gyda wifi a Bluetooth ynghyd â sgrin 100” enfawr, cofrestra am ddiweddariadau Ogi. Ar ben hynny, cerdyn rhodd Gilbert gwerth £200 er mwyn i’ch clwb rygbi lleol allu prynu offer hyfforddi newydd.

Drwy wneud hynny, byddet nid yn unig yn cael cyfle i ennill y gwobrau epig, ond yn cael gwybod am y newyddion, digwyddiadau a hyrwyddiadau diweddaraf gan Ogi cyn bron neb arall.
Eich cyfeiriad

Beth sydd ar gael?

Mae Cwpan Rygbi’r Byd wedi hen ddechrau yn Ffrainc ac er y bydd ambell i un lwcus draw yn y stadia yn bloeddio Hen Wlad Fy Nhadau gyda’r côr, bydd y gweddill ohonom yn sownd i’n sgriniau gartref, yn canu ar ein soffa, yn cefnogi Cymru o gysur ein hystafell fyw.

Mae’r wobr yn cynnwys system sinema gartref ffantastig gan gynnwys Taflunydd HD 4K sy’n gweithio gyda wifi a Bluetooth ynghyd â sgrin 100” enfawr. Ar ben hynny, cerdyn rhodd Gilbert gwerth £200 er mwyn i’ch clwb rygbi lleol allu prynu offer hyfforddi newydd.

I gael cyfle i ennill, cofrestrwch i gael y newyddion diweddaraf. Drwy wneud hynny, byddwch yn cael cyfle i ennill y wobr wych hon, ac yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am y newyddion, y digwyddiadau a’r cynigion arbennig gan Ogi.

‘Taclo’ cyflymder araf

Mae eich tŷ yn fwy na chartref, mae’n swyddfa, yn sinema ac yn stadiwm. Pan fydd y teulu cyfan ar-lein, yn sgrolio, yn chwarae gemau ac yn ffrydio, mae cyflymder y wifi yn gallu bod yn rhwystredig o araf. Ond wnewch chi ddim colli cais gyda band eang ffeibr llawn gwibgyswllt a hynod ddibynadwy Ogi sy’n werth gwych am arian. Dim byffro a dim oedi. Gyda phecynnau o 150Mbps i 900Mbps a 6 mis am ddim pan fyddwch chi’n ymuno.

Yn amodol ar delerau. Fel gydag unrhyw gystadleuaeth, mae’n bwysig ymgyfarwyddo â’r telerau ac amodau. Cymer eiliad i adolygu’r holl fanylion, gofynion mynediad, ac unrhyw reolau penodol eraill a allai fod yn berthnasol yn ein telerau ac amodau.