Gwasanaethau Ogi ar gyfer dy fusnes di
Mae ‘da ni becynnau Pro i bob math o fusnesau.
I sefydliadau sydd am fod ar y blaen i bawb arall.
Busnesau Cymru – ryn ni yma i chi…
Unig fasnachwyr. Egin fusnesau ar ford y gegin. Busnesau yn y cartre. Cwmnïau maint canolig sy’n tyfu. A mentrau byd-eang.
Mae gwahoddiad i bawb.
Ogi Pro: pŵer ffeibr i dy bobol
Ryn ni’n cynnig sawl gwibgysylltiad gwahanol i bob math o fusnesau yng Nghymru…
Dwylo lan pwy hoffai fynd yn gyflymach!
Dysga ragor am y pecynnau gwibgysylltu sy’ ‘da ni i’w cynnig i fusnesau Cymru… y meicro a’r bach; y canolig a’r mawr.
Ddim yn broblem – gallwn ni gysylltu cwsmeriaid ym mhob cwr o Gymru gyda llinell arbennig ar brydles. Rho di’r côd post – ac fe wnawn ni’r gweddill.