
Meistr y Miwsig
Nhw yw’r DJ bob tro, a’r gerddoriaeth yn dal i chwarae pryd bynnag y byddan nhw o gwmpas. O’r pop bops sy’n gwneud iti ddawnsio, i’r synau soniarus sy’n gwneud iti ymlacio; ti sy’n gosod y rhythm, ble bynnag mae’r llawr dawnsio.
Mae angen cyflymder hynod o ddibynadwy ar drac sain dy fywyd.

Gwalch y Gemau
Mae’r gêm MLÂN. Ti moyn mynd yn gynt na’r gwynt. Ti moyn rhyngrwyd sy’n gyflymach na dy fysedd. Ti moyn rhoi troed ar y sbardun, dianc o’r jâl, codi’r gaer, sgorio’r gôl fuddugol, trechu’r anghenfil, a’r cyfan y funud hon. Ti’n gwybod dy fod ti’n haeddu ennill, felly bant â ni!

Y Bos Mawr Lan Stâr
Ma’ ’da ti’r uchelgais. Y ddawn. Ti’n taro bargeinion. Sdim y fath beth â ‘digon da’ a rhaid i dy wasanaeth fod yn chwim fel ti. Dyw cysylltiad rhyngrwyd tila yn dda i ddim, gan y bydd yn difetha dy enw da proffesiynol. Felly rwyt ti ’moyn Ogi 300.
Wedi’r cyfan, dim ond ti sy’n gwybod dy fod ti’n gwisgo slipers o dan y ddesg.

Y Dysgwr Deallus
Gwybodaeth yw popeth. Efallai dy fod ti’n saith oed, neu’n saith deg. Y naill ffordd neu’r llall, does dim byd am roi pall ar dy addysg. Mae ’na fwy nag un ffordd o ddysgu, medden nhw. I ti, mae’n golygu bod yn braff wrth gael band eang i dy gartre.
Cer ati i ddilyn dy raglen yn gynt nag erioed gan ddefnyddio Ogi 300.

Bwystfil y Lled Band
Rwyt ti’n glanio yn yr ystafell ’da rhu ddigidol, dawel, a phob injan ar ei hanterth. I ti, technoleg yw’r drws sy’n fythol agored i bosibilrwydd di-ben-draw. Crypto-gloddio. Saethu ffilmiau. Creu. Gwylio. Gwrando. Chwarae gemau. Recordio. Diogelu. Cydweithio.
Technoleg yw’r tywysog, a thithau’n frenin digidol. Er mwyn popeth, fy fyddet TI’n ddigidol dy hun o gael hanner siawns.
Rwyt ti ac Ogi 900 am fod yn .

Y Cefnogwr Cadair Freichiau
Ti’n addoli dy dîm chwaraeon. O dy orsedd yn dy gadair freichiau, rwyt ti’n rhannu’r sgrin yn ddwy i weiddi ar bob symudiad ’da dy fêts. Rych chi’n hoffi tynnu coes rhwng y cwrw a’r cnau. Dere â’r cŵn poeth ’na, glou. Mae’n sbel tan y chwiban ola’. Ond y chwiban ola’ fydd hi, ’da band eang tila.
Gofala nad yw hyn byth yn digwydd i dy griw di, a hynny ’da Ogi 300.

Trefnydd y Tîm
Ti sy’n trefnu’r parti. Yn cynnal noson Zoom y teulu. Yn datrys problemau, yn camu i’r adwy, yn gofalu am bawb. Gweithio gartre, dysgu’r plant, cynnull y teulu, rhwydweithio cymdeithasol, cynnal gweithdai, cipio’r awenau: ti yw’r un sy’n gwneud nid dweud.
All neb ymdopi hebot ti. Elli dithau ddim ymdopi heb gysylltiad band eang gwych.

Y Cyfaill Cymdeithasol
Sgwrsio, sgrôlio, sweipo a siopa – dyna dy fyd di. Welest ti rywbeth ar Insta a ti ’moyn e nawr? Wyt! Yn dy seis di? Ie! Brysia, dweud wrth dy ffrind. Iaics, mae hi wedi’i brynu fe’n barod. Beth am ddechrau ’to, cyn i rywun arall gyrraedd yno o dy flaen…
Ogi 150 yw dy gyfaill siopa a’r ffrind cymdeithasol gorau gei di.

Binjwr y Bocs
Ti yw’r un sy’n pallu rhoi’r gorau i wylio. Fydd y straeon cymhletha, mwya dyrys, mwya anhygoel ddim yn dy stopio. Rwyt ti’n dyfalbarhau bob tro. Stamina a snacs, y teclyn rheoli ac Ogi 150 yw’r cyfan ti moyn i gael sesiwn faith o flaen y teli.