Cwsmeriaid Spectrum Internet a Net Support UK

Dyma’r holl wybodaeth hanfodol am eich cytundeb gyda ni, a’ch gwasanaeth oddi wrthom ni.
Bounce Arrow

Cwestiynnau Cyffredin

Mae ein henw’n wahanol… be arall sy’n newid?

Mae’r rhifau cyswllt wedi newid – sut dwi’n cysylltu?

Dylai’r rhifau i gyd weithio a’th gyfeirio i’r llefydd cywir. Os wyt ti’n cael trafferthion, rho wybod ar ein Llinell Gymraeg – 029 2002 3200 neu cymraeg@ogi.cymru.

Rwy’n gwsmer i Spectrum Internet. Sut mae hyn yn fy effeithio i?

Diolch o galon am dderbyn gwasanaeth wrthom ni. Bydd y gwasanaeth hwnnw ddim yn newid. Be sy wedi newid yw ein henw, ac mae hynny wedi golygu newidiadau i’n ebyst, biliau ac anfonebau i adlewyrchu’r brand newydd. Byddwn ni’n cadw mewn cysylltiad gyda unrhyw newyddion arall.

Be yw oblygiadau y newidiadau arna i fel cwsmer i Net Support UK?

Ryn ni’n gwerthfawrogi dy fusnes yn fawr a byddi di’n parhau i dderbyn gwasanaeth o’r un ansawdd wrth ein criw o arbenigwyr busnes. Ryn ni wedi newid enw cofrestredig y cwmni i Ogi Networks Limited, a’n henw masnachu i Ogi, er mwyn adlewyrchu ffocws ac uchelgais newydd y cwmni. Mae darparu gwibgysylltiadau a gwasanaethau technegol i fusnesau’n ganolog i’r uchelgais honno.

Dwi ddim yng Nghymru: fyddwch chi dal yn darparu gwasanaeth i fi?

Mae gyda ni gwsmeriaid ar hyd a lled y DU ar y foment, a dyw eu gwasanaeth wrthom ni ddim yn newid. Mae Ogi yn enw cynhwysol, sy’n llawn hwyl, felly ryn ni’n gobeithio y gall ein holl gwsmeriaid deimlo perchnogaeth o’r brand newydd.

Cwsmeriaid Spectrum Internet

Gwybodaeth allweddol am eich gwasanaethau chi.

Mae’r dogfennau hyn ar gael yn Saesneg yn unig.

Cwsmeriaid band eang i fusnesau

Termau ac Amodau:

Cytundebau Lefel Gwasanaeth – Gwasanaethau Band Eang i Fusnesau:

Cwsmeriaid gwibgysylltiad premiwm i fusnesau

Cwsmeriaid Net Support UK

Enw Cofrestredig newydd Net Support UK yw Ogi Networks Limited, sy’n masnachu dan yr enw Ogi.

Dyw eich gwasanaeth wrthom ni ddim yn newid.

Dyma’r holl wybodaeth bwysig am y gwasanaethau hynny.

Mae’r dogfennau hyn ar gael yn Saesneg yn unig. 

Gwybodaeth gyffredinol

Polisïau a Gweithdrefnau:

Gwasanaethau Trydydd Partïon: 

  • Mae Net Support UK Ltd/Ogi Networks Limited yn Bartner Sianel i Nominet. I weld Termau ac Amodau Nominet, ewch i’w gwefan.
  • Mae Net Support UK Ltd/Ogi Networks Limited hefyd yn gweithio gyda chofrestrfeydd trydydd partïon er mwyn darparu gwasanaethau rheoli pyrth. Er mwyn gweld eu Polisïau, Termau ac Amodau ewch i: ICANN Whois Data Reminder Policy  / GoDaddy Legal Agreements and Policies.
  • Os hoffech ragor o wybodaeth am ein gwasanaethau rheoli pyrth a’n gweithdrefnau, yna rhowch ganiad i un o’n ymgynghorwyr ar ein Desg Gwasanaeth i Fusnesau.