
Ateb i’r cwestiynau mawr (a bach).
Haul neu law, dyma ein hatebion i rai o’r cwestiynau a allai fod gennych gyda gwasanaethai Ogi i’r cartref.
Ein cwmni ni
Atebion i’r pethau sylfaenol.
Beth mae Ogi yn ei wneud?
Ryn ni’n rhoi gwasanaethau band eang ffeibr llawn i gartrefi a busnesau ledled Cymru, ac i rai rhannau o Loegr. Ystyr ffeibr llawn yw cysylltiad band eang ffeibr optig yn uniongyrchol i dy gartre neu dy fusnes. Mae hefyd yn cael ei alw’n gysylltiad FTTP, sy’n sefyll am ‘Fibre To The Premise’. Ryn ni hefyd yn darparu rhai gwasanaethau cysylltu eraill, gan gynnwys gwasanaethau cysylltu a chymorth i fusnesau yng Nghymru.
Pam mae’r enw wedi newid?
Daeth Spectrum Internet a Net Support UK yn rhan o grŵp Spectrum Fibre yn 2020 – pan lwyddodd y cwmni i gael buddsoddiad conglfaen i ddarparu rhwydwaith band eang ffeibr llawn drwy’r de. Roedden ni am gael enw a fyddai’n adlewyrchu uchelgais newydd y cwmni, sef adeiladu rhwydwaith ffeibr llawn a fydd yn gweddnewid gallu pobol yn y de i gysylltu ’da’i gilydd a ’da’r byd am genedlaethau i ddod. Erbyn hyn, mae enw Net Support UK hefyd wedi newid i Ogi Networks Limited.
Pam Ogi?
Yng Nghymru, mae Ogi yn air sydd wastad yn ennyn gwên neu ymateb. Mae’n siant y byddwn ni’n ei ddysgu pan fyddwn ni’n ddim o beth. Ryn ni’n ei gysylltu ’da chyfnodau hapus bywyd, pan fydd pobol yn ymgynnull, pan fyddwn ni am fynegi ein hundod a’n mwynhad. Mae mymryn o hiraeth yn perthyn iddo, ond i ni, mae’n golygu dyfodol llawn cysylltiadau gwell. Dyna pam ddewison ni Ogi yn enw: mae’n cysylltu pobol, yn y fan a’r lle.
Cwestiynnau Cyffredinol
Yr ateb i’r hyn roeddet ti am ei holi, gobeithio.
Sut mae sicrhau gwasanaeth wrth Ogi?
Defnyddia’r chwiliwr i weld os yw Ogi’n gallu dy wasanaethu di nawr; neu cyn-gofrestra fel bod modd inni gadw mewn cysylltiad.
Gelli hefyd ffonio ein criw cyfeillgar ar 029 2002 0520, ebostia [email protected] neu chwilia am Ogi yn dy gymuned.
Os hoffet gysylltu trwy gyfrwng y Gymraeg mae gennym Linell Gymraeg ar 029 2002 3200 neu [email protected].
Sut ydw i’n gwybod os yw Ogi yn fy ardal?
Mae Ogi’n adeiladu rhwydwaith ffeibr llawn mewn cymunedau ar hyd a lled y de ar y foment. Os wyt ti’n un o’r llefydd hyn – ac os yw Ogi wedi cysylltu dy stryd di, yna mae modd i ti dderbyn gwasanaeth nawr. Fel arall, cyn-gofrestra ac mi wnawn ni roi gwybod cyn gynted ag y mae’r rhwydwaith yn ‘fyw’ yn dy ardal di. Defnyddia’r chwiliwr i weld lle ryn ni, ffonia 029 2002 0520 neu ebostia [email protected]. Gelli gysylltu ar ein Llinell Gymraeg hefyd (029 2002 3200 / [email protected].)
Os wyt ti’n gwsmer cartref yn y de – ond mewn ardal tu fas i un o gymunedau rhwydwaith Ogi, yna falle bod modd inni roi cyswllt o fath gwahanol i ti.
Ryn ni’n gallu gwasanaethu busnesau lle bynnag y maent yn y de. Ffonia 029 2002 0535 neu ebostia [email protected]. Mae busnesau hefyd yn gallu defnyddio’r Llinell Gymraeg, wrth gwrs.
Sut mae canslo’r gwasanaeth?
Ma da ti 14-diwrnod i newid dy feddwl ar ôl gosod archeb da Ogi.
Er mwyn canslo, ffonia 029 2002 0535 neu ebostia [email protected].
Os yw dy wasanaeth wedi cael ei osod yn barod, rwyt ti dal yn gallu canslo yn ystod y cyfnod hwn, ond bydd angen i ti dalu’r costau gosod (£60) i Ogi, a danfon ein llwybrydd/llwybryddion nôl, mewn cyflwr da.
Sut mae dod â’r cytundeb i ben?
Unwaith mae’r cyfnod ‘oeri’ wedi dod i ben yna mae modd holi i derfynu dy wasanaeth. Rhaid gwneud hynny ar ‘bapur’ gyda 30 dydd o rybudd at [email protected] neu trwy lythyr.
Os wyt ti dal ar gytundeb yna bydd angen ad-dalu gweddill cyfnod y cytundeb i ni.
Bydd angen dychwelyd dy offer wifi hefyd. Mae’r broses yn syml: byddwn ni’n gyrru pecyn postio atat ti. Rho dy offer yn y pecyn, cer i Swyddfa’r Post, yna dychwela’r cyfan atom i’w ail-gylchu. Byddwn ni’n codi ffi os nad yw’r offer yn cael ei ddychwelyd atom.
Oes modd imi enwebu rhywun i reoli fy nghyfri ar fy rhan?
Wrth gwrs. Cysyllta â ni ar ein Llinell Gymraeg at [email protected] neu 029 2002 3200 a gelli roi rheolwr ar dy gyfri sy’n gallu edrych ar ôl pethau ar dy ran.
Be os dwi’n symud tŷ?
Os wyt ti’n symud tŷ, mae’n bosibl y gallem ni symud dy wasanaeth draw i dy gyfeiriad newydd er mwyn gwneud bywyd yn haws i ti.
Bydd hyn yn dibynnu ar lle rwyt ti’n symud, a natur dy wasanaeth presennol. Rho floedd i [email protected] / 029 2002 0520 i weld os oes modd inni helpu.
Os nad yw Ogi’n gallu darparu gwasanaeth i ti yn dy gyfeiriad newydd, neu os nad wyt ti’n dymuno derbyn gwasanaeth Ogi yn y cyfeiriad hwnnw, yna bydd dy wasanaeth presennol yn dod i bem a bydd ein telerau arferol o ran dirwyn cytundeb i ben yn gymwys. Bydd angen i ti ddychwelyd dy lwybrydd/ion atom yn Ogi gan ddefnyddio’r pecyn postio fyddwn ni’n ei ddarparu i ti.
Os ydyn ni’n gallu darparu gwasanaeth i ti yn dy gartref newydd yna falle bydd ffi yn cael ei godi am osod y gwasanaeth. Gelli fynd â dy lwybrydd/ion da ti, ond bydd ishe trafod hyn gyda’r criw Gwerthu yn Ogi ar y manylion cyswllt uchod.
Os hoffet gysylltu trwy gyfrwng y Gymraeg mae gennym Linell Gymraeg ar 029 2002 3200 neu [email protected].
Beth sy’n digwydd os oes profedigaeth?
Os oes profedigaeth yn y teulu, yna gall y sawl sydd yn cynrychioli’r cwsmer ddod â’r cytundeb i ben heb gost, a dychwelyd y llwybrydd/ion i ni. Gallant hefyd drosglwyddo’r cytundeb i rywun arall, ar yr un telerau, a heb gost os hoffent wneud hynny.
Gosod dy wasanaeth
Gwybodaeth am osod dy wibgysylltiad a’th offer.
Pryd fydd y gwasanaeth yn cael ei osod?
Os wyt ti’n gwsmer Ogi 150, Ogi 300 neu Ogi 900 byddwn yn trefnu gosod dy wasanaeth wrth gymryd dy archeb. Gelli ddewis y slot sydd fwya cyfleus i ti.
Byddwn ni’n gyrru ebyst a negeseuon testun i ti i gadarnahu pethe. Os ydyn ni angen newid y trefniadau am unrhyw reswm, yna byddwn ni’n cysylltu i ail-drefnu’r slot. Os wyt ti’n dymuno newid y trefniant am unrhyw reswm, ebostia [email protected] neu ffonia 029 2002 0520.
Os wyt ti’n gwsmer Ogi Alt, byddwn ni’n cysylltu i drefnu gosod dy ffeibr.
Os hoffet gysylltu trwy gyfrwng y Gymraeg cofia am ein Linell Gymraeg ar 029 2002 3200 neu [email protected].
Beth yw cost gosod fy ffeibr?
£60 yw ein ffi gosod arferol, ond ryn ni’n cynnig gostyngiad ar y pris hwn – ac yn ei ddarparu am ddim – i bob cwsmer Ogi 150, Ogi 300 a Ogi 900 ar gytundeb 12 neu 24 mis.
Mae’r ffi ar gyfer gwaith manylach arnat – yna bydd hyn yn costio £80 a byddwn yn trafod a chytuno hyn gyda ti cyn bwrw ati.
Cost gosod gwasanaeth Ogi Alt yw £99.
Be sy’n digwydd pan rych chi’n dod i osod fy ffeibr?
Bydd y gwaith fel arfer yn cymryd 1.5 awr. Bydd ein criw yn gosod dy wib gysylltiad ffeibr llawn, ac yn gosod dy lwybrydd/ion hefyd.
Mae fideo syml am y broses yn adran ‘Ardal Cwsmeriaid Ogi‘.
Beth os yw rhywbeth yn mynd o’i le?
Ryn ni’n gobeithio cael y cyfan yn iawn, y tro cyntaf. Os oes problem, ffonia ein Llinell Gymraeg ar 029 2002 3200 neu ebostia [email protected].
Fy offer Ogi
Cwestiynau am dy offer technegol wrth Ogi.
Be fyddai’n ei gael?
Os wyt ti’n gwsmer Ogi 150, Ogi 300 neu Ogi 900 fe fyddi di’n cael ONT Nokia (dyna’r bocs bach ar y wal, lle mae’r ffeibr yn dod mewn i’r cartref…)
Fe fyddi di hefyd yn cael:
- 1x llwybrydd wifi Zyxel EX3301 os wyt ti’n gwsmer Ogi 150
- 2x lwbrydd wifi mesh eero 6 os wyt ti ar becyn Ogi 300
- 2x lwybrydd wifi mesh eero 6 Pro gyda’r gwasanaeth Ogi 900.
Mae cwsmeriaid Ogi Alt yn cael llwybrydd/ion Zyxel mewn pryd ar gyfer gosod y gwasanaeth.
Mae rhagor o wybodaeth am dy wifi ar y dudalen Ein gwasanaethau.
Beth os oes problem da’r offer?
Cysyllta ar 029 2002 3200 neu [email protected] ac mi wnawn ni weld be sy’n mynd mlaen.
Os oes angen gyrru Peiriannydd Ogi mas i weld yr offer, yna mi wnawn ni drefnu bod hynny’n digwydd. Yn anffodus, os yn nhw’n taro draw a bod dim problem amlwg, yna falle bydd angen i ni godi ffi arnat ti am yr ymweliad.
Os oes angen cyfnewid dy offer heb ymwelid yna byddwn ni’n gyrru pecyn postio i ti i yrru dy hen offer atom ni, a byddwn ni’n gyrru offer newydd yn y post mas i dy gyfeiriad. Os wyt ti ddim mewn cytundeb cyfnod-benodol yna efallai y bydd cost bychan am y gwaith o drefnu hynny a’r costau postio.
Dwi wedi difrodi’r offer ar ddamwain, be dwi’n neud?
Rho wybod ar 029 2002 3200 neu [email protected].
Byddwn ni’n gyrru pecyn postio i ti i ddychwelyd yr offer atom ni, ac yn gyrru offer newydd atat.
Os wyt ti wedi difrodi’r offer, yna bydd angen i ni godi arnat ti am gost yr offer newydd.
Dwi’n hapus gyda fy offer presennol – alla’i eu defnyddio nhw?
Wrth gwrs. A diolch i ti am wneud hynny – mae’n well i’r amgylchedd.
Gan fod ein offer wifi yn rhan o’n pecynnau cyffredinol, dyw gwneud hyn ddim yn newid cost dy ffi misol i Ogi, ond mi wnawn ni roi Taleb Eco Ogi i ti i ddiolch i ti am helpu’r blaned.
Cyflymder dy wasanaeth
Beth i’w ddisgwyl, a beth i’w wneud os nad yw hynny’n digwydd.
Sut mae profi cyflymder y gwasanaeth?
Cymer Brawf Cyflymder Ogi.
Er mwyn profi dy gyflymder, cysyllta dy ddyfais yn uniongyrchol at dy lwybrydd gyda chebl ethernet, a diffodda unrhyw ddyfais arall rwyt ti’n ei defnyddio. Dyma sut i gael y syniad gorau o’r gwir gyflymder sy’n dod mewn i dy gartref.
Dwi ddim yn cael y cyflymder ron i’n ei ddisgwyl – be sy’n digwydd?
Mae’r cyflymder mae cwsmeriaid yn ei dderbyn yn gallu amrywio am lot o resymau, yn cynnwys pa mor brysur yw’r rhwydwaith yn lleol a phroblemau gyda’r rhyngrwyd yn gyffredinol ym Mhrydain a thu hwnt.
Mae o leiaf 50% o’n cwsmeriaid yn gallu derbyn cyflymderau lanlwytho a lawrlwytho pecynnau Ogi yn ystod oriau brîg (sef 8pm-10pm bob dydd). Gan mai cyflymderau cyfartaloeg yw’r rhain, does dim modd eu gwarantu. Isafswm y cyflymder y dylet ddisgwyl ei dderbyn yn ystod cyfnodau brîg yw tua hanner cyflymder ‘pennawd’ y pecyn. Dyn ni ddim yn gallu gwarantu cyflymder lanlwytho i gwsmeriaid cartre Ogi 150, Ogi 300 a Ogi 900.
Ryn ni’n gwirio rhwydwaith Ogi’n barhaus ond gelli brofi dy gyflymder hefyd ar ein gwefan.
Os yw dy gyflymder yn gyson is na’r digwyl ffonia 029 2002 3200 neu ebostia [email protected] ac os nad yw pethau’n gwella o fewn 30 diwrnod rwyt ti’n rhydd i ddirwyn pethau i ben gyda ni.
Nam ar y gwasanaeth
Ryn ni ishe cael pethe’n iawn, y tro cyntaf. Ond weithiau mae pethe’n mynd o’i le…
Mae nam ar fy ngwasanaeth. Be wna’i?
Rho wybod, ac mi wnawn ni weld be sy’n digwydd.
Mae’n bosibl bod y nam ar ein rhwydwaith, ac – os felly – bydd ein criw yn gweithio i adfer y sefyllfa cyn gynted ag sy’n bosibl.
Os yw’r nam yn effeithio ar dy wasanaeth di’n unig, yna falle bod y nam ar y ffeibr i dy gartref neu dy offer. Efallai y bydd angen inni yrru Peiriannydd i weld – os felly, mi wnawn ni drefnu hyn gyda ti. Os yn ni’n taro draw, ac mai nid arnom ni mai’r bai, mae’n bosibl y bydd angen i ni godi ffi am yr ymweliad.
Taliadau
Sut i dalu, a beth i’w wneud os oes problem.
Be yw’r pethau pwysig am fy Mil?
Bydd dy Fil yn cael ei yrru at dy gyfeiriad ebost (oni bai dy fod ti wedi gofyn am Fil papur, am gost ychwanegol) a bydd yn cynnwys dy holl gostau yn y cyfnod, yn cynnwys costau dy wasanaeth band eang.
Bydd ein biliau am gyfnod o 1 mis, oni bai mai hwn yw dy Fil cyntaf, a bydd yn dechrau o ddyddiad cychwyn y gwasanaeth hyd at ddiwedd y mis wedyn.
Bydd y cyfanswm yn dod o dy gyfri trwy ddebyd uniongyrchol ar neu tua’r dyddiad ar y Bil. Bydd unrhyw ostyngiadau i’w gweld ar y Bil, gyda disgrifiad, a byddwn yn esbonio hefyd os mai gostyngiad untro neu rheolaidd ydyw.
Os wyt ti’n pryderu am dy Fil, ffonia 029 2002 3200 neu ebostia [email protected].
Ydy’r Gwarant Debyd Uniongyrchol yn fy ngwarchod?
Mae’r Gwarant Debyg Uniongyrchol yn gwarchod cwsmeriaid presennol a newydd yn llawn. Mae pob Banc a Chymdeithas Adeiladu sy’n derbyn cyfarwyddiadau i dalu Debydau Uniongyrchol yn cynnig y Gwarant hwn.
Os oes newidiadau i swm, dyddiad neu amlder dy Ddebyd Uniongyrchol byddwn yn rhoi gywbod i ti 10 diwrnod busnes cyn i’r arian ddod o dy gyfrif neu fel y cytunwyd rhyngom. Os wyt ti’n rhoi cais i ni gasglua taliad, yna bydd cadarnhad o’r swm a’r dyddiad yn cael ei roi i ti ar adeg y cais. Os gwneir camgymeriad gyda dy daliadau Debyd Uniongrychol, gennym ni neu dy fanc, yna mae gen ti hawl i ad-daliad llawn o’r swm a dalwyd o dy Fanc neu Gymdeithas Adeiladu, a hynny’n syth. Os wyt ti’n derbyn ad-daliad nad oes gen ti’r hawl iddo, yna mae’n rhaid i ti ei ad-dalu i ni pan fyddwn ni’n ei hawlio.
Gelli ganslo Debyd Uniongyrchol unrhyw bryd trwy gysylltu â’th Fanc neu Gymdeithas Adeiladu. Efallai y bydd angen cadarnhad ysgrifenedig arnat. Rho wybod i ni os gwelwch yn dda.
Be os dwi’n cael trafferth talu?
Plis rho wybod i ni ar 029 2002 3200 neu [email protected].
Cadw mewn cysylltiad ’da ni – a ninnau ’da ti
Dere i weld mwy am sut gelli di gysylltu ’da ni, a sut byddwn ninnau’n cysylltu ’da ti.
Sut mae cysylltu ’da chi?
Os wyt ti’n gwsmer cartre, cysyllta ’da’n tîm Gofalu am Gwsmeriaid, o ddydd Llun i ddydd Gwener, 8am-6pm. Ffonia ni ar ein Llinell Gymraeg ar 029 2002 3200 neu anfona e-bost at [email protected]. Os byddai’n well gen ti ddefnyddio’r post, anfona lythyr i Gwasanaethau i Gwsmeriaid Ogi, Tŷ Ogi, Hodge House, 114-116 Heol Eglwys Fair, Caerdydd, CF10 1DY. Neu anfona neges uniongyrchol aton ni drwy Facebook, Instagram, neu Twitter.
Os wyt ti’n gwsmer busnes, ffonia 029 2002 2333 neu anfona e-bost at [email protected]. Gwasanaethau Saesneg yw’r rhain ond croeso i ti hefyd ffonio ein Llinell Gymraeg ar 029 2002 3200 neu ebostio [email protected] unrhywbryd os wyt ti’n fusnes ac y byddai’n well gen ti wneud hynny.
Mae ein manylion cysylltu llawn yn yr adran Cysylltu ‘da ni ar y wefan.
Sut mae cwyno?
Dyw hi byth yn braf pan fydd rhywbeth yn mynd o’i le, ond gallwn ni helpu i ddatrys pethau: Anfona e-bost at [email protected], ffonia ein Llinell Gymraeg ar 029 2002 3200, neu anfona lythyr aton ni i’r cyfeiriad hwn: Gwasanaethau i Gwsmeriaid Ogi, Tŷ Ogi, Hodge House, 114-116 Heol Eglwys Fair, Caerdydd, CF10 1DY.
Mae copi llawn o’n Cod Cwynion i’w weld ar y wefan.
Pam eich bod chi am imi lenwi ffurflen cyn cofrestru?
Ryn ni yn y broses o adeiladu rhwydwaith ffeibr llawn drwy’r de, a gallwn ni hefyd gynnig gwasanaethau cysylltu a chymorth busnes eraill.
Ryn ni’n gofyn i unrhyw un sydd â diddordeb yn ein gwasanaethau i gofrestru eu diddordeb yn www.ogi.cymru, a byddwn ni hefyd yn gwerthu yn y maes, ond hynny heb fod unrhyw rwymedigaeth.
Cyn gynted ag y gallwn ni dy gysylltu di ’da gwasanaeth, byddwn ni’n cysylltu ’da ti roi gwybod iti.
I gael rhagor o wybodaeth am ddiogelwch data, cer i’r adran Polisi Preifatrwydd ar y wefan.
Dw i ddim moyn cael eich negeseuon e-bost mwyach – sut mae eu stopio nhw?
Gelli di ein ffonio ni ar ein Llinell Gymraeg ar 029 2002 3200 neu anfon e-bost i [email protected].
Bydd opsiwn hefyd yn ein negeseuon digidol i ddad-danysgrifio o’n rhestrau postio.
Sut mae gadael adborth?
Ryn ni wrth ein boddau’n cael adborth, yn dda neu’n ddrwg, gan fod hyn yn hanfodol er mwyn inni wella ein gwasanaeth. Gelli di roi caniad inni neu roi gwybod inni drwy ddefnyddio ein ffurflen adborth ar-lein.
Sut mae newid/diweddaru fy manylion?
Gelli di ddiweddaru neu newid dy fanylion drwy roi caniad i’n tîm Gofalu am Gwsmeriaid ar ein Llinell Gymraeg ar 029 2002 3200, neu ebostia [email protected].
Ein gwaith adeiladu ffeibr yn y gymuned
Ryn ni ar ein ffordd i gymunedau ar hyd a lled y de – a dyma rai pethau y gallet ti fod eisiau eu gwybod…
Sut rych chi’n penderfynu ble i adeiladu eich rhwydwaith?
Ein nod yw cysylltu trefi a phentrefi drwy’r de. Am y tro, byddwn ni’n blaenoriaethu ardaloedd sy’n hyfyw yn fasnachol (neu sy’n gymwys drwy dalebau), a’r rheini ddim yn cael eu gwasanaethu gan gwmnïau eraill.
Bydd ein cam cynta yn golygu adeiladu i gyrraedd 150,000 o safleoedd, ond ryn ni’n gobeithio cynyddu hyn yn sylweddol dros y blynyddoedd nesa.
Ryn ni’n adolygu ein cynlluniau drwy’r adeg ar sail nifer o ffactorau, a bydd manylion ein cam nesa a’r ardaloedd y byddwn ni’n adeiladu ynddyn nhw ar gael yn yr adran ‘I gymunedau’ ar ein gwefan. Gelli di hefyd gofrestru ar-lein i gael diweddariadau a newyddion rheolaidd gennyn ni am ein cynlluniau at y dyfodol.
Fydda’ i’n cael gwybod os bydd Ogi yn adeiladu yn fy ardal i?
Byddwn ni’n ceisio rhoi gwybod i ti ac i bawb sy’n byw mewn ardal pan fyddwn ni ar ein ffordd iddi. Os bydd y gwaith adeiladu yn effeithio’n uniongyrchol ar gwsmeriaid, byddan nhw’n cael llythyr ffurfiol gan Ogi a’n contractwyr yn rhoi gwybod iddyn nhw beth i’w ddisgwyl, a pha bryd.
Ble mae cael manylion am ffyrdd sydd wedi cau?
Byddwn ni’n rhoi gwybodaeth yn y gymuned leol am unrhyw ffyrdd y bydd yn rhaid eu cau, ar ôl dilyn y prosesau priodol. Bydd nifer o fyrddau cyfathrebu wedi’u gosod yn lleol yn dangos pryd fydd y gwaith sy’n cael ei wneud yn dechrau ac yn gorffen. Bydd goruchwyliwr hefyd ar y safle, a hwnnw’n bresennol bob dydd. Bydd modd i’r unigolyn hwn ateb unrhyw gwestiynau fydd gen ti am ein gwaith adeiladu.
Hefyd, cadwa lygad am ein timau ymgysylltu cyfeillgar yn dy gymuned di.
Sut fyddwch chi’n cyrraedd fy eiddo os ydw i’n byw ar ffordd breifat?
Os wyt ti’n byw ar ffordd breifat, bydd ein peiriannydd yn rhoi galwad i ti i gael mynediad i dy eiddo ac i drafod unrhyw ofynion penodol.
Beth fydd yn digwydd os bydd eiddo’n cael ei ddifrodi?
Os bydd peiriannydd wedi achosi unrhyw ddifrod i dy eiddo, byddan nhw’n rhoi gwybod i’w Rheolwr Tîm lleol a fydd yn trafod y cam nesa ’da ti.
Os ein tîm ni fydd wedi achosi’r difrod, fel arfer byddwn ni’n trefnu’r gwaith atgyweirio ac yn talu am y difrod a achoswyd, ond bydd angen i’n tîm ni adolygu hyn, a does dim modd ei warantu.
Os byddi di’n sylwi ar unrhyw ddifrod sydd wedi’i achosi a bod y peiriannydd wedi gadael yr eiddo, cysyllta ’da’n tîm Gofalu am Gwsmeriaid ar ein Llinell Gymraeg, 029 2002 3200, a byddan nhw’n fwy na pharod i dy helpu.
A yw’r offer ar gyfer gwaith adeiladu’r rhwydwaith i fod i gael ei adael ar y safle?
Byddwn ni fel arfer yn mynd â’r offer oddi ar y safle, ond gall fod adegau pan fydd angen ei adael ar y safle am gyfnod byr. Mae hyn yn gwbl normal ac ni fydd yn achosi unrhyw risgiau i’r cyhoedd. Os byddi di’n gweld rhywbeth sy’n dy bryderu di, cysyllta ’da’n tîm Gofalu am Gwsmeriaid ar ein Llinell Gymraeg ar 029 2002 3200 neu [email protected].