Os oes gen ti unrhyw broblem neu gwestiwn, ffonia ein tîm Gofal cyfeillgar trwy ddefnyddio ein Llinell Gymraeg – neu danfona ebost atom. Byddwn yn cysylltu â thi cyn gynted ag y medrwn ni. Ryn ni yma i helpu.
Os hoffet ti fynd yn gynt na’r gwynt arlein, yna rho ganiad i’n criw Gwerthu cyfeillgar. Ma nhw yma i roi cyngor i ti ar y pecyn sy’n gweddu orau i dy ffordd o fyw. Ma nhw’n griw lleol, ac ma nhw’n gwbod eu stwff.
Oriau gwasanaeth ychwanegol ar gael, gwiria dy gytundeb gwasanaeth.
(Gwasanaethau Saesneg yw’r rhain. Croeso i fusnesau defnyddio’r Llinell Gymraeg hefyd.)
Tîm Datblygu Busnes
Gall unrhyw gwsmer sydd â phecyn cysylltedd premiwm gysylltu â’u gwasanaeth cymorth y tu allan i oriau fel arfer. Byddwn yn parhau i fonitro’r rhwydwaith 24/7 fel arfer.
I gael rhagor o wybodaeth neu am sylw ar y diwydiant gan ein huwch dîm, cysyllta â: Ebosta:[email protected] (gan gynnwys tu allan i oriau gwaith).
I wneud cwyn
Weithiau, ma pethe’n mynd o chwith. Er mwyn datrys y broblem, cysyllta â ni’n syth i roi gwybod i ni be sy’n digwydd. Os yw’r broblem yn parhau, ddefnyddia ein cod cwynion neu e-bostia [email protected] i gael cyngor a chymorth.
Rhoi gwybod am broblem
Defnyddia’r ffurflen isod er mwyn rhoi gwybod i ni am broblem – neu ffonia neu ebostia gan ddefnyddio’r manylion cyswllt uchod.