Ffeibr llawn. Mantais go iawn.

Creu cyfleoedd yn ne Cymru drwy gysylltiad rhyngrwyd ffeibr llawn.

Ein Stori

Mae Ogi yn gwmni ffeibr llawn a gwasanaethau technoleg sydd â’n pencadlys yma yng Nghymru.

Ein huchelgais yw trawsnewid tirlun digidol y de, gan ddod â chyfleoedd newydd i gymunedau ar hyd a lled y rhanbarth. Er mwyn byw, gweithio a joio.

Tua’r dyfodol

Mae Ogi wedi sicrhau buddsoddiad oddi wrth Infracapital, cwmni sy’n buddsoddi mewn isadeiledd, i gyflwyno band eang ffeibr llawn a hynny ar raddfa fawr ac uchelgeisiol ar hyd a lled de Cymru. Tan nawr, mae’r gwaith o wella seilwaith band eang Cymru wedi bod yn araf iawn. Felly, ein bwriad ni yw cyflymu pethe.

O dan frand newydd Ogi, ryn ni wedi dwblu mewn maint, wedi sefydlu cadwyn gyflenwi, a nawr ryn ni yn y broses o weddnewid y dirwedd ddigidol yng Nghymru unwaith ac am byth. Os yw busnesau a chymunedau i ffynnu, mae angen yr amodau arnyn nhw i wneud hynny.

Ryn ni’n adeiladu seilwaith y gall cenedlaethau’r dyfodol fod yn falch ohono. Felly hyd yn oed pan fydd jîns sgini a choffis fflat gwyn wedi hen ddiflannu, bydd ein seilwaith ffeibr llawn yn dal yno i bawb.

Cyd-gysylltu ag eraill

Gyda mwy o hyblygrwydd a mwy o bobol yn gweithio o bell, ryn ni’n credu bod gwibgysylltiad ffeibr llawn yn hollbwysig i sbarduno adferiad diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd yng nghymunedau Cymru.

Os wyt ti’n perthyn i sefydliad sydd â diddordeb mewn twf cymunedol ac mewn cefnogi trefi a phentrefi Cymru, bydden ni’n dwlu cael sgwrs ’da ti.

Agor y drws ar gyfleoedd ar hyd ein cefnffyrdd

Ryn ni’n gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru i ddefnyddio pibelli teleathrebu sy’n bodoli’n barod i ehangu’r seilwaith digidol drwy’r de.

Darllena fwy am Gonsesiwn Cefnffyrdd De Cymru a sut mae’n ceisio gwella capasiti yn rhanbarthau Cymru.

Gweithio i Ogi

Sdim rhaid iti ofni dydd Llun fyth eto. Dere i weithio i Ogi a rhoi dy yrfa ar drywydd newydd.

Wrth inni dyfu ac ehangu i gymunedau ledled de Cymru, byddwn ni wastad yn chwilio am aelodau newydd i ymuno â thîm Ogi. Bydd gyda ni dalent sy’n gweithio mewn pob math o feusydd, yn cynnwys Cyflenwi, Gwerthu, Marchnata, Gwasanaethau i Gwsmeriaid, Rhwydweithio, a mwy.

Caru ein cymunedau

Ryn ishe cyflymu dy gysylltiad di, ac ryn ni’n symud yn gyflym fel cwmni hefyd. Y cymunedau cynta un i gael ein ffeibr llawn fydd trefi marchnad Hwlffordd a’r Fenni. Ryn ni hefyd yn rhoi profiad ffeibr llawn i glwstwr o gymunedau yn Y Fro, gan gynnwys Sain Tathan a Llanilltud Fawr.

Dere i wybod mwy am sut ryn ni’n gweithio â chymunedau.

Y Wasg a Chysylltiadau Cymunedol

Oes ’da ti ymholiad, gwestiwn neu gais? Cysyllta â’n tîm brand a chyfathrebu a fydd yn gallu dy roi ar ben ffordd.

Ogi’n cefnogi…

Fel cwmni, ryn ni ishe gwneud gwahaniaeth o ran:

Cynaliadwyedd

Mae ffeibr llawn ar gyfer yfory. Mae ein gwifrau ffeibr optic yma i aros: pan ddaw’r amser (ac fe ddaw) i gynyddu cyflymder dy gysylltiad x10, neu x100 hyd yn oed, fe fedrwn ni wneud hynny.

Twf Gwyrdd

Mae ffeibr llawn yn dod â chyfleoedd i’n cymunedau, gan roi mantais go iawn i weithwyr a busnesau lleol. Gallai hefyd helpu lleihau ar y ciwiau diflas ar yr M4.

Cymuned

Mae llawer o dim Ogi yn byw ac yn gweithio yma’n ne Cymru. Ryn ni’n nabod ein cymunedau, ac yn dymuno chwarae ein rhan yn y gwaith o’u helpu i fynnu.