Gwibffyrdd digidol i dde Cymru

Seilwaith ffeibr ar hyd cefnffyrdd de Cymru.

Sdim tagfeydd fan hyn…

Mae Consesiwn Cefnffyrdd De Cymru yn golygu bod modd i Ogi adeiladu gwibffordd ddigidol rhwng trefi a phentrefi, canolfannau a chyfnewidfeydd data ledled y de. Bydd modd i wybodaeth ddigidol ddi-ben-draw wibio’n gynt na’r gwynt i mewn a mas o’r rhanbarth.

Byddwn ni’n dechrau tyrchu i’r pibelli yn y de-ddwyrain yn nes ’mlân eleni, a’r nod yw creu rhwydwaith a fydd yn hwb i bob math o bartneriaid lleol a chwmnïau telathrebu byd-eang fel ei gilydd. Bydd hynny’n hwb i Gymru ei hun.

Yn gynaliadwy o gymunedol

Bydd gwella cysylltiadau digidol yn helpu i wneud Cymru’n fwy cynaliadwy – yn helpu pobol i gymudo llai, ac i wneud mwy ar-lein, ble bynnag maen nhw. Ond mae manteision yn y tymor byr i Gonsesiwn Cefnffyrdd De Cymru hefyd. Mae hi wastad yn syniad da peidio â tharfu’n ddiangen. Mae’n well osgoi gwaith adeiladu os oes modd. Mae defnyddio’r seilwaith sydd yno’n barod yn well o lawer i’r amgylchedd a’r gymuned leol.

Mwy o gapasiti digidol i gartrefi, busnesau a sefydliadau

Ryn ni’n teimlo’n gyffrous iawn o allu dod â ffeibr llawn a gwasanaethau busnes i gymunedau ledled y de. Ond ryn ni hefyd yn gyffrous y bydd gwella seilwaith y cefnffyrdd am arwain at gynyddu capasiti, ac o bosib yn gyfle i ddenu mwy o fusnesau i holl ardal y de.

Yn y dyfodol, bydd y rhwydwaith yn cysylltu’r Gymru drefol a’r Gymru wledig. Bydd yn cryfhau ein dinasoedd, ac yn dod â chysylltiad ffeibr ‘holl ffordd’, gwell signal ffôn, a mwy o gystadleuaeth i drefi a phentrefi llai.

Bydd y rhwydwaith yn cysylltu’n uniongyrchol â rhai o Ganolfannau Data pwysica’r de – LINX Wales yng Nghaerdydd a Chanolfan Ddata Vantage CWL1 yng Nghasnewydd. Dyma ein canolfannau telathrebu pwysicaf ni – maen nhw’n delio â llif anferth o ddata bob dydd.

Ein partneriaid

Partneriaid y prosiect