Ein cymunedau ffeibr llawn

Bounce Arrow

Shwmae. Oi. Helô.

Ryn ni’n gosod rhwydwaith band eang Gigabit newydd yng nghanol ein trefi a’n pentrefi. Technoleg y genhedlaeth nesa yw hon, sy’n rhoi gwibgysylltiad hynod o ddibynadwy ar y rhyngrwyd i deuluoedd a busnesau lleol. A’r cyfan am bris gwych gan dîm talentog o Gymru. 

Felly, dere i ni gael mynd yn gynt na’r gwynt – wrth chwarae ar iPhone mam wrth fwrdd y gegin, wrth baratoi am Netflix ar y soffa, neu wrth greu’r cyflwyniad rhithwir campus yna. 

Dere o hyd i dy gymuned

Ogi yn dy ardal di

Mae dod â rhwydwaith ffeibr llawn i ti yn galw am dipyn go lew o gynllunio, cloddio, gosod ceblau ac ati. Byddwn ni ym mhob un o’r cymunedau hyn am sbel, ond paid â phoeni, os bydd angen i ni dyllu yn dy stryd di, dim ond ychydig wythnosau ddylai hynny’i gymryd. Pan fydd y cyfan wedi’i osod, bydd dy rwydwaith ffeibr llawn yn gallu cael ei ddiweddaru o hyd. Felly fydd dim golwg o’n cloddwyr am amser go hir eto, oni bai bod angen i ni atgyweirio rhywbeth ar frys.

An illustration of an Ogi installer standing in front of an Ogi branded van. Wearing high vis, hard hat and carrying a toolbox.