Band eang cyflyma i Gymru

Brysia! Cynnig yn dod i ben 2 Ebrill 2024.
Bounce Arrow

Cynnig gwanwyn!
100Mbps ychwanegol am £1 mwy y mis gyda Ogi 500

Power Rating Bar Icon

Ogi 200

200Mbps

Cyflymder i lawr

  • 20Mbps cyflymder lan
  • £0 i’w osod



£15

y mis

Tymor 12 mis ac yna pris safonol wedi hynny. Cwsmeriaid newydd yn unig.

Power Rating Bar Icon

Ogi 500

400 500Mbps

Cyflymder i lawr

Brysia! Cynnig yn dod i ben 2 Ebrill 2024.

  • 50Mbps cyflymder lan
  • £0 i’w osod
  • Yn cynnwys bwst wifi gyda thechnoleg Amazon eero

£21

y mis

Tymor 12 mis ac yna pris safonol wedi hynny. Cwsmeriaid newydd yn unig.

Power Rating Bar Icon

Ogi 1Gig

900Mbps

Cyflymder i lawr

  • 90Mbps cyflymder lan
  • £0 i’w osod
  • Yn cynnwys bwst wifi gyda thechnoleg Amazon eero


£30

y mis

Tymor 12 mis ac yna pris safonol wedi hynny. Cwsmeriaid newydd yn unig.

Mae newid yn haws

Mae rhai yn dweud mor hawdd ag un, dau, tri! Mae arbenigwyr Ogi yn barod i dy dywys drwy’r broses osod, o benderfynu ar y llwybr gorau ar gyfer y cebl band eang ffeibr llawn i sicrhau gallet fynd yn gynt na’r gwynt.

Ffeibr llawn sy’n barod am y dyfodol

Rhoi’r profiad band eang gorau posib i ti yw’r unig beth sy’n bwysig i ni. Mae darparwyr eraill yn aml yn defnyddio hen linellau ffôn copr, neu gyfuniad o ffeibr a chopr. Ond gennyn ni, byddi di’n cael dy linell ffeibr dy hun, a honno’n syth at garreg dy ddrws. Mae’n golygu y bydd dy gysylltiad yn gwbl ddibynadwy, ac y byddi di’n cael y cyflymder rwyt ti’n ei ddisgwyl.

A red outline of a speedometer

Gwibgysylltiad

Cer 20 gwaith yn gynt na’r cyfartaledd cenedlaethol ’da ffeibr llawn Ogi.

Beth ye ffeibr llawn?
An red outline illustration of the Welsh flag

O Gymru, ac yn falch ohoni!

Ein nod ni yw pweru bywyd ar-lein mewn cymunedau ledled Cymru.

Am Ogi
Outline graphic of a hand waving

Wrth wraidd y gymuned

Cydweithio ’da’r cymunedau ryn ni’n eu pweru.

Cefnogi cymunedau
Malcom in the garden on his laptop. His shed is behind him. He's looking away smiling.

Band eang sy’n gwneud nid dweud

“Ers gosod fy ngwasanaeth Ogi, mae pethau wedi bod yn wych.

Mae Ogi wedi rhoi cysylltiad dibynadwy tu hwnt imi, ac mae gen i bob ffydd yn y gwasanaeth. Dyma wir yw’r dyfodol.”

Daeth Malcolm o hyd i gyfres o adnoddau newydd a fyddai’n golygu cyrraedd dilynwyr yn y pedwar ban, a hynny o glydwch ei gartre yn y Fenni.

Ac yntau’n cyflwyno i’w gynulleidfa gan ddefnyddio llawer o ffeiliau sain a lluniau manylder uchel, roedd angen cysylltiad dibynadwy ar Malcom – cysylltiad a fyddai’n rhoi’r profiad gorau posib iddo’i hun ac i’w gynulleidfaoedd.

Beth am fy llinell ffôn?

Gofynna am becyn Llais Ogi wrth gofrestru, neu ychwanega’r gwasanaeth unrhyw bryd. Mae’n debyg i wasanaeth ffôn arferol, ond ei fod yn cael ei ddarparu dros dy linell ffeibr llawn. Mwynha alwadau clir fel cloch ac opsiynau hyblyg am bris anhygoel, a hynny heb linellau ffôn traddodiadol. Dewisa dy becyn, rho dy rif ffôn presennol i mewn, a dalia ati i sgwrsio, hyd yn oed heb dy rif ffôn presennol.

Ishe mwy o wybodaeth?

Ryn ni ’ma i dy helpu i wneud y penderfyniad gore.

Cwestiynau cyffredin am Ogi
Sut ydw i’n gwybod a yw Ogi yn fy ardal i?

Mae Ogi wrthi’n creu rhwydwaith ffeibr llawn mewn cymunedau ledled y de, gyda rhagor i ddod whap. Defnyddia’r gwiriwr côd past i ganfod ble yn union ryn ni, ffonia ni ar 029 2002 0520 neu anfona e-bost i cymraeg@ogi.cymru.

Os wyt ti’n gwsmer cartre sy’n byw yn y de, ond ddim yn un o gymunedau rhwydwaith Ogi, efallai y gallwn ni roi gwasanaeth gwahanol i ti.

Fe allwn ni roi gwasanaethau i fusnesau ble bynnag maen nhw yn y de. Ffonia 029 2002 0535 neu anfona e-bost.

Beth fydd yn digwydd yn ystod y broses osod?

Bydd y broses osod arferol yn cymryd hyd at 1.5 awr. Bydd y tîm yn gosod dy gysylltiad ffeibr llawn, ac yn sicrhau bod dy lwybrydd neu lwybryddion yn barod.

Beth os bydda’ i’n symud tŷ?

Os wyt ti’n bwriadu symud tŷ, efallai y bydd modd i ti symud dy wasanaeth i dy gyfeiriad newydd, er mwyn lleihau’r drafferth a gofalu nad wyt ti’n colli’r gwasanaeth.

Bydd ein gallu i wneud hyn yn dibynnu ar ble mae dy gartre newydd, ac ar natur dy wasanaeth ’da ni ar hyn o bryd. Cysyllta ’da sales@ogi.wales neu ffonia 029 2002 0520 i weld a oes modd i ni helpu.

Os na fydd modd i ni gynnig gwasanaeth i ti yn dy gartre newydd, neu os byddi di’n dewis peidio â chael gwasanaeth Ogi yn dy gyfeiriad newydd, yna bydd angen dod â dy wasanaeth presennol i ben. Bydd ein telerau arferol ar gyfer terfynu gwasanaeth yn berthnasol. Bydd angen i ti ddychwelyd dy lwybrydd neu lwybryddion aton ni, gan ddefnyddio pecyn i’w ddychwelyd yn y post y byddwn ni’n ei roi i ti.

Os bydd modd i ni gynnig gwasanaeth i ti yn y dyfodol, efallai y bydd angen i ti dalu ffi gosod yn dy gyfeiriad newydd. Mae modd i ti ddewis mynd â dy lwybrydd neu dy lwybryddion ’da ti, ond trafoda hyn â’n tîm gwerthu.

Ond mae gen i gontract yn barod?

Mae’n werth holi dy ddarparwr presennol i weld faint fyddai hi’n ei gostio i ddod â dy gontract i ben yn gynnar. Neu rho wybod i’n tîm gwerthu pryd mae’n dod i ben, ac fe allwn ni gysylltu yn ôl bryd hynny!